The 2019 Census Rehearsal in Carlisle is nearly upon us and deputy national statistician Iain Bell is gearing up for it by cycling the length and breadth of England and Wales.
The man in charge of delivering the census will be cycling between the four rehearsal areas this weekend. It’s a ride of some 500 miles, with a total climb higher than Mount Kilimanjaro.
Starting in Carlisle on Friday September 20, Iain will head south to Ceredigion, arriving in Aberystwyth on the Saturday, before finishing in Hackney and Tower Hamlets on Monday September 23, where he will visit one of the schools taking part in the census Let’s Count campaign.
And he will be doing the ride all in the name of local causes, raising money for the chosen charities of mayors and council leaders in the rehearsal areas. In Carlisle those charities – selected by mayor Cllr Marilyn Bowman – are CFM’s Cash for Kids, Guide Dogs UK and the Jigsaw Children’s Hospice.
Iain said: “All of us at the Office for National Statistics want to say a big thank you to the people in the rehearsal areas who are helping us make sure we deliver the best possible census.
“A successful census will ensure everyone from local government to charities can put services and funding in the right places. What’s really spurring us on with this ride is raising money for local causes and giving back to your community.”
The rehearsal will enable the Office for National Statistics (ONS) to test some of the systems and processes it has put in place ahead of the digital-first 2021 Census. The census happens once every ten years and gives the most accurate estimate of all the people and households in England and Wales.
People in each of the chosen areas will be asked to complete a questionnaire about those living in their household on 13 October 2019. The rehearsal will be online, with help for those who need it. Residents will be invited to take part later this month.
To find out more about who Iain is raising money for and sponsorship details, head to: https://www.justgiving.com/crowdfunding/cyclethecensusrehearsal
Cychwyn ar y daith i gynnal Ymarfer y Cyfrifiad 2019 yng Ngheredigion
Mae hi bron yn amser cynnal Ymarfer y Cyfrifiad 2019 yng Ngheredigion ac mae’r dirprwy ystadegydd gwladol, Iain Bell, yn paratoi drwy feicio ar hyd a lled Cymru a Lloegr.
Bydd y dyn sy’n gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yn beicio rhwng pedair ardal yr ymarfer y penwythnos yma. Mae’n daith tua 500 milltir i gyd, a bydd yn dringo cyfanswm sy’n uwch na mynydd Kilimanjaro.
Bydd Iain yn cychwyn o neuadd ddinesig Caerliwelydd ddydd Gwener 20 Medi, gan deithio tua’r de i Geredigion lle y bydd yn cyrraedd Aberystwyth ar y dydd Sadwrn, cyn cyrraedd pen y daith yn Hackney a Tower Hamlets ddydd Llun 23 Medi. Yno bydd yn ymweld ag un o’r ysgolion sy’n cymryd rhan yn ymgyrch Gadewch i Ni Gyfrif! y cyfrifiad.
Bydd ef yn cyflawni’r gamp hon er budd achosion lleol yn ardaloedd yr ymarfer, gan godi arian i’r elusennau a ddewiswyd gan feiri ac arweinwyr cynghorau. Yng Ngheredigion, yr elusen dan sylw yw Hafal – a ddewiswyd gan faer Cyngor Tref Aberystwyth, Mari Turner – sy’n helpu pobl i wella o salwch meddwl difrifol.
Dywedodd Iain: “Hoffai pob un ohonom yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddiolch o galon i’r bobl yn ardaloedd yr ymarfer sy’n ein helpu ni i wneud yn siŵr ein bod ni’n cynnal y cyfrifiad gorau posibl.
“Bydd cyfrifiad llwyddiannus yn sicrhau bod pawb, o lywodraeth leol i elusennau, yn gallu darparu gwasanaethau a chyllid yn y mannau cywir. Yr hyn sydd wir yn ein sbarduno ni ar y daith hon yw codi arian i achosion lleol a rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.”
Bydd yr ymarfer yn galluogi’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i brofi rhai o’r systemau a’r prosesau y mae wedi’u rhoi ar waith cyn Cyfrifiad digidol yn gyntaf 2021. Mae’r cyfrifiad yn digwydd unwaith bob 10 mlynedd ac mae’n rhoi’r amcangyfrif mwyaf cywir o’r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr.
Gofynnir i bobl ym mhob un o’r ardaloedd a ddewiswyd gwblhau holiadur am y rhai sy’n byw yn eu cartref ar 13 Hydref 2019. Bydd yr ymarfer ar lein, a bydd cymorth ar gael os bydd angen. Caiff trigolion eu gwahodd i gymryd rhan yn nes ymlaen y mis hwn.
I gael gwybod rhagor am yr achosion da y bydd Iain yn codi arian ar eu cyfer, ac am fanylion noddi, ewch i: https://www.justgiving.com/crowdfunding/cyclethecensusrehearsal
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle