Looking after our NHS this winter / Gofalu am ein Gwasanaeth Iechyd y gaeaf hwn

0
464
Withybush Hospital

With the end of the year fast approaching, Hywel Dda University Health Board is urging the public to help us look after our precious NHS resources so that we can care for patients in the most appropriate way for their need.

At a meeting yesterday (Thursday 28 November 2019) the health board approved its 2019-20 winter plan, which includes operational measures and community interventions aimed at reducing pressure on our emergency and scheduled care systems.

Together with our partners in local authorities, the third sector and Welsh Ambulance Service NHS Trust, our focus is on managing the capacity we have in our hospitals and busy emergency departments while also reducing the amount of time patients need to spend in a hospital bed; this means providing as much non-emergency and follow up care outside of the hospital environment as possible.

Among the measures are:

  • Daily frailty / hot clinics to support frailty assessment teams at the front door
  • Additional ‘home support team’ in Pembrokeshire – a therapist-based service following patients through the hospital system and back into the community
  • An integrated nursing approach between our Out Of Hours service and 24/7 Acute Response Teams
  • Pharmacy at the ‘front door’ of our Emergency Departments & extended weekend opening
  • Additional A&E staff to cover peaks in demand and support from the British Red Cross ‘Home from Hospital’ scheme
  • ED streaming / redirection at Withybush General Hospital
  • Improved vaccination for flu – including partnership working with community midwives to target pregnant women
  • Additional community nursing & Acute Response Team resource
  • Delivery of respite & palliative care services in the community by the Third Sector – right care for patient in community
  • Proactive messaging for respiratory patients

Andrew Carruthers, Director of Operations at Hywel Dda, said: “In the NHS we typically view the winter period as beginning in around October to November, and coming to an end the following spring, which is a long time for our emergency and hospital services to have to cope with sustained pressure.

“The way that we try to manage this is by adopting a whole-system approach, which brings together our acute hospitals, primary care and community services, ambulance service, local authorities and the third sector. We need everyone to play their part and help – and our public and patients are absolutely key to this.”

To ensure that we can treat patients who have a genuine medical emergency, and to avoid ambulances queuing up outside our A&Es or being diverted to other hospitals, the health board is urging people to choose their healthcare services very carefully – for more information visit http://www.hywelddahb.wales.nhs.uk/winterwise. This will give you advice and support on choosing the right healthcare service for your need, so that we are only seeing people with urgent or emergency care needs in A&E.

Also, if you have a friend, family member or loved one who is medically well enough to be discharged from hospital, please help us by coming to pick them up promptly.  This will allow us to free up beds faster for acutely unwell patients and keep the patient flow steady through our hospitals. It is also important that people don’t choose to remain in hospital if they are waiting to be discharged to their preferred care home; hospital is for acutely ill people and a safe and prompt discharge to the most appropriate place is essential and will achieve the best outcome for that person and their family.

Members of the public and healthcare staff are also being urged to protect themselves, their families and patients by having the flu jab. Flu can cause serious illness and can even be life threatening to people in at-risk groups so it’s essential that the public do all they can to protect themselves and others.

Andrew added: “We are facing a winter of unprecedented pressures and it’s fair to say that we are already experiencing some really difficult periods trying to deliver urgent and emergency care services.

“We have clear expectations about seeing and treating patients the way we want to, but we can’t do it alone and we urgently need the public to help us.

“The NHS is here for all of us and we are extremely lucky to have it, but if we want it to look after us we’ve got to make sure we look after it too.”

———————————————————————————-

Gofalu am ein Gwasanaeth Iechyd y gaeaf hwn

Gyda diwedd y flwyddyn yn agosáu’n gyflym, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annog y cyhoedd i’n helpu i ofalu am adnoddau ein GIG gwerthfawr fel y gallwn ofalu am gleifion yn y ffordd fwyaf priodol ar gyfer dwallu eu anghenion.

Mewn cyfarfod ddoe (dydd Iau 28 Tachwedd 2019) cymeradwyodd y Bwrdd Iechyd ei gynllun gaeaf 2019-20, sy’n cynnwys mesurau gweithredol ac ymyriadau cymunedol gyda’r nod o leihau pwysau ar ein systemau gofal brys ac wedi ei drefnu.

Ynghyd â’n partneriaid mewn awdurdodau lleol, y trydydd sector ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, rydym yn canolbwyntio ar reoli’r adnoddau sydd gennym yn ein hysbytai a’n hadrannau brys prysur tra hefyd yn lleihau faint o amser y mae cleifion yn ei dreulio mewn gwely ysbyty; mae hyn yn golygu darparu cymaint â phosibl o ofal nad yw’n frys a gofal dilynol y tu allan i amgylchedd yr ysbyty.

Ymhlith y mesurau mae:

  • Clinigau eiddilwch dyddiol i gefnogi timau asesu eiddilwch wrth y drws ffrynt
  • ‘Tîm Cymorth Cartref’ ychwanegol yn Sir Benfro – gwasanaeth yn seiliedig ar therapydd yn dilyn cleifion trwy system yr ysbyty ac yn ôl i’r gymuned
  • Dull nyrsio integredig rhwng ein gwasanaeth y tu allan i oriau a Thimau Ymateb Acíwt 24/7
  • Fferylliaeth wrth ‘ddrws ffrynt’ ein Adrannau Brys ac agoriad estynedig ar y penwythnos
  • Staff ychwanegol yn ein unedau damweiniau ac achosion brys i ddelio â cynydd yn y galw a chefnogaeth gan gynllun ‘Home from Hospital’ y Groes Goch Brydeinig
  • Ffrydio / ailgyfeirio Adran Frys yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg
  • Gwella brechu rhag ffliw – gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth â bydwragedd cymunedol i dargedu menywod beichiog
  • Adnodd ychwanegol y Tîm Nyrsio Cymunedol ac Ymateb Acíwt
  • Darparu gwasanaethau seibiant a gofal lliniarol yn y gymuned gan y Trydydd Sector – gofal gorau i glaf yn y gymuned
  • Negeseuon rhagweithiol ar gyfer cleifion anadlol

Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Hywel Dda: “Yn y GIG rydym fel rheol yn ystyried bod cyfnod y gaeaf yn dechrau tua mis Hydref i fis Tachwedd, ac yn dod i ben y gwanwyn canlynol, sy’n amser hir i’n gwasanaethau brys ac ysbytai i orfod ymdopi â phwysau parhaus.

“Y ffordd rydyn ni’n ceisio rheoli hyn yw trwy fabwysiadu dull system traws sector, sy’n dwyn ynghyd ein hysbytai acíwt, gofal sylfaenol a gwasanaethau cymunedol, gwasanaethau ambiwlans, awdurdodau lleol a’r trydydd sector. Rydyn ni angen i bawb chwarae eu rhan a’n cynorthwyo – ac mae ein cyhoedd a’n cleifion yn gwbl allweddol i gyflawni hyn. ”

Er mwyn sicrhau y gallwn drin cleifion sydd ag argyfwng meddygol dilys, ac er mwyn osgoi ambiwlansys yn ciwio y tu allan i’n unedau damweiniau ac achosion brys neu gael eu dargyfeirio i ysbytai eraill, mae’r bwrdd iechyd yn annog pobl i ddewis eu gwasanaethau gofal iechyd yn ofalus iawn – i gael mwy o wybodaeth, ewch i http://www.bihyweldda.wales.nhs.uk/gofalygaeaf. Bydd hyn yn rhoi cyngor a chefnogaeth i chi ar ddewis y gwasanaeth gofal iechyd cywir ar gyfer eich angen, fel ein bod ond yn gweld pobl ag anghenion gofal brys yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys.

Hefyd, os oes gennych ffrind, aelod o’r teulu neu rywun annwyl sy’n feddygol iach i gael ei ryddhau o’r ysbyty, helpwch ni trwy ddod i’w casglu’n brydlon. Bydd hyn yn caniatáu inni ryddhau gwelyau yn gyflymach ar gyfer cleifion sy’n ddifrifol wael a chadw llif y claf yn gyson trwy ein hysbytai. Mae hefyd yn bwysig nad yw pobl yn dewis aros yn yr ysbyty os ydyn nhw’n aros i gael eu rhyddhau i’w cartref gofal dewisol; mae’r ysbyty ar gyfer pobl sy’n ddifrifol wael ac mae rhyddhau cleifion yn ddiogel a phrydlon i’r lle mwyaf priodol yn hanfodol a bydd yn sicrhau’r canlyniad gorau i’r unigolyn hwnnw a’i deulu.

Mae aelodau o’r cyhoedd a staff gofal iechyd hefyd yn cael eu hannog i amddiffyn eu hunain, eu teuluoedd a’u cleifion trwy gael pigiad y ffliw. Gall y ffliw achosi salwch difrifol a gall hyd yn oed fygwth bywyd pobl mewn grwpiau sydd mewn perygl felly mae’n hanfodol bod y cyhoedd yn gwneud popeth o fewn eu gallu i amddiffyn eu hunain ac eraill.

Ychwanegodd Andrew: “Rydym yn wynebu gaeaf o bwysau digynsail ac mae’n deg dweud ein bod eisoes yn profi rhai cyfnodau anodd iawn yn ceisio darparu gwasanaethau gofal brys.

“Mae gennym ni ddisgwyliadau clir ynglŷn â gweld a thrin cleifion yn y ffordd rydyn ni eisiau, ond allwn ni ddim ei wneud ar ein pennau ein hunain ac mae angen i’r cyhoedd ein cynorthwyo ar frys.

“Mae’r GIG yma i bob un ohonom ac rydym yn hynod lwcus ei gael, ond os ydym am iddo edrych ar ein holau mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gofalu amdano hefyd.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle