Joining Forces to give 2019 Armed Forces Festival a wider reach

0
446

Event organisers have come out in force to make this year’s Mayor of Neath Port Talbot’s Armed Forces Festival a County Borough-wide experience.

The Mayor of Neath Port Talbot, Councillor Scott Jones explained:

“Earlier in the year we put out a call for events to affiliate with us so that we could extend the Festival to more places across the county borough and run it over a longer period of time.

“We have been delighted with the response and I would like to thank all of the event organisers who have come forward in different parts of Neath Port Talbot.

“The full and varied programme for 2019 goes to show how much more we can achieve when we all work together and it means the Armed Forces Festival is now an umbrella event for the various activities throughout the County Borough.”

The Festival runs from Monday 28 October to Monday 11 November, and is supported by The Wave, Swansea Sound and Port Talbot’s Aberafan Shopping Centre.

Two core events, which proved popular in 2018, are set to return this year. The Festival Concert will take place on Friday 1 November at the Princess Royal Theatre and there will be displays and exhibitions on Saturday 2 November, but these take place indoors in the Aberafan Shopping Centre.

There will be public Remembrance events at Neath, Port Talbot, Pontardawe and Briton Ferry, to ensure the sacrifices of those who served are never forgotten.

New events joining the Festival this year include a 1940s tea party, the Port Talbot Farmers’ Market, the Poppy Bridge Project at Jersey Park in Briton Ferry and a display by Skewen Historical Society in Neath Civic Centre.

Baglan, Glynneath, Neath, Pontardawe and Port Talbot Libraries will also be running a range of events as part of the Festival. These will include poppy craft sessions, World War 1 Displays and talks on topics such as ‘remembrance’ and ‘Pontardawe at War’.

If you’re involved in an organisation that’s holding an event in Neath Port Talbot between 28 October and 11 November and would like to affiliate with the Festival, there’s still time. Please contact Grace Halfpenny at g.c.halfpenny@npt.gov.uk for more information.

More information about the Concert and Festival can be found on the Mayor of Neath Port Talbot’s website www.npt.gov.uk/aff.

Uno i ehangu Gŵyl Lluoedd Arfog 2019

 Mae trefnwyr digwyddiadau wedi dod at ei gilydd er mwyn gwneud Gŵyl Lluoedd Arfog Maer Castell-nedd Port Talbot eleni’n brofiad ar draws y fwrdeistref sirol gyfan.

Esboniodd Maer Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Scott Jones,

“Yn gynharach yn y flwyddyn, gofynnom i drefnwyr digwyddiadau gysylltu â ni fel y gallem ehangu’r ŵyl i fwy o leoedd ledled y fwrdeistref sirol a’i chynnal am gyfnod hwy.

 “Rydym wedi bod wrth ein boddau â’r ymateb a hoffem ddiolch i bob un o’r trefnwyr digwyddiadau o wahanol rannau o Gastell-nedd Port Talbot am gynnig eu gwasanaeth.

 “Mae’r rhaglen lawn ac amrywiol ar gyfer 2019 yn dangos gallwn gyflawni cymaint yn fwy pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd, ac mae’n golygu bod Gŵyl y Lluoedd Arfog bellach yn ddigwyddiad ymbarél ar gyfer y gweithgareddau amrywiol ledled y fwrdeistref sirol.”

 Cynhelir yr ŵyl o ddydd Llun 28 Hydref i ddydd Llun 11 Tachwedd, ac fe’i cefnogir gan The Wave, Sain Abertawe a Chanolfan Siopa Aberafan, Port Talbot.

Disgwylir i ddau ddigwyddiad craidd, a fu’n boblogaidd yn 2018, ddychwelyd eleni. Cynhelir cyngerdd yr ŵyl nos Wener 1 Tachwedd yn Theatr y Dywysoges Frenhinol a bydd arddangosiadau ac arddangosfeydd ddydd Sadwrn 2 Tachwedd, ond cynhelir y rhain dan do yng Nghanolfan Siopa Aberafan.

Cynhelir digwyddiadau coffa cyhoeddus yng Nghastell-nedd, Port Talbot, Pontardawe a Llansawel i sicrhau nad yw aberth y rheini fu’n gwasanaethu byth yn mynd yn angof.

Bydd digwyddiadau newydd ar gyfer Gŵyl eleni’n cynnwys te parti’r 1940au, marchnad ffermwyr Port Talbot, prosiect Pont y Pabis ym mharc Jersey yn Llansawel ac arddangosfa gan Gymdeithas Hanesyddol Sgiwen yng Nghanolfan Ddinesig Castell-nedd.

Bydd llyfrgelloedd Baglan, Glyn-nedd, Castell-nedd, Pontardawe a Phort Talbot hefyd yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau fel rhan o’r ŵyl. Bydd y rhain yn cynnwys sesiynau crefft pabis, arddangosfeydd ar y Rhyfel Byd cyntaf a sgyrsiau ar bynciau megis ‘Coffáu’ a ‘Pontardawe yn ystod y Rhyfel’.

Os ydych yn ymwneud â sefydliad sy’n cynnal digwyddiad yng Nghastell-nedd Port Talbot rhwng 28 Hydref ac 11 Tachwedd a hoffech fod yn gysylltiedig â’r ŵyl, mae amser o hyd i wneud hynny. Cysylltwch â Grace Halfpenny yn g.c.halfpenny@npt.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Mae rhagor o wybodaeth am y gyngerdd a’r ŵyl ar gael ar wefan Maer Castell-nedd Port Talbot yn www.npt.gov.uk/gla.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle