Senior Learning Disability nurse recognised for outstanding contribution at Hywel Dda / Cydnabyddiaeth i Uwch-nyrs Anableddau Dysgu am gyfraniad rhagorol yn Hywel Dda

0
457
Picture: Laura Andrews (centre) with daughter Emily (left) and Maria Battle, Chair of Hywel Dda University Health Board (right)

A senior Learning Disability nurse at Hywel Dda University Health Board is celebrating after receiving a prestigious award for her outstanding contribution to Learning Disability nursing.

Laura Andrews, Professional Lead for Learning Disabilities Nursing, was presented with the Cavell Star by the Chair of the Health Board, Maria Battle, at a special event held recently.

The Cavell Star recognises outstanding nurses, midwives, nursing associates and healthcare assistants who go above and beyond in their professional duties and show exceptional care.

Laura, from Llanboidy, was nominated for the award by her colleagues in the Learning Disabilities health liaison service for her passion and dedication towards LD nursing. She has been been a LD nurse for over 30 years and has a wealth of knowledge and experience, having worked in many settings both in England and Wales.

She said: “It’s really marvellous – I’m really surprised and shocked!

“I don’t even have the words – I’m speechless.  It’s nice that this is happening around the same time that we prepare to celebrate 100 years of LD nursing.

“This award is for everyone that works in LD services.  It shows that for me, the passion is still there even after 35 years.”

Emily Andrews, Laura’s daughter, who is training to be an adult nurse, added: “I’m really proud of my mum.  She’s worked so hard and she really deserves this.”

Maria Battle, Chair of the Health Board, added: “Laura is a true advocate and champion of learning disability nursing. She has tirelessly raised the profile of learning disabilities in all arenas she attends and takes every opportunity to encourage new students into the profession.

“Laura has been instrumental in developing new services to meet the needs of those with a learning disability and she always includes and values the input of people with a learning disability to ensure their voice is heard.”

Cydnabyddiaeth i Uwch-nyrs Anableddau Dysgu am gyfraniad rhagorol yn Hywel Dda

Mae Uwch-nyrs Anableddau Dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dathlu ar ôl derbyn gwobr glodfawr am ei chyfraniad rhagorol i nyrsio Anabledd Dysgu.

Cyflwynwyd gwobr Cavell Star i Laura Andrews, Arweinydd Proffesiynol Nyrsio Anableddau Dysgu, gan Gadeirydd y Bwrdd Iechyd, Maria Battle, mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Mae’r Cavell Star yn cydnabod nyrsys, bydwragedd, cymdeithion nyrsio a chynorthwywyr gofal iechyd rhagorol sy’n mynd y tu hwnt i’w dyletswyddau proffesiynol ac sy’n dangos gofal eithriadol.

Enwebwyd Laura, sy’n fyw yn Llanboidy, am y wobr gan ei chydweithwyr yn y gwasanaeth cyswllt iechyd Anableddau Dysgu am ei hangerdd a’i hymroddiad tuag at nyrsio anableddau dysgu. Mae hi wedi bod yn nyrs Anableddau Dysgu ers dros 30 mlynedd ac mae ganddi gyfoeth o wybodaeth a phrofiad, ar ôl gweithio mewn sawl lleoliad yng Nghymru a Lloegr.

Meddai: “Mae’n abrbennig iawn – rydw i wedi cael fy syfrdanu!

“Does gen i ddim y geiriau hyd yn oed!  Mae’n braf bod hyn yn digwydd tua’r un amser ag yr ydym yn paratoi i ddathlu 100 mlynedd o nyrsio Anableddau Dysgu.

“Mae’r wobr hon ar gyfer pawb sy’n gweithio ym maes gwasanaethau Anableddau Dysgu. Mae’n dangos bod yr angerdd yn dal i fod yno hyd yn oed ar ôl 35 mlynedd. ”

Ychwanegodd Emily Andrews, merch Laura, sy’n hyfforddi i fod yn nyrs oedolion: “Rwy’n falch iawn o fy mam. Mae hi wedi gweithio mor galed ac mae hi wir yn haeddu hyn. ”

Ychwanegodd Maria Battle, Cadeirydd y Bwrdd Iechyd: “Mae Laura yn wir eiriolwr ac yn hyrwyddwr nyrsio anabledd dysgu. Mae hi wedi codi proffil anableddau dysgu yn ddiflino ym mhob maes y mae’n ei mynychu ac yn cymryd pob cyfle i annog myfyrwyr newydd i’r proffesiwn.

“Mae Laura wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu gwasanaethau newydd i ddiwallu anghenion y rheini sydd ag anableddau dysgu ac mae hi bob amser yn cynnwys ac yn gwerthfawrogi mewnbwn pobl ag anabledd dysgu i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle