Reseeding with Multi Species Leys at Moor Farm

0
473
Andrew Rees talking to Chris Duller and Julie Bowes

A Pembrokeshire dairy farmer is growing multi species leys to boost soil health and protect feed supply from dry conditions during the growing season.

Andrew Rees, a Farming Connect Demonstration Farmer, reseeded 5.7 hectares (ha) in the spring with a diverse seed mix including chicory, red clover and plantain.

It was part of his programme to improve land he had bought and to rejuvenate an older ley where soil health was poor.

Project work with Farming Connect involved comparing the performance of a multi species seed mix to a ryegrass ley, grown alongside each other in two halves of one field.

“We sowed the seed in April and the multi species ley has been competing well against the ryegrass,’’ observes Mr Rees, who grazes his spring-calving dairy herd from mid-February to mid-November.

“It has had a flatter growth curve through the season but in dry periods like we experienced last summer I would expect it to keep growing for longer than the ryegrass because the plants are deep rooting.’’

Multi species leys provide livestock with nutritional benefits not available in grass and they boost soil health but selecting a mix that matches the livestock system is important.

During an open day at Moor Farm, independent grassland and soil specialist Chris Duller said there is no standard mix and he advises scrutinising mixes to ensure they fit the system.

Whilst diverse species can provide high levels of energy, protein and mineral status, dry matter (DM) can be low, he pointed out.

“Cows can do well on alternative species on a dry day but in wetter conditions you might find that they can’t physically eat enough to provide the protein and energy they need to perform,’’ he said.

They can also present challenges when measuring field covers.

“Red clover, plantain and chicory all grow at different heights so measuring covers to calculate growth rates can be problematic,’’ said Mr Duller.

He advised farmers not to over-graze these leys, especially in the autumn.

“With a conventional grass ley farmers will know to graze fields to 1500kgDM/ha but chicory, plantain and clover have crowns that can be damaged by over-grazing,’’ he said.

Attention to detail at the reseeding stage will result in better performing leys and good return on investment, he advised.

“Reseeding isn’t cheap, but if done well all your reseeding costs can be recovered in the first year of a new ley.’’

Crucially, the seed bed conditions must be at an optimum – test the nutrient status of soils and ensure they are free of weeds and pests.

Brassicas have been used at Moor Farm as a pioneer break crop to help deliver these priorities.

The timing of reseeding is crucial – later in the season there are fewer the options for dealing with poor performance.

Weed control through grazing, cutting or topping becomes trickier in the autumn, and sprays can be less effective as temperatures drop and day length shortens.

“Yes, there can be more weeds if you reseed early on in the year but countering them is much easier,’’ said Mr Duller.

Choose the right seed mix for its intended use. Mr Duller said 75% of grass seed sown in the UK is a ‘cut and graze’ mix, considered by many farmers as a safe option.

But, he pointed out: “It can’t be brilliant at both so you get a mediocre result overall. Invest some time in studying the Recommended Grass and Clover List and pick the right balance of species and varieties to suit your conditions.’’

Farming Connect’s South West Wales Dairy Technical Officer, Abigail James, said with reseeding costing around £200/acre, getting it right is important.

“To get the best return on investment it is important that factors such as soil fertility are sorted out in advance,’’ she said.

Farming Connect supports farmers with up to 100% funding for analysing their soils. By applying to the Farming Connect Advisory Service, individual farms can receive 80% funding or, if they apply as a group of three or more, there is 100% funding.

Farming Connect, which is delivered by Menter a Busnes and Lantra, is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and Welsh Government.

Ail hadu Gwyndonnydd Amlrywogaeth ar Fferm Moor Farm

 Mae ffermwr llaeth o Sir Benfro yn tyfu gwyndonnydd amlrywogaeth er mwyn rhoi hwb i iechyd y pridd a diogelu’r cyflenwad porthiant rhag amodau sych yn ystod y tymor tyfu.

Penderfynodd Andrew Rees, un o Ffermwyr Arddangos Cyswllt Ffermio, ailhadu 5.7 hectar (ha) yn ystod y gwanwyn gan ddefnyddio cymysgedd o hadau amrywiol a oedd yn cynnwys ysgall y meirch, meillion cochion a llyriad.

Roedd yn rhan o’i raglen i wella’r tir yr oedd wedi’i brynu ac i adfer gwndwn hynach lle’r oedd iechyd y pridd yn wael.

Yn ystod y gwaith prosiect gyda Cyswllt Ffermio, cymharwyd perfformiad cymysgedd o hadau amlrywogaeth gyda gwndwn rhygwellt, a dyfwyd yn ymyl ei gilydd mewn dau hanner un cae.

“Buom yn hau’r hadau ym mis Ebrill ac mae’r gwndwn amlrywogaeth wedi bod yn cystadlu’n dda yn erbyn y rhygwellt,” dywedodd Mr Rees, sy’n pori ei fuches laeth sy’n lloia yn y gwanwyn o ganol fis Chwefror tan ganol fis Tachwedd.

“Mae wedi bod yn gromlin tyfiant mwy gwastad trwy gydol y tymor, ond yn ystod cyfnodau sych fel y cawsom yn ystod yr haf y llynedd, byddwn yn disgwyl iddo barhau i dyfu am gyfnod hwy na’r rhygwellt gan bod gwreiddiau dyfnion gan y planhigion.’’

Mae gwyndonnydd amlrywogaeth yn cynnig buddion maethol i dda byw, nad ydynt ar gael mewn porfa, ac maent yn rhoi hwb i iechyd y pridd, ond mae’n bwysig dewis cymysgedd sy’n cyd-fynd â’r system da byw.

Yn ystod diwrnod agored a gynhaliwyd yn Moor Farm, dywedodd Chris Duller, arbenigwr annibynnol ym maes glaswelltir a phridd, nad oes cymysgedd safonol, a’i fod yn cynghori pobl i edrych ar wahanol gymysgeddau er mwyn sicrhau eu bod yn addas i’r system.

Er y gall rhywogaethau amrywiol gynnig lefelau uchel o ynni, protein a statws mwynol, nododd y gall y deunydd sych (DM) fod yn isel.

“Gall gwartheg wneud yn dda ar rywogaeth amgen ar ddiwrnod sych, ond pan fo’r tywydd yn wlypach, efallai y byddwch yn darganfod nad ydynt yn gallu bwyta digon i ddarparu’r protein a’r ynni y maent eu hangen er mwyn perfformio,” meddai.

Gallant arwain at heriau wrth fesur y gorchudd mewn cae.

“Mae meillion cochion, llyriad ac ysgall y meirch yn tyfu i wahanol uchder, felly gall mesur y gorchudd er mwyn cyfrifo cyfraddau tyfiant beri problemau,” dywedodd Mr Duller.

Cynghorodd ffermwyr i beidio gorbori’r gwyndonnydd hyn, yn enwedig yn ystod yr hydref.

“Gyda gwyndonnydd confensiynol, bydd ffermwyr yn gwybod i bori caeau i 1500kgDM/ha, ond mae gan ysgall y meirch, llyriad a meillion cochion gorunau sy’n gallu cael eu difrodi trwy eu gorbori,” dywedodd.

Bydd rhoi sylw i’r manylion wrth ailhadu yn arwain at wyndonnydd a fydd yn perfformio’n well, gan gynnig elw da ar y buddsoddiad, cynghorodd.

“Nid yw ailhadu yn rhad, ond o’i wneud yn dda, gallwch adennill eich holl gostau ailhadu yn ystod blwyddyn gyntaf gwndwn newydd.”

Y pwynt hollbwysig yw bod yn rhaid i amodau’r gwely hadau fod ar eu gorau – dylech brofi statws maethol pridd, gan sicrhau ei fod yn rhydd o chwyn a phlâu.

Defnyddiwyd cnydau bresych yn Moor Farm fel cnwd toriad arloesol er mwyn helpu i gyflawni’r blaenoriaethau hyn.

Mae amseriad y gwaith ailhadu yn hollbwysig – yn nes ymlaen yn y tymor, ceir llai o ddewisiadau er mwyn delio â pherfformiad gwael.

Bydd rheoli chwyn trwy bori, torri neu docio yn mynd yn anoddach yn yr hydref, ac mae chwistrellau yn gallu bod yn llai effeithiol wrth i’r tymheredd ostwng ac wrth i’r diwrnodau fyrhau.

“Ydy, mae’n bosibl y bydd mwy o chwyn os byddwch yn ailhadu yn gynnar yn y flwyddyn, ond mae’n llawer haws delio â nhw,” dywedodd Mr Duller.

Dewiswch y gymysgedd hadau cywir ar gyfer y defnydd yr ydych yn bwriadu ei wneud ohono.  Dywedodd Mr Duller bod 75% o hadau glaswellt sy’n cael eu hau yn y DU yn gymysgedd ‘torri a phori’, a ystyrir yn ddewis diogel gan nifer o ffermwyr.

Ond, nododd:  “Ni all fod yn wych wrth gyflawni’r ddau, felly byddwch yn cael canlyniad cymedrol yn gyffredinol.  Neilltuwch ychydig amser yn astudio’r Rhestr Glaswellt a Meillion a Argymhellir a dewiswch gydbwysedd cywir y rhywogaethau a’r amrywiadau sy’n addas i’ch amodau chi.”

Gan bod ailhadu yn costio tua ÂŁ200/erw, dywedodd Swyddog Technegol Llaeth Cyswllt Ffermio yn Ne Orllewin Cymru, Abigail James, ei bod yn bwysig gwneud y dewis iawn.

“Er mwyn sicrhau’r elw gorau ar y buddsoddiad, mae’n bwysig rhoi sylw i ffactorau megis ffrwythlondeb y pridd ymlaen llaw,” dywedodd.

Mae Cyswllt Ffermio yn cynorthwyo ffermwyr gyda chyllid o hyd at 100% er mwyn dadansoddi eu pridd.  Trwy wneud cais i Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, gall ffermydd unigol gael cyllid o 80% neu, os byddant yn gwneud cais fel gržp o dri neu fwy, mae cyllid o 100% ar gael.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle