Big step forward for health and social care services as Cardigan Integrated Care Centre prepares to open doors / Cam mawr ymlaen i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wrth i Ganolfan Gofal Integredig Aberteifi baratoi i agor ei drysau

0
600

Cardigan’s brand new Integrated Care Centre will open its doors to the public on Monday, 9 December, bringing joined-up care to local communities for the first time, Hywel Dda University Health Board is pleased to announce.

The opening of the centre follows hot on the heels of the launch of a similar initiative in Aberaeron, and represents a decisive change of direction in the way that we deliver health and social care services in a largely rural landscape in the 21st Century.

As well as providing a modern, fit for purpose healthcare service including a GP practice, dental service and pharmacy, the new centre – which has been developed with £23.8m of Welsh Government funding – will host a range of other clinics and services delivered by Hywel Dda, the third sector, local authority and partner organisations.

These include:

  • A nurse-led minor injuries walk-in service with telemedicine links to the emergency department
  • Radiology and diagnostics
  • Phlebotomy service
  • Outpatient suite with consulting rooms and clinical treatment facilities for pre-assessment and outpatient consultations by visiting clinicians and social workers
  • Disease-specific services for heart failure, motor neurone disease clinics, and Chronic Obstructive Pulmonary Disease services
  • Enhanced telemedicine equipment in clinical areas, providing remote access to specialists from across the professions
  • Rehabilitation services, providing opportunities for intensive and slow stream rehabilitation to restore function and improve independence, supported by therapists, nurses and social care staff within the Community Resource Team
  • Mental health and learning disabilities services
  • A base for the local Community Resource Team in south Ceredigion, including the Acute Response and District Nursing teams

Steve Moore, Chief Executive of Hywel Dda University Health Board, said: “This is an ambitious step forward for our health board which embodies the strategy we agreed last year to shift our focus to community and primary care. It has also taken many years of planning and there have been challenges along the way and we’ve had to work very hard to make sure that we’ve got it right first time.

 

“In particular, the hard work and commitment from our staff, and the support of many stakeholders – particularly our local communities – has been a critical part of our journey, and it is with these groups in mind that we begin delivering on our ambition of providing safe, sustainable, integrated care for our local population.”

The new Cardigan Integrated Care Centre is based at Canolfan Gofal Interfredig Aberteifi, Rhodfa’r Felin, Cardigan SA43 1JX. For a list of contact telephone numbers for services please see below.  Any services not listed here can be contacted via the main CICC reception telephone number.

Contact tel. Service
01239 801560 CICC Reception
01239 801561 Social Services
01239 801562 Speech Therapy
01239 801563 Health Visitors
01239 801564 PAEDS Community OT
01239 801565 Adult Community OT
01239 801566 Adult Community Physio
01239 801566 PAEDS Community Physio
01239 612021 GP Reception
01239 801569 Children’s Community Nurse
01239 801570 Oxygen Nurse
01239 801571 MSK Physio (Fixed / Static Number)
01239 801572 Podiatry
01239 801573 District Nurses
01239 801574 X-Ray

 

Please note that the Minor Injuries Unit service currently located at Cardigan Hospital will close all day on 6 December to allow staff to move into the new centre.  Anyone who requires medical care on that day is asked to phone their GP, pharmacist or NHS 111 to access Out of Hours / NHS Direct Wales services, or to attend their local A&E in an emergency.  From 9 December the opening hours of the Unit will be 9am-5pm Monday to Friday and on Bank Holidays.

There will also be no sexual health clinic in Cardigan on 5 December due to the move.  The clinic on 12 December will be held in the new centre between 1pm and 3.30pm on that date only.

———————————————————————————-

Cam mawr ymlaen i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wrth i Ganolfan Gofal Integredig Aberteifi baratoi i agor ei drysau

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn falch o gyhoeddi bydd Canolfan Gofal Integredig newydd sbon Aberteifi yn agor ei drysau i’r cyhoedd ddydd Llun, 9 Rhagfyr, gan ddod â gofal integredig i gymunedau lleol am y tro cyntaf.

Mae agor y ganolfan hon yn dynn ar sodlau lansiad menter debyg yn Aberaeron, ac mae’n cynrychioli newid cyfeiriad pendant yn y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn ardal wledig yn yr 21ain Ganrif.

Yn ogystal â darparu gwasanaeth gofal iechyd modern, addas at y diben, gan gynnwys practis meddyg teulu, gwasanaeth deintyddol a fferyllfa, bydd y ganolfan newydd – a ddatblygwyd gyda £23.8m o gyllid Llywodraeth Cymru – yn cynnal ystod o glinigau a gwasanaethau eraill a ddarperir gan Hywel Dda, y trydydd sector, awdurdodau lleol a sefydliadau partner.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gwasanaeth galw mewn – mân anafiadau dan arweiniad nyrs gyda chysylltiadau telefeddygaeth â’r adran achosion brys
  • Radioleg a diagnosteg
  • Gwasanaeth fflebotomi
  • Ystafell cleifion allanol gydag ystafelloedd ymgynghori a chyfleusterau triniaeth glinigol ar gyfer ymgynghoriadau cyn-asesu a chleifion allanol gan glinigwyr a gweithwyr cymdeithasol sy’n ymweld â’r ganolfan.
  • Gwasanaethau sy’n benodol i glefydau megis methiant y galon, clinigau clefyd niwronau motor, a gwasanaethau Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint
  • Gwell offer telefeddygaeth mewn meysydd clinigol, gan ddarparu mynediad o bell i arbenigwyr
  • Gwasanaethau adfer, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer adsefydlu dwys ac araf i adfer a gwella annibyniaeth, gyda chefnogaeth therapyddion, nyrsys a staff gofal cymdeithasol yn y Tîm Adnoddau Cymunedol.
  • Gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
  • Canolfan ar gyfer y Tîm Adnoddau Cymunedol lleol yn ne Ceredigion, gan gynnwys y timau Ymateb Acíwt a Nyrsio Cymunedol

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae hwn yn gam uchelgeisiol ymlaen i’n bwrdd iechyd ac mae’n ymgorffori’r strategaeth y cytunwyd arni y llynedd i symud ein ffocws i ofal cymunedol a sylfaenol. Mae hefyd wedi cymryd blynyddoedd lawer o gynllunio a bu heriau ar hyd y ffordd ac rydym wedi gorfod gweithio’n galed iawn i sicrhau ein bod wedi gwneud pethau’n iawn y tro cyntaf.

“Yn benodol, mae gwaith caled ac ymrwymiad ein staff, a chefnogaeth llawer o randdeiliaid – yn enwedig ein cymunedau lleol – wedi bod yn rhan hanfodol o’n taith, a gyda’r grwpiau hyn mewn golwg y dechreuwn gyflawni ein huchelgais o ddarparu gofal diogel, cynaliadwy, integredig i’n poblogaeth leol.”

Mae Canolfan Gofal Integredig Aberteifi wedi’i lleoli yn Rhodfa’r Felin, Aberteifi SA43 1JX. Am restr o rifau ffôn cyswllt ar gyfer gwasanaethau gweler isod. Gellir cysylltu ag unrhyw wasanaethau nad ydynt wedi’u rhestru yma trwy brif rif ffôn derbynfa CGIA

Manylion Cyswllt Gwasanaeth
01239 801560 Derbynfa CGIA
01239 801561 Gwasanaethau Cymdeithasol
01239 801562 Therapi Iaith a Lleferydd
01239 801563 Ymwelwyr Iechyd
01239 801564 Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Cymunedol Plant
01239 801565 Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Cymunedol Oedolion
01239 801566 Gwasanaeth Ffisiotherapi Cymunedol Oedolion
01239 801566 Gwasanaeth Ffisiotherapi Cymunedol Plant
01239 612021 Derbynfa Meddyg Teulu
01239 801569 Nyrs Gymunedol Plant
01239 801570 Nyrs Ocsigen
01239 801571 Ffisio MSK (Rhif Sefydlog / Statig)
01239 801572 Podiatreg
01239 801573 Nyrsys Cymunedol
01239 801574 Pelydr X


Bydd y gwasanaeth Uned Mân Anafiadau sydd wedi’i leoli yn Ysbyty Aberteifi ar hyn o bryd ar gau trwy’r dydd ar y 6ed o Ragfyr i ganiatáu i staff symud i’r ganolfan newydd. Gofynnir i unrhyw un sydd angen gofal meddygol ar y diwrnod hwnnw ffonio eu meddyg teulu, fferyllydd neu GIG 111 i gael mynediad at wasanaethau Allan o Oriau / Galw Iechyd Cymru neu i fynd i’w Uned ddamweiniau ac achosion brys lleol mewn argyfwng. 

Hefyd ni fydd clinig iechyd rhyw yn Aberteifi ar 5 Rhagfyr oherwydd y symud. Bydd y clinig ar 12 Rhagfyr yn cael ei gynnal yn y ganolfan newydd rhwng 1pm a 3.30pm ar y dyddiad hwn yn unig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle