Extended park and ride service for Glangwili Hospital | Gwasanaeth parcio a theithio ychwanegol ar gyfer Ysbyty Glangwili

0
594

An extended shuttle service will run directly between Nantyci car park and Glangwili Hospital starting Monday 3 February.

This service, funded by Hywel Dda University Health Board (UHB), is in response to staff feedback following a temporary suspension of parking measures at both Glangwili and Prince Philip hospitals.

The Carmarthen park and ride service PR2 will leave Nantyci car park (SA31 3SA) at 0700, then every half hour from 1830 to 2130. The buses will return from the hospital at 0714 then every half hour from 1844 to 2144.

Andrew Carruthers, Director of Operations at Hywel Dda UHB, said: “Following the temporary suspension of parking measures at Glangwili and Prince Philip hospitals we immediately spoke with our staff to find out what could be put in place to reduce the number of staff who have no alternative but to park on site.

“The operating hours of the park and ride were a recurrent theme for Glangwili staff with many saying that they couldn’t make use of it if they worked shifts.

“We hope to see many more of our staff using the park and ride following our investment to extend the hours while we continue to explore further options to help alleviate parking pressures at Glangwili.”

The PR1 park and ride service will continue its current operating hours between 0730 to 1825, departing Nantyci on the hour and on the half hour towards the hospital via the town centre. The PR1 service will leave Glangwili Hospital to return to Nantyci at quarter past and quarter to the hour.

For passengers starting their journey at Nantyci car park, parking remains free and bus travel to and from the town centre (service PR1) or the hospital (services PR1 and PR2) will be only £1 for a day return ticket, with free travel for children under 16 if accompanied by an adult. This journey is free for all Hywel Dda employees, simply show your ID badge.

Please visit https://www.carmarthenshire.gov.wales/media/4700/pr1_2.pdf 
to view the park and ride timetable.

Gwasanaeth parcio a theithio ychwanegol ar gyfer Ysbyty Glangwili

Bydd gwasanaeth gwennol estynedig yn rhedeg yn uniongyrchol rhwng maes parcio Nantyci ac Ysbyty Glangwili, yn dechrau ddydd Llun 3 Chwefror.

Mae’r gwasanaeth hwn, a ariennir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP), mewn ymateb i adborth staff yn dilyn atal mesurau parcio dros dro yn ysbytai Glangwili a Tywysog Philip.

Bydd gwasanaeth parcio a theithio Caerfyrddin PR2 yn gadael maes parcio Nantyci (SA31 3SA) am 7am, ac yna bob hanner awr o 6.30pm tan 9.30pm. Bydd y bysiau yn dychwelyd o’r ysbyty am 7.14am ac yna bob hanner awr o 6.44pm tan 9.44pm.

Meddai Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau BIP Hywel Dda: “Yn dilyn atal mesurau parcio dros dro yn ysbytai Glangwili a Tywysog Philip, gwnaethom siarad â’n staff yn ddi-oed i weld beth allwn ei wneud i leihau’r nifer o staff sydd â dim dewis arall ond parcio ar y safle.

“Roedd oriau gweithredu’r gwasanaeth parcio a theithio yn thema a oedd yn codi dro ar ôl thro gyda staff Glangwili, gyda nifer yn dweud na allent wneud defnydd ohono os yn gweithio sifftiau.

“Rydyn ni’n gobeithio gweld llawer mwy o’n staff yn defnyddio’r gwasanaeth parcio a theithio yn dilyn ein buddsoddiad i ymestyn yr oriau wrth inni barhau i ystyried opsiynau pellach i helpu i leddfu pwysau parcio yn Glangwili.”

Bydd y gwasanaeth parcio a theithio PR1 yn parhau â’i oriau gweithredu presennol rhwng 7.30am tan 6.25pm, gan adael Nantyci ar yr awr ac am hanner awr wedi tuag at yr ysbyty trwy ganol y dref. Bydd y gwasanaeth PR1 yn gadael Ysbyty Glangwili i ddychwelyd i Nantyci am chwarter wedi a chwarter I’r awr.

I’r teithwyr sy’n dechrau eu taith ym maes parcio Nantyci, bydd parcio yn parhau i fod am ddim a bydd teithio ar y bws i ganol y dref ac oddi yno (gwasanaeth PR1) neu i’r ysbyty ac oddi yno (gwasanaethau PR1 a PR2) ond yn £1 y dydd am docyn dychwelyd, gyda theithio am ddim i blant dan 16 oed os ydynt yng nghwmni oedolyn. Mae’r daith hon am ddim i holl weithwyr Hywel Dda – dangoswch eich bathodyn adnabod.

Ewch i https://www.carmarthenshire.gov.wales/media/4700/pr1_2.pdf i weld amserlen y gwasanaeth parcio a theithio.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle