FUND OPEN FOR YOUNG EVENT ORGANISERS

0
749

 

https://www.youtube.com/watch?v=IdZcpc9ivYI&feature=youtu.be

Budding young creatives are getting the chance to pitch their creative event ideas before a panel of experts to claim £2020.

#2020 is a Dragons Den-style initiative run by theatre company Frân Wen who have set up the scheme for 16 to 25 year olds.

In addition to administering the fund, Frân Wen will provide support and guidance to the winning bid.

The scheme will support a young person or group who have an original idea for a creative event and are looking for support to help turn their ideas into reality.

“We’re looking for innovative and original ideas, but it’s completely up to the young people what they put forward. It could be an online event, a music and theatre hybrid gig or a digital exhibition,” said Mari Morgan from Frân Wen.

“It’s about us empowering young people to flourish and also boosting their enterprise and creative skills.”

The deadline for entries is Friday 1 November 2019.

A shortlist will be selected from the applications and they will be asked to pitch in front of a panel of specialists at M-SParc, the new science park on Anglesey, on Saturday 11 January 2020.

The project is supported by Arts Council Wales and Big Ideas Wales, the enterprise agency dedicated to helping young people develop their business and entrepreneurial skills.

The successful pitch will receive £2020 and professional support will be provided by artists and industry experts to help develop and manage their event.

“Frân Wen’s participatory work has already supported thousand of young people to participate in the arts and #2020 will help us build on this success,” added Mari, who is Frân Wen’s Creative Mentor.

“We are fiercely dedicated to ensuring that young people’s voices are heard in influencing the future of the arts in Wales. They have told us that arts and culture play an important role in their lives and #2020 is delighted to support their passion.”

Those interested in participating in #2020 should email mari@franwen.com by Friday 1 November 2019, stating what the idea is, how it will add value to the arts and what support you would like from Frân Wen to make it happen.

Further information can be found on: www.franwen.com/en/events/2020/

CRONFA CREU DIGWYDDIAD CYFFROUS I BOBL IFANC 

Mae cronfa arbennig yn gwahodd pobl ifanc i gyflwyno syniadau am ddigwyddiad creadigol newydd.

Menter gan Frân Wen i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed yw #2020 lle bydd cyfle i hawlio £2020 i gynnal y digwyddiad.

Yn ogystal â’r pot ariannol, bydd Frân Wen yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad proffesiynol i’r ymgeisydd llwyddiannus.

Bydd y cynllun yn cefnogi unigolyn neu grŵp sydd yn cyflwyno syniad gwreiddiol am ddigwyddiad creadigol ac yn chwilio am gefnogaeth i helpu gwireddu’r syniad.

“Rydym yn chwilio am bobl ifanc sydd a syniadau cyffrous ond sydd heb y profiad, y gefnogaeth a’r cyllid i’w wireddu,” dywedodd Mari Morgan o Frân Wen.

“Mae’r gronfa yn gwbl agored felly rydym yn annog unrhyw un sydd a syniad i fentro – gall fod yn ddigwyddiad ar-lein, arddangosfa ddigidol, gig sy’n plethu theatr a cherddoriaeth.

“Mae’n ymwneud â rhoi’r cyfle i bobl ifanc ffynnu a hybu eu sgiliau mentergarwch a chreadigol.”

Dyddiad cau ceisiadau yw dydd Gwener, 1 Tachwedd.

Bydd rhestr fer yn cael ei ddewis a bydd gofyn i’r ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rownd derfynol gyflwyno pitsh gerbron panel o arbenigwyr yn M-SParc, parc gwyddoniaeth newydd ar Ynys Môn, ar ddydd Sadwrn 11 Ionawr 2020.

Cefnogir y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Syniadau Mawr Cymru, y cynllun sy’n cefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau busnes a mentergarwch.

Bydd y pitsh llwyddiannus yn derbyn £2020 a chefnogaeth broffesiynol gan arbenigwyr yn y maes i’w cefnogi i ddatblygu a rheoli’r digwyddiad.

Ychwanegodd Mari, sydd yn Fentor Creadigol yn Frân Wen: “Mae gwaith cyfranogi Frân Wen yn barod wedi cefnogi miloedd o bobl ifanc i gymryd rhan yn y celfyddydau a bydd #2020 yn helpu ni adeiladu ar y llwyddiant hwn. Mae #2020 yn cynnig y rhyddid a’r gefnogaeth i bobl ifanc ddatblygu eu syniadau eu hunain gan wneud iddynt ystyried y ffactorau ymarferol a gweinyddol yn ogystal â’r creadigol.

“Rydym yn angerddol am sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed mewn trafodaethau am ddyfodol y celfyddydau yng Nghymru. Maent wedi dweud wrthym bod y celfyddydau a diwylliant yn rhan hanfodol o’u bywydau ac mae #2020 yn falch iawn o gefnogi eu hangerdd.”

Elan Elidyr, dawnswraig ifanc oedd a’i bryd ar archwilio dawns gyfoes a cherddoriaeth pop ddaeth i’r brig llynedd.  Dilynwch y linc isod i wybod mwy am Elan a phrosiect llwyddiannus #2018.

https://www.youtube.com/watch?v=IdZcpc9ivYI&feature=youtu.be

Dylai’r rhai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn #2020 anfon neges e-bost at mari@franwen.com, gan nodi’n fras beth yw’r syniad, sut y bydd yn ychwanegu gwerth at y celfyddydau a pha gefnogaeth yr hoffech chi gan Frân Wen i wneud hyn digwydd.  

Mae rhagor o fanylion ar gael ar: www.franwen.com/events/2020/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle