Update – pressure on our services / Diweddariad – Pwysau ar ein gwasanaethau

0
511

Following the postponement of planned inpatient operations across our four hospital sites earlier this week, we are beginning to see some improvements with around half of our planned procedures being carried out across the health board in the last 48 hours. We would like to reiterate our apologies to those patients that have been affected and provide our assurance that we will look to rearrange operations as soon as possible.

The actions taken in line with our integrated Winter resilience plan have helped us to reduce the extreme pressures experienced at the beginning of the week, and as of today (Friday 10 January) all hospital sites are operating below peak escalation status.  However, our services remain under pressure and we are anticipating another busy weekend ahead across our hospital A&E departments, Out of Hours and community GP services, and we would continue to urge patients to seek alternatives if you can.

If you or a loved one are unwell or injured, there may be other services that can provide the care that you need:

  • Online symptom checker: Check your symptoms online at NHS Direct Wales here https://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/selfassessments/
    • Self care – A lot of illnesses can be treated in your home by using over the counter medicine and getting plenty of rest. Keep a well prepared first aid kit at home: Bandages, plasters, thermometer, antiseptic, eyewash solution, sterile dressings, medical tape, and tweezers.
    • Pharmacies – your local pharmacy can to do much more than dispense medication and could save a trip to your GP or hospital. For free confidential NHS advice and treatment for a range of common ailments eye infections and chicken pox, your pharmacist can help. Find out what services are available at your local pharmacy by visiting www.hywelddahb.wales.nhs.uk/communitypharmacy
    • NHS Direct Wales / Out of Hours services – telephone 111 if your need is urgent and you can’t wait to make an appointment with your usual GP
    • Minor Injury Units (MIUs) – To find out the opening times of our MIUs please visit http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/page/52065

Please do not attend an emergency department or GP practice if you have symptoms of an infectious illness such diarrhoea, vomiting, fever or symptoms of flu. Flu and norovirus are circulating and for the majority of people these can be treated safely at home. However, if you are vulnerable (very young, frail elderly, living with long term or chronic conditions) or your symptoms worsen, please seek medical advice.

——————————————————————————–

Prince Philip Hospital in Llanelli

Diweddariad – Pwysau ar ein gwasanaethau

Yn dilyn gohirio llawdriniaethau cleifion mewnol a gynlluniwyd ar draws ein pedwar safle ysbyty yn gynharach yr wythnos hon, rydym yn dechrau gweld rhai gwelliannau gyda thua hanner ein gweithdrefnau arfaethedig yn cael eu cynnal yn ystod y 48 awr ddiwethaf. Hoffem ailadrodd ein hymddiheuriadau i’r cleifion hynny yr effeithiwyd arnynt a rhoi ein sicrwydd y byddwn yn ceisio aildrefnu llawdriniaethau cyn gynted â phosibl.

Mae’r camau a gymerwyd yn unol â’n cynllun cydnerthedd integredig y Gaeaf wedi ein helpu i leihau’r pwysau eithafol a brofwyd ar ddechrau’r wythnos, ac erbyn heddiw (dydd Gwener 10 Ionawr) mae pob safle ysbyty yn gweithredu o dan statws dwysâd. Fodd bynnag, mae ein gwasanaethau yn parhau i fod dan bwysau ac rydym yn rhagweld penwythnos prysur arall o’n blaenau ar draws ein hadrannau damweiniau ac achosion brys, gwasanaethau y tu allan i oriau a meddygon teulu cymunedol, a byddwn yn parhau i annog cleifion i geisio dewisiadau amgen os gallwch chi.

Os ydych chi neu rywun annwyl yn sâl neu wedi’ch anafu, efallai gall gwasanaethau eraill ddarparu’r gofal sydd ei angen arnoch:

  • Gwiriwr symptomau ar-lein: Gwiriwch eich symptomau ar-lein yn Galw Iechyd Cymru https://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/selfassessments/
  • Hunanofal – Gellir trin llawer o afiechydon yn eich cartref trwy ddefnyddio meddyginiaeth dros y cownter a chael digon o orffwys. Cadwch becyn cymorth cyntaf wedi’i baratoi’n dda gartref: Rhwymynnau, plasteri, thermomedr, antiseptig, toddiant llygad, gorchuddion di-haint, tâp meddygol, a phliciwr.
  • Fferyllfeydd – gall eich fferyllfa leol wneud llawer mwy na dosbarthu meddyginiaeth a gallai arbed taith i’ch meddyg teulu neu ysbyty. I gael cyngor a thriniaeth gyfrinachol am ddim gan y GIG ar gyfer ystod o heintiau llygaid, anhwylderau cyffredin a brech yr ieir, gall eich fferyllydd helpu. Darganfyddwch pa wasanaethau sydd ar gael yn eich fferyllfa leol trwy ymweld â http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/tudalen/94142
  • Gwasanaethau Galw Iechyd Cymru / Tu Allan i Oriau – ffoniwch 111 os yw’ch angen ar frys ac ni allwch aros i wneud apwyntiad gyda’ch meddyg teulu arferol
  • Unedau Mân Anafiadau (MIUs) – I ddarganfod amseroedd agor ein MIUs ewch i http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/tudalen/75358

Peidiwch â mynychu adran achosion brys neu feddyg teulu os oes gennych symptomau salwch heintus fel dolur rhydd, chwydu, twymyn neu symptomau ffliw. Mae ffliw a norofeirws yn cylchredeg ac i’r mwyafrif o bobl gellir trin y rhain yn ddiogel gartref. Fodd bynnag, os ydych chi’n agored i niwed (henoed, ifanc iawn, eiddil, yn byw gyda chyflyrau tymor hir neu gronig) neu os yw’ch symptomau’n gwaethygu, gofynnwch am gyngor meddygol.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle