Coastal erosion prompts public participation/Erydu arfordirol yn annog y cyhoedd i wneud eu rhan

0
443
A walker above Porth y Rhaw near Solva records a photo for the National Park Authority’s Changing Coasts project.

There are an incredible number of prehistoric coastal forts dotted along or near the Pembrokeshire Coast Path in the Pembrokeshire Coast National Park, with one at Porth y Rhaw near Solva coming under close scrutiny.

The National Park Authority’s Changing Coasts project is recording coastal change from 16 fixed point photography posts along the Pembrokeshire coastline, including a post which has been fixed above the prehistoric site at Porth y Rhaw, a scheduled monument.

The National Park Authority Volunteering Development Officer Rebecca Evans said: “We are hoping people walking this popular part of the Pembrokeshire Coast Path will stop and help us record this fascinating site, which has signs of occupation from the Mesolithic period up to around 1915, when a working mill was stood down.”

“The Changing Coasts project helps us to record changes and builds an invaluable picture at this and other coastal sites of cliff erosion, changing vegetation and sand levels.

“It’s very simple, take a picture from your phone from a Changing Coasts fixed post, and email it to photos@pembrokeshirecoast.org.uk.”

The Porth y Rhaw site was first described formally over 200 years ago, and over the past few decades the Dyfed Archaeological Trust undertook archaeological investigation there. This has been more recently followed by excavations at the site earlier in 2019 through collaboration between the National Trust, Cadw and the Dyfed Archaeological Trust.

The post at Porth y Rhaw was funded in collaboration with the Climate, Heritage and Environments of Reefs, Islands and Headlands (CHERISH) project, a European-funded project led by the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales.

For more information on the exact location of Porth y Rhaw and other Changing Coasts post sites, please visit www.pembrokeshirecoast.wales/changingcoasts.

Erydu arfordirol yn annog y cyhoedd i wneud eu rhan

Mae nifer anhygoel o gaerau arfordirol cynhanesyddol wedi’u gwasgaru ar hyd a gerllaw Llwybr Arfordir Sir Benfro ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac mae un ym Mhorth y Rhaw ger Solfach yn cael llawer o sylw.

Mae’r prosiect Arfordir ar Daith gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cofnodi newidiadau arfordirol mewn 16 o safleoedd ffotograffiaeth sefydlog ar hyd arfordir Sir Benfro, gan gynnwys un uwchben y safle cynhanesyddol ym Mhorth y Rhaw, sy’n heneb gofrestredig.

Dywedodd Rebecca Evans, Swyddog Datblygu Gwirfoddoli Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl sy’n cerdded ar hyd y rhan boblogaidd yma o Lwybr Arfordir Sir Benfro yn ein helpu ni i gofnodi’r safle diddorol yma. Mae arwyddion o fywyd ar y safle o’r cyfnod Mesolithig nes tua 1915, pan gaewyd y felin a oedd yma.”

Mae’r prosiect Arfordir ar Daith yn ein helpu ni i gofnodi newidiadau. Mae hefyd yn creu darlun gwerthfawr yn y lleoliad yma, ac mewn safleoedd arfordirol eraill, o achosion o newid mewn lefelau tywod a llystyfiant ynghyd â chreigiau’n erydu.

“Mae’n syml iawn. Tynnwch lun ar eich ffôn o un o safleoedd sefydlog Arfordir ar Daith, a’i anfon dros e-bost i photos@pembrokeshirecoast.org.uk.”

Cafodd safle Porth y Rhaw ei ddisgrifio’n ffurfiol am y tro cyntaf dros 200 mlynedd yn ôl, ac mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed wedi bod yn gwneud archwiliad archaeolegol yno dros y degawdau diwethaf.  Yn dilyn hynny, gwnaed gwaith cloddio ar y safle yn gynharach yn 2019, yn sgil cydweithio rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cadw ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed.

Cafodd y safle ffotograffiaeth sefydlog ym Mhorth y Rhaw ei ariannu ar y cyd â’r prosiect Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylchedd Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd (CHERISH), prosiect a ariennir gan Ewrop ac sy’n cael ei arwain gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

I gael mwy o wybodaeth am union leoliad Porth y Rhaw a safleoedd sefydlog eraill Arfordir ar Daith, ewch i www.pembrokeshirecoast.wales/changingcoasts.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle