Coast to Coast advertising opportunity/Cyfle i hysbysebu yn Coast to Coast

0
559

Buckets and spades have disappeared into cupboards for another season, but it’s wise to plan ahead for the 2020 tourism season if you are a local business, and what better way than in Pembrokeshire’s leading free visitor magazine, Coast to Coast.

The Pembrokeshire Coast National Park Authority will be publishing its 38th edition of this award winning magazine from Easter 2020, offering the opportunity for businesses to promote themselves to a readership of one million.

Whether you’re spinning wool on a smallholding,  coasteering off the St Davids Peninsula, selling something delicious and unique or promoting a long-standing venture that needs a bit of a boost, Coast to Coast is picked up at hundreds of outlets across the county during the peak tourism months.

The Authority’s Communications and Marketing Manager Marie Edwards said: “This free publication is an invaluable resource for visitors as it includes a map, bus information, tide table and a wide range of information about the National Park and its beaches and walks.

“There’s also lots of advice on how to get the most out of the culture, heritage and fantastic outdoor opportunities in the Park, along with a pull-out of Activities and Events for visitors and locals to enjoy and experience.

“Deadlines for next year’s publication fall early in December 2019 so plan ahead and book space in this popular publication.”

Coast to Coast advertising packs are now available to download from www.pembrokeshirecoast.wales, or if you would like a pack posted to you, please email communications@pembrokeshirecoast.org.uk or call 01646 624823.

Cyfle i hysbysebu yn Coast to Coast

 

Mae’r bwced a’r rhaw wedi cael eu rhoi i gadw am dymor arall, ond mae’n syniad doeth cynllunio ymlaen llaw ar gyfer tymor twristiaeth 2020 os ydych chi’n fusnes lleol, a pha ffordd well o wneud hynny na hysbysebu yn y cylchgrawn am ddim mwyaf poblogaidd ymysg ymwelwyr yn Sir Benfro, Coast to Coast.

Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cyhoeddi rhifyn 38 o’r cylchgrawn llwyddiannus hwn yn ystod Pasg 2020, ac mae’n gyfle i fusnesau eu hyrwyddo eu hunain i filiwn o ddarllenwyr.

P’un ai a ydych chi’n nyddu gwlân mewn tyddyn, yn gwneud arforgampau oddi ar Benrhyn Dewi, yn gwerthu rhywbeth blasus ac unigryw neu’n hyrwyddo menter hirsefydlog y mae angen hwb bach arni, mae Coast to Coast ar gael mewn cannoedd o leoliadau ledled y sir yn ystod misoedd prysuraf y flwyddyn o ran twristiaeth.

Dywedodd Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata’r Awdurdod, Marie Edwards: “Mae’r cyhoeddiad hwn, sy’n rhad ac am ddim, yn adnodd gwerthfawr iawn i ymwelwyr oherwydd mae’n cynnwys map, gwybodaeth am fysiau, tabl llanw a thrai, a llawer o wybodaeth am y Parc Cenedlaethol a’i draethau a’i deithiau.

“Mae llawer o gyngor ar sut mae cael y gorau o ddiwylliant, treftadaeth a chyfleoedd awyr agored anhygoel y Parc ar gael hefyd, ynghyd â thaflen ô Weithgareddau a Digwyddiadau y gall ymwelwyr a phobl leol eu mwynhau.

“Dechrau mis Rhagfyr 2019 yw’r dyddiad cau ar gyfer cyhoeddiad y flwyddyn nesaf, felly cynlluniwch ymlaen llaw i archebu lle yn y cyhoeddiad poblogaidd hwn.”

Mae pecynnau hysbysebu Coast to Coast ar gael i’w llwytho i lawr o www.pembrokeshirecoast.wales, neu os hoffech chi gael pecyn drwy’r post, anfonwch e-bost at communications@pembrokeshirecoast.org.uk neu ffonio 01646 624823.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle