ONS – Get help with filling in your census rehearsal forms

0
534

There’s still time to get help filling in the census rehearsal questionnaire.

Residents of Ceredigion who haven’t yet taken part in the rehearsal and want help from the Office for National Statistics will have the chance to do so at Rheidol Centre on Friday 1 November from 10am until 1pm.

Thousands of residents have successfully completed their census rehearsal questionnaire already. For residents who have not, there is still time to get involved.

The more people who respond now in Ceredigion, the more accurate information the ONS will have to plan for the success of the national event in 2021 which helps inform vital public services such as the number of children’s school places, hospital and GP services and social care provision.

Deputy National Statistician Iain Bell said: “Everyone benefits from the census. It informs decisions nationally and locally on vital services and issues like diversity.

“And it is a massive undertaking. In 2021 we’ll be contacting nearly 30 million households and we’re holding a rehearsal in your area now, to make sure everything is working as it should.”

For people who are unable to attend on Friday, there will be another session at Pontrhydfendigiad pavilion on Saturday 2 November at the Young farmers club county Eisteddfod.

Alternatively, for face-to-face help completing the rehearsal questionnaire online, householders can attend Aberystwyth library between 9.30am and 4.30pm during week days or go to their mobile library service.

There is also help available at the contact centre on 0800 169 2021, online help at census.gov.uk and a text number, 86677.

The Office for National Statistics produces the numbers that matter most– on the economy and business, people, population and communities. Operating impartially and free of political control, we are mobilising the power of data to help Britain make better decisions and improve lives.

Cael help i lenwi ffurflen ymarfer y cyfrifiad

Mae amser i gael help i lenwi holiadur ymarfer y cyfrifiad o hyd.

Bydd trigolion Ceredigion nad ydynt wedi cymryd rhan yn yr ymarfer eto ac sydd am gael help gan dîm y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cael y cyfle i wneud hynny yng Nghanolfan Rheidol ddydd Gwener 1 Tachwedd rhwng 10am ac 1pm.

Mae miloedd o drigolion eisoes wedi cwblhau holiadur ymarfer y cyfrifiad yn llwyddiannus. I drigolion nad ydynt wedi gwneud hynny, mae amser i gymryd rhan o hyd.

Gorau po fwyaf sy’n ymateb yng Ngheredigion nawr, fel bod gan SYG y wybodaeth fwyaf cywir posibl i gynllunio ar gyfer llwyddiant y digwyddiad cenedlaethol yn 2021 sy’n helpu i lywio gwasanaethau cyhoeddus hanfodol fel nifer y lleoedd i blant mewn ysgolion, gwasanaethau mewn ysbytai a meddygfeydd, a darpariaeth gofal cymdeithasol.

Meddai’r Dirprwy Ystadegydd Gwladol, Iain Bell: “Mae pawb yn cael budd o’r cyfrifiad. Mae’n llywio penderfyniadau yn genedlaethol ac yn lleol o ran gwasanaethau hanfodol a materion fel amrywiaeth.

“Ac mae’n dasg anferthol. Yn 2021, byddwn yn cysylltu â bron 30 miliwn o gartrefi ac rydym yn cynnal ymarfer yn eich ardal chi nawr er mwyn gwneud yn siŵr bod popeth yn gweithio fel y dylai.”

I bobl nad ydynt yn gallu dod ddydd Gwener, bydd sesiwn arall ym mhafiliwn Pontrhydfendigaid ddydd Sadwrn 2 Tachwedd yn Eisteddfod Sir y Ffermwyr Ifanc.

Fel arall, i gael help wyneb yn wyneb i gwblhau holiadur yr ymarfer ar lein, gall deiliaid cartrefi fynd i lyfrgell Aberystwyth rhwng 9.30am a 4.30pm yn ystod yr wythnos neu fynd i’w gwasanaeth llyfrgell deithiol.

Mae help ar gael gan y ganolfan gyswllt hefyd drwy ffonio 0800 169 2021, help ar-lein yn cyfrifiad.gov.uk a rhif testun, sef 86677.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle