January joy in the Garden – Llawenydd mis Ionawr yn yr Ardd

0
534

Amazing walks, fascinating talks, great events, cracking courses and FREE entry every weekday in January – that’s what’s on offer at the National Botanic Garden of Wales this month.

It’s the start of our 20th birthday year and we have plenty of treats for you including a series of free Friday lunchtime talks focusing on plants, climate change and the role botanic gardens are playing in tackling and adapting to this global challenge.

The first talk is on January 10 and is entitled: “Tree Rings and Climate Change, Looking Back to See the Future” by Professor Mary Gagen, of Swansea University. Mary will share stories hidden in ancient trees from around the world and explore how trees can start conversations about climate change.

Make a date on Saturday and Sunday January 11-12 with our Woodcraft Weekend, which features all that is good about wood including wood-turners, lovespoon-carvers, stick-makers, power tools and pyrography.

In celebration of the Visit Wales ‘Year of Outdoors’, there is a series of trails around the Garden to help you get your steps up and burn some of those festive calories – pick up a leaflet on your way in.

There’s also hard-hat tours of our Regency Restoration landscape and lakes, ‘welly’ fun for pre-school tots every Tuesday and Wednesday, a Food Fair, an Antiques Weekend and lots more besides.

For details of all our events, visit botanicgarden.wales, email info@gardenofwales.org.uk or call 01558 667149.

Admission to the Garden is free every weekday and just ÂŁ6 at weekends.

 

Llawenydd mis Ionawr yn yr Ardd

Teithiau cerdded anhygoel, sgyrsiau hynod ddiddorol, digwyddiadau gwych, cyrsiau penigamp a mynediad AM DDIM yn ystod yr wythnos ym mis Ionawr – dyna sydd ar gael yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru y mis hwn.

Mae’n ddechrau blwyddyn ein 20fed pen-blwydd ac mae gennym ddigon o ddigwyddiadau arbennig ar eich cyfer gan gynnwys cyfres o sgyrsiau amser cinio am ddim ar ddydd Gwener sy’n canolbwyntio ar blanhigion, newid yn yr hinsawdd a’r rôl y mae gerddi botaneg yn ei chwarae wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac addasu i’r newid hwn.

Mae’r sgwrs gyntaf ar Ionawr 10 o dan y teitl: “Cylchoedd Coed a Newid yn yr Hinsawdd, Edrych yn Ôl i Weld y Dyfodol” gan yr Athro Mary Gagen o Brifysgol Abertawe. Bydd Mary yn rhannu straeon sydd wedi’u cuddio y tu mewn i goed hynafol o bob cwr o’r byd ac yn archwilio sut y gall coed ddechrau sgyrsiau am newid yn yr hinsawdd.

Dewch ddydd Sadwrn a dydd Sul Ionawr 11-12 i’n Penwythnos Coedwriaeth, a fydd yn cynnwys popeth sy’n dda am goed gan gynnwys turnwyr pren, cerfwyr llwyau caru, gwneuthurwyr ffyn, offer pŵer a phyrograffeg.

I ddathlu ‘Blwyddyn Awyr Agored’ Croeso Cymru, mae yna gyfres o lwybrau o amgylch yr Ardd i’ch helpu i gynyddu nifer eich camau a llosgi rhai o’r calorïau Nadoligaidd hynny – casglwch daflen ar eich ffordd i mewn.

Mae yna hefyd deithiau mewn het galed o amgylch y gwaith yr ydym yn ei wneud ar ein tirwedd a’n llynnoedd i Adfer Cyfnod y Rhaglywiaeth, hwyl fwdlyd i blant cyn-ysgol bob dydd Mawrth a dydd Mercher, Ffair Fwyd, Penwythnos Hen Bethau a llawer mwy.

I gael manylion am ein holl ddigwyddiadau, ewch i botanicgarden.wales, e-bost info@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667149.

Mae mynediad i’r Ardd am ddim bob dydd yn ystod yr wythnos a £6 yn unig ar benwythnosau.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle