Council adopts three word system which can describe any spot on earth

0
682

Neath Port Talbot Council is one of the first local authorities in the UK to start using innovative mobile phone technology which can help people accurately report the location of incidents such as fly-tipping, potholes or fallen trees.

The Council has partnered with British technology company what3words which has divided the entire globe into 57trillion 3m-squared boxes and given each location point a unique code or address using a combination of three words from the English dictionary.

For example, Nelson’s Column is situated in a square marked this.fantastic.notes, while Arthur’s Seat in Edinburgh is tagged maybe.sling.worth and rock.miles.candle will take you to a duck feeding point at the edge of one of the Gnoll Estate Country Park’s three ponds.

When the Council receives information about an incident from the public, identifying a caller’s exact location is incredibly important, but sometimes there is no easily identifiable landmark, address or postcode to establish exactly where the incident has taken place and this can result in wasted time, fuel and energy.

The free what3words mobile phone app uses GPS technology to allow the caller and the council or emergency service to quickly pinpoint where they are and where an incident has happened or is happening. This means that no matter where they are – in a field, on the roadside, in the countryside, by a river bank or outside one of a multiple entrances to a shopping centre or concert arena – their precise location can be known.

The Council is now encouraging people to download the what3words mobile app. The app is free to download for both iOS and Android, or by browser, and works offline – making it ideal for use in areas with an unreliable data connection. The three-word address format is also consistent anywhere in the world – and is available in 36 languages and Welsh is coming early in 2020.

The Council’s biodiversity service is already using what3words to accurately log the location of areas of interest and will be actively encouraging the public to report sightings using the technology.

The technology can also be used to help people accurately report incidents such as potholes or fallen trees.

In terms of public safety for instance, the technology could also be used to help callers pinpoint the site of a drug paraphernalia discovery or even homelessness sightings.

Neath Port Talbot Council’s Cabinet Member for Streetscene and Engineering, Cllr Ted Latham said: “This technology could save considerable time and effort pinpointing the site of fly-tipping or some other incident, cutting costs and reducing any wasted time for our staff. I would urge people to click on the link below to find out more about the what3words app.”

Chris Sheldrick, co-founder and CEO of what3words, added: “Today, people nearly always have their phone on them. We need to use the tools at our disposal to improve public services and potentially save lives.”

The use of what3words ties in with Neath Port Talbot Council’s digital strategy known as Smart and Connected which is designed to enable the Council and its residents to connect, share and interact with the wider world reliably, safely and quickly.,

Learn how to use the what3words app here: https://what3words.com/how-to-use-the-what3words-app/

Cyngor yn mabwysiadu system tri gair sy’n gallu disgrifio unrhyw fan ar y ddaear

 Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw un o’r awdurdodau lleol cyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddechrau defnyddio technoleg ffonau symudol arloesol sy’n gallu helpu pobl i roi gwybod yn fanwl gywir am leoliad achosion o ollwng sbwriel yn anghyfreithlon, ceudyllau yn y ffordd neu goed sydd wedi cwympo.

Mae’r Cyngor wedi partnera gyda’r cwmni technoleg o Brydain, what3words, sydd wedi rhannu’r byd cyfan yn 57triliwn o flychau 3m-sgwâr, ac wedi rhoi côd unigryw neu gyfeiriad i bob lleoliad trwy ddefnyddio cyfuniad o dri gair o’r geiriadur Saesneg.

Er enghraifft, mae Colofn Nelson mewn sgwâr a nodwyd â’r geiriau this.fantastic.notes, tra bod Sedd Arthur yng Nghaeredin wedi cael y tag maybe.sling.worth, a bydd rock.miles.candle yn mynd â chi i fan bwydo’r hwyaid yn ymyl un o dri phwll Parc Gwledig Ystâd y Gnoll.

Pan fydd y Cyngor yn derbyn gwybodaeth am ddigwyddiad gan y cyhoedd, mae canfod union leoliad y galwr yn eithriadol o bwysig, ond weithiau does dim tirnod amlwg, cyfeiriad na chôd post hwylus i fod yn sicr ble yn union y mae, a gall hynny arwain at wastraffu amser, tanwydd ac egni.

Mae’r ap ffôn symudol di-dâl what3words yn defnyddio technoleg GPS i alluogi’r galwr a’r cyngor neu’r gwasanaeth brys i ganfod yn union ble maent yn gyflym, a ble mae rhywbeth wedi digwydd neu yn digwydd. Mae hynny’n golygu bod modd, ble bynnag y maent – mewn cae, wrth ymyl y ffordd, yng nghefn gwlad, ger glan afon neu’r tu allan i un o’r mynedfeydd niferus i ganolfan siopa neu arena cyngherddau – canfod eu lleoliad yn fanwl gywir.

Mae’r Cyngor yn awr yn annog pobl i lawrlwytho ap symudol what3words. Mae’r ap ar gael i’w lawrlwytho am ddim ar gyfer iOS ac Android, neu trwy borwr, ac mae’n gweithio oddi ar-lein – sy’n golygu ei fod yn ddelfrydol i’w ddefnyddio mewn ardaloedd lle mae’r cysylltiad data yn annibynadwy. Mae’r fformat cyfeiriadau tri gair hefyd yn gyson ym mhob rhan o’r byd – mae eisoes ar gael mewn 36 o ieithoedd, a bydd y Gymraeg yn dod yn fuan yn 2020.

Mae gwasanaeth bioamrywiaeth y Cyngor eisoes yn defnyddio what3words i gofnodi’n fanwl gywir leoliad mannau o ddiddordeb, a bydd yn annog y cyhoedd i ddefnyddio’r dechnoleg i roi gwybod am bethau maen nhw wedi’u gweld.

Mae modd defnyddio’r dechnoleg hefyd i helpu pobl i roi gwybod yn fanwl gywir am bethau fel ceudyllau yn y ffordd neu goed sydd wedi cwympo.

Yng nghyswllt diogelu’r cyhoedd, er enghraifft, gellid defnyddio’r dechnoleg hefyd i helpu galwyr i nodi’n fanwl ble deuwyd o hyd i offer cymryd cyffuriau, neu hyd yn oed ble gwelwyd pobl ddigartref.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer y Strydlun a Pheirianneg, y Cyng. Ted Latham: “Gallai’r dechnoleg hon arbed cryn dipyn o amser ac ymdrech wrth nodi’n fanwl safle achos o ollwng sbwriel yn anghyfreithlon neu ryw ddigwyddiad arall, gan leihau costau ac arbed ein staff rhag gwastraffu amser. Byddwn i’n annog pobl i glicio ar y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth am yr ap what3words.”

Ychwanegodd Chris Sheldrick, cydsylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol what3words: “Heddiw, mae pobl yn mynd â’u ffôn gyda nhw bron bob amser. Mae angen i ni ddefnyddio’r offer sydd gennym i wella gwasanaethau cyhoeddus ac achub bywydau o bosib.”

Mae defnyddio what3words yn mynd law yn llaw â strategaeth ddigidol Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Clyfar a Chysylltiedig, a luniwyd i alluogi’r Cyngor a’i drigolion i gysylltu, rhannu a rhyngweithio â’r byd ehangach mewn modd dibynadwy, diogel a chyflym.

Gallwch chi ddysgu sut mae defnyddio’r ap what3words yma: https://what3words.com/how-to-use-the-what3words-app/

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle