Temporary suspension of parking enforcement at Glangwili and Prince Philip hospitals | Atal rheolau parcio yn ysbytai Glangwili a Tywysog Philip dros dro

0
559

In August 2019, a new parking enforcement system was implemented to protect parking spaces for patients and visitors at Glangwili General Hospital in Carmarthen and at Prince Philip Hospital in Llanelli.

This enforcement was in the form of Automatic Number Plate Recognition (ANPR) cameras and the introduction of a four hour stay limit for patients and visitors.

While this has improved parking availability for patients and visitors, the decision has been made to temporarily suspend the parking enforcement following feedback from staff until additional parking improvement schemes have been implemented.

Until these schemes are in place and show improved parking availability for staff:

  • Parking Charge Notices (PCNs) will only be issued to those parked inappropriately i.e. causing an obstruction or to cars parking in zero tolerance zones.
  • Patients and visitors who need to park for over four hours are asked to input their registration details into one of the validation terminals available across both hospitals. However, during this temporary suspension no PCNs will be issued to unregistered vehicles exceeding the four hour limit
  • Members of staff with a parking permit who need to park as a patient or visitor should when not on duty must request temporary access to use the public (blue) car parks by contacting the Central Transport Unit on 01267 229620 or use their permit to park in a staff (red) or mixed (purple) car park.

Steve Moore, Chief Executive of Hywel Dda University Health Board (UHB), said: “The decision to introduce parking enforcement at Glangwili and Prince Philip hospitals was in response to long running difficulties that our patients and visitors have experienced when attending appointments or visiting loved ones. However, the changes made did not have the impact we hoped for so we are having to consider other options.

“I want to reassure members of the public that this is a temporary measure and call on staff to do their very best to refrain from parking in public car parks when on duty while we scope parking improvement schemes as a priority.

“Our choices are limited but I am confident we can find some solutions. We are going to need the help of our staff, however, to make a real difference.

“I’d like to thank all members of staff who have met with me to discuss what these possible solutions could be. We know we did not get this right for staff and we need to work with you to make sure that the decision made improves the parking experience for both staff and visitors.”

PCNs issued to staff parked in public car parks will be cancelled and refunds given. Please note this does not apply to PCNs issued to those parked in zero tolerance zones.

For more information please visit www.hywelddahb.wales.nhs.uk/parking

Atal rheolau parcio yn ysbytai Glangwili a Tywysog Philip dros dro

Ym mis Awst 2019, rhoddwyd ar waith system orfodaeth parcio newydd er mwyn diogelu lleoedd parcio i gleifion ac ymwelwyr yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin ac Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli.

Roedd yr orfodaeth hon ar ffurf camerâu Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig a chyflwyno terfyn amser o bedair awr i gleifion ac ymwelwyr.

Er bod hyn wedi gwella argaeledd parcio i gleifion ac ymwelwyr, gwnaed y penderfyniad i atal yr orfodaeth parcio dros dro yn dilyn adborth staff tan i’r cynlluniau gwella parcio ychwanegol gael eu rhoi ar waith.

Nes bod y cynlluniau hyn ar waith ac yn dangos gwelliant mewn argaeledd parcio ar gyfer staff:

  • Dim ond i’r rhai hynny sy’n parcio’n amhriodol y rhoddir Hysbysiadau Tâl Cosb Parcio h.y. achosi rhwystr neu barcio mewn parthau dim goddefgarwch
  • Gofynnir i gleifion ac ymwelwyr sydd angen parcio am dros bedair awr i fewnbynnu rhif cofrestru eu cerbyd i un o’r peiriannau dilysu parcio sydd ar gael ar draws y ddau ysbyty. Fodd bynnag, yn ystod yr ataliad dros dro hwn, ni fydd Hysbysiadau Tâl Cosb Parcio yn cael eu rhoi i unrhyw gerbyd sy’n mynd dros y terfyn amser o bedair awr a sydd heb ei fewnbynnu i beiriant.
  • Dylai aelodau o staff sydd â thrwydded barcio a sy’n mynychu’r naill ysbyty neu’r llall fel claf neu ymwelydd (h.y. dim ar ddylwtswydd) wneud cais i’r Uned Drafnidiaeth Ganolog ar 01267 229620 am hawl dros dro i ddefnyddio’r meysydd parcio cyhoeddus (glas). Fel arall, dylent ddefnyddio’u trwydded barcio yn y maes parcio staff (coch) neu’r maes parcio cymysg (porffor).

Meddai Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Gwnaed y penderfyniad i gyflwyno gorfodaeth parcio yn ysbytai Glangwili a Tywysog Philip mewn ymateb i anawsterau y mae ein cleifion ac ymwelwyr wedi profi wrth fynychu apwyntiadau neu ymweld ag anwyliaid. Fodd bynnag, ni gafodd y newidiadau yr effaith y dymunol, felly mae’n rhaid i ni ystyried opsiynau eraill.

“Rwyf am dawelu meddwl aelodau’r cyhoedd mai mesur dros dro yw hwn, a galwaf ar staff i wneud eu gorau glas i beidio â pharcio yn y meysydd parcio cyhoeddus pan ar ddyletswydd. Mae ystyried cynlluniau i wella sefyllfa parcio yn flaenoriaeth i ni.

“Mae’r opsiynau sydd ar gael i ni yn brin, ond rwy’n hyderus y gallwn ddod o hyd i rai atebion. Fodd bynnag, er mwyn gwneud gwir wahaniaeth, bydd angen help ein staff.”

“Dymunaf ddiolch i bob aelod o staff wnaeth gwrdd â mi i drafod yr atebion posibl hyn. Rydym yn gwybod na chawsom hyn yn iawn i’n staff, ac mae angen i ni gyd-weithio er mwyn sicrhau bod unrhyw benderfyniad yn gwella’r profiad o ran parcio i staff ac i ymwelwyr.”

Bydd Hysbysiadau Tâl Cosb Parcio a roddir i staff am barcio mewn meysydd parcio cyhoeddus yn cael eu canslo a’u had-dalu. Nid yw hyn yn berthnasol i Hysbysiadau Tâl Cosb Parcio a roddir am barcio mewn parthau dim goddefgarwch.

Am fwy o wybodaeth, ewch i http://www.bihyweldda.wales.nhs.uk/parcio


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle