Finishing touches as hospital ward shapes up for early 2020 re-opening / Paratoadau terfynnol ar gyfer ailagor ward ysbyty yn gynnar yn 2020

0
1042

Pembrokeshire fundraisers and key stakeholders came together this week to hear about latest progress with the multi-million pound refurbishment of Ward 10 at Withybush Hospital.

Hywel Dda University Health Board has been closely working with everyone involved to identify innovative ways to significantly improve the patient experience on ward 10, including engagement with fundraisers and donors, members of the ward 10 Stakeholder Group (including the Community Health Council), patients, ward 10 staff, the hospital’s management team and other key staff groups.

Whilst construction and engineering work continues on the ward, staff and key stakeholders have recently been busy choosing a selection of scenic photographic images, provided by a number of local photographers, as an additional design feature. Following a shortlisting and selection process, the chosen artwork will be mounted throughout the ward to enhance the environment for patients and staff.

The new facilities will strengthen services, as well as provide an improved and enhanced environment in which to care for designated oncology and haematology patients, and those with complex palliative care needs. The modern, purpose-built areas will be dementia friendly, supporting those with bariatric requirements and with improved facilities for relatives. This development also illustrates the health board’s commitment to investing in the future of Withybush Hospital.

The ward development scheme, mainly funded by Welsh Government, is also benefiting from more than £500,000 of charitable donations from the health board’s Pembrokeshire Cancer Services Fund, Elly’s Ward 10 Flag Appeal, together with significant donations also received from the late Luke Harding and his family.

This extra funding will help patients and staff experience an enhanced and more comfortable environment in which to receive care and treatment, and to work in, through the provision of:

  • additional patient comforts including a patient entertainment system (e.g. TVs), emergency toiletries, and hair washing aids for frail or bedbound patients;
  • improvements to the ward environment including items such as enhanced seating, bespoke bedding and curtains creating a more homely feel;
  • specialist equipment including bed and chair sensor pads to reduce risk of falls, and an inflatable device for safer patient lifting;
  • staff training so ensure ward staff are equipped with enhanced knowledge and skills;
  • technology including mobile devices for staff to capture patient data at the bedside and reminiscence interactive therapy activity systems that offer stimulation and distraction for patients as part of their hospital recovery.

In addition, a roof top garden is in the initial stages of planning as an enhanced facility for the ward and will likely be developed during the first half of 2020.

Dr Andrew Burns, Hospital Director at Withybush said: “We’re excited to see how the ward is shaping up and we’re very much looking forward to being able to re-open the facility for patients in early 2020.

“In the meantime we will continue to work with our partners, charity and fundraising representatives and staff on the finishing touches over the coming weeks and wish to extend our heartfelt thanks to them all, and the Pembrokeshire community, for their ongoing involvement, support and generosity.”

Lyn Neville, Elly’s father, added: “All of us involved with Elly’s Ward 10 Flag Appeal are proud and excited to see the Ward 10 project finally coming together. It has been quite a journey this last five years, but it will be well worth it as it will be a wonderful space for patients to be cared for and for staff to work in.”

The refurbished ward 10 area will provide five en-suite single beds to enable greater privacy during care and for access by neutropenic sepsis patients and those requiring isolation facilities. Smaller bays (2 x 4 bedded bays and 1 x 3 bedded bay) are also being developed as well as improved overnight facilities for relatives plus a dedicated day/dining room for patients. There will also be a dedicated multi-disciplinary team meeting and video conferencing facility, as well as much needed storage space to support a safer and improved environment and to comply with the relevant infection prevention and fire safety standards.

For the latest news and updates from Hywel Dda University Health Board visit www.hywelddahb.wales.nhs.uk

Paratoadau terfynnol ar gyfer ailagor ward ysbyty yn gynnar yn 2020

Daeth codwyr arian a rhanddeiliaid allweddol o Sir Benfro ynghyd yn ddiweddar i glywed am y cynnydd diweddaraf ar y prosiect gwerth miliynau o buddoedd i adnewyddu Ward 10 Ysbyty Llwynhelyg.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn gweithio’n agos â phob un sy’n rhan o’r gwaith er mwyn nodi ffyrdd arloesol i wella profiad y claf yn sylweddol ar Ward 10, yn cynnwys ymgysylltu â chodwyr arian a rhoddwyr, aelodau o Grŵp Rhanddeiliaid Ward 10 (yn cynnwys y Cyngor Iechyd Cymuned), cleifion, staff Ward 10, tîm rheoli’r ysbyty a grwpiau staff allweddol eraill.

Tra bod gwaith adeiladu a pheirianneg yn parhau ar y ward, mae staff a rhanddeiliaid allweddol wedi bod yn brysur yn ddiweddar yn dewis detholiad o ddelweddau ffotograffig golygfaol, a ddarparwyd gan nifer o ffotograffwyr lleol, fel nodwedd ddylunio ychwanegol. Yn dilyn proses o dynnu rhestr fer a dewis, bydd y gweithiau celf yn cael eu gosod ledled y ward i wella’r amgylchedd ar gyfer cleifion a staff.

Bydd y cyfleusterau newydd yn cryfhau gwasanaethau, yn ogystal â darparu amgylchedd gwell er mwyn gofalu am gleifion oncoleg a hematoleg a’r rhai hynny sydd ag anghenion gofal lliniarol cymhleth. Bydd yr ardaloedd modern a phwrpasol yn gyfeillgar i ddementia, yn cefnogi’r rhai hynny sydd â gofynion bariatreg ac yn cynnwys cyfleusterau gwell i berthnasau. Mae’r datblygiad hwn hefyd yn dangos ymrwymiad y bwrdd iechyd i ffuddsoddi yn nyfodol Ysbyty Llwynhelyg.

Mae cynllun datblygu’r ward, a ariennir yn bennaf gan Lywodraeth Cymru, hefyd yn elwa o dros £500,000 o roddion elusennol gan Gronfa Gwasanaethau Canser Sir Benfro y bwrdd iechyd, Apêl Baner Ward 10 Elly, a rhoddion sylweddol gan y diweddar Luke Harding a’i deulu.

Bydd yr arian ychwanegol hwn yn helpu cleifion a staff i brofi amgylchedd gwell a mwy cyffyrddus i gael gofal a thriniaeth ynddo, i weithio ynddo, ac i ddarparu’r canlynol:

  • cysuron ychwanegol i gleifion yn cynnwys system adloniant i gleifion (e.e. setiau teledu), pethau ymolchi brys a chymhorthion golchi gwallt ar gyfer cleifion bregus neu sy’n gaeth i’r gwely;
  • gwelliannau i amgylchedd y ward yn cynnwys eitemau megisgwell seddi, dillad gwely a llenni arbennig sy’n creu naws fwy cartrefol;
  • offer arbenigol yn cynnwys padiau synhwyrydd gwely a chadair sy’n lleihau’r risg o gwympo a dyfais chwyddadwy ar gyfer codi cleifion yn fwy diogel;
  • hyfforddiant staff er mwyn sicrhau bod staff y ward yn meddu ar wybodaeth a sgiliau gwell;
  • technoleg yn cynnwys dyfeisiau symudol fel bod staff yn dal data cleifion wrth erchwyn y gwely a systemau gweithgaredd therapi rhyngweithiol hel atgofion sy’n ysgogi ac yn tynnu sylw cleifion fel rhan o’u hadferiad yn yr ysbyty.

Yn ogystal, mae camau cychwynnol cynllunio ar y gweill ar gyfer gardd do a fydd yn gyfleuster ychwanegol i’r ward, a bydd yn debygol o gael ei datblygu yn hanner gyntaf 2020.

Meddai Dr Andrew Burns, Cyfarwyddwr Ysbyty Llwynhelyg: “Mae cyffro mawr o weld y ward yn siapo ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ail-agor y cyfleuster i gleifion ddechrau 2020.

 

“Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid, cynrychiolwyr elusennau a chodwyr arian a staff ar y paratoadau terfynnol dros yr wythnosau nesaf a dymunwn ddweud diolch o waelod calon i bob yr un ohonynt ac i’r gymuned yn Sir Benfro am eu cyfranogiad, eu cefnogaeth a’u haelioni parhaus.”

 

Ychwanegodd Lyn Neville, tad Elly: ““Mae pob un ohonom sydd ynghlwn wrth Apêl Baner Ward 10 Elly yn falch ac yn gyffrous o weld prosiect Ward 10 yn dod at ei gilydd o’r diwedd. Mae’r pum mlynedd diwethaf wedi bod yn daith a hanner, ond bydd yn werth chweil gan y bydd yn le hyfryd i gleifion gael gofal ac i staff weithio ynddo.”

 

Bydd ardal Ward 10 ar ei newydd wedd yn cynnwys pum gwely sengl en-suite single beds er preifatrwydd yn ystod gofal ac ar gyfer mynediad gan gleifion sepsis newtropenig a’r rhai hynny sydd angen cyfleusterau ynysu. Mae baeau llai (2 x bae 4 gwely a 1 x bae 3 gwely) hefyd yn cael eu datblygu yn ogsytal â cyfleusterau gwell ar gyfer perthnasau sy’n aros dros nos ac ystafell ddydd/bwyta penodol i gleifion. Bydd cyfleuster pwrpasol ar gyfer cyfarfodydd a fideo-gynadledda y tîm aml-ddisgyblaethol, yn ogystal â digonedd o le storio er mwyn gwella’r amgylchedd a’i wneud yn fwy diogel ac er mwyn cydymffurfio â’r safonau atal heintiau a diogelwch tân perthnasol.

Am y newyddion diweddaraf o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ewch i www.bihyweldda.wales.nhs.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle