Improving our Out of Hours service/Gwella ein Gwasanaeth Tu Allan i Oriau

0
624

Patients who need to access overnight Out of Hours services in south Ceredigion and Carmarthenshire are set to be boosted by temporary changes that will help ensure they have better access to a clinician.

From 9 March the Health Board will bring in measures aimed at providing more consistent and robust care during the overnight period (11pm – 8am, Monday to Sunday).

Patients in Llanelli who dial 111 during the overnight period will be directed to the 24/7 GP-led Minor Injuries Unit at Prince Philip Hospital if they are given a face-to-face appointment, while people living in Llandysul and the surrounding area will be asked to attend the Out of Hours base at Glangwili General Hospital, Carmarthen, should they need to see a clinician.

By closing the overnight Out of Hours base in Llanelli and moving the GP in Llandysul to Glangwili during the same period, we hope to be able to fill more of our weekend clinical shifts – when more people access the service – and provide a more consistent and robust service for our patients, so that they retain the ability to be reviewed as appropriate. There is no change to the Minor Injuries Unit at Prince Philip Hospital – if you have an urgent care need that can’t wait for an in-hours appointment with your GP, you can still access it as before.

For some time our Out of Hours service has become increasingly fragile due to difficulties in filling GP rotas, with the position especially challenging at weekends.  This has led to us having to move available clinicians around to try and manage the shortfalls as and when required, or – increasingly – close bases for long periods of time if no cover can be found, in the interests of patient safety.

These temporary changes will help inform our longer-term transformation of the Out of Hours service, in line with our Healthier Mid and West Wales strategy, and we will be asking patients for their feedback about their experience of the temporary change to help inform our decision-making.

Dr Richard Archer, an Out of Hours GP and Clinical Lead for the service, said: “It’s been well publicised that for some time now we have struggled to provide a robust Out of Hours service in all three counties due to difficulties filling the rotas.”

“Where no clinical cover has been available at all, we’ve had to temporarily close bases and redirect patients to A&E, which puts further pressure on our emergency services as it isn’t always the most appropriate place for them to go.

“By bringing about these temporary changes we hope to be able to provide more telephone consultations and more of an overnight GP presence in Llanelli and Carmarthen.

“We recognise that this does mean some patients living in Llandysul and the surrounding area will need to travel to Glangwili if they are given a face-to-face appointment after midnight, and I would like to apologise for any frustrations or inconvenience that this may cause. We know that we typically experience far less Out of Hours activity in Llandysul during the overnight period than elsewhere and we expect that the impact of these changes will be minimal.

“I would like to pay particular tribute and offer my sincere thanks to all of our GPs and clinicians who continue to work tirelessly to help provide the best possible service for our patients in what has been a very challenging environment.”

Andrew Carruthers, Director of Operations at Hywel Dda University Health Board, added: “Putting patients first is at the heart of everything we strive to do and this has been a key driver behind our desire to develop the Out of Hours service, both in the short and long term.

“It’s fair to say that this service has experienced significant pressures in recent years and we would like to thank the public for their understanding while we continue to evolve the model. We hope that by introducing these temporary measures we can return to providing greater resilience within the service, while at the same time looking at what we need to do going forward to provide the care our patients deserve.”

Gwella ein Gwasanaeth Tu Allan i Oriau

Bydd newidiadau dros dro yn hwb i’r cleifion hynny sydd angen defnyddio’r gwasanaeth Tu Allan i Oriau dros nos yn Sir Gaerfyrddin a De Ceredigion, gan helpu i sicrhau bod iddynt fynediad gwell at glinigydd.

O 9 Mawrth, bydd y Bwrdd Iechyd yn cyflwyno mesurau â’r nod o ddarparu gofal mwy cyson a chadarn yn ystod y cyfnod dros nos (11pm – 8am, Llun i Sadwrn).

Bydd cleifion yn Llanelli sy’n deialu 111 yn ystod y cyfnod dros nos yn cael eu cyfeirio at yr Uned Mân Anafiadau dan Arweiniad Meddyg Teulu 24/7 yn Ysbyty Tywysog Philip os ydynt yn cael apwyntiad wyneb yn wyneb. Tra y bydd gofyn i bobl ardal Llandysul fynychu’r gwasanaeth Tu Allan i Oriau yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin, os oes angen iddynt weld clinigydd.

Trwy gau’r safle Tu Allan i Oriau yn Llanelli a thrwy symud y Meddyg Teulu o Landysul i Glangwili yn ystod yr un cyfnod, rydym yn gobeithio y byddwn yn medru llenwi mwy o’n sifftiau clinigol ar benwythnosau – pan mae mwy o bobl yn defnyddio’r gwasanaeth – a darparu gwasanaeth mwy cyson a chadarn ar gyfer ein cleifion, a pharhau i’w hadolygu yn y modd mwyaf priodol. Nid oes unrhyw newid i’r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip – os oes arnoch angen ofal brys na all aros am apwyntiad yn ystod oriau arferol eich Meddyg Teulu, gallwch barhau i’w defnyddio fel arfer.

Am beth amser, mae ein gwasanaeth Tu Allan i Oriau wedi dod yn fwyfwy bregus oherwydd anawsterau wrth lenwi rotas Meddygon Teulu, â’r sefyllfa’n arbennig o heriol ar benwythnosau. Mae hyn wedi arwain at orfod symud y clinigwyr hynny sydd ar gael o gwmpas er mwyn ceisio rheoli’r diffygion yn ôl yr angen, neu – yn gynyddol felly – cau canolfannau am gyfnodau hir o amser os na ellir llenwi’r rotas, a hynny er budd diogelwch cleifion.

Bydd y newidiadau dros dro hyn yn helpu i lywio ein trawsnewidiad tymor hwy o’r gwasanaeth Tu Allan i Oriau, yn unol â’n strategaeth Canolbarth a Gorllewin Iachach, a byddwn yn gofyn i gleifion am adborth o’u profiad o’r newid dros dro hwn i helpu i lywio ein penderfyniadau.

Meddai Dr Richard Archer, Meddyg Teulu Tu Allan i Oriau ac Arweinydd Clinigol y Gwasanaeth: “Rhoddwyd llawer o gyhoeddusrwydd i’r ffaith ein bod wedi ei chael yn anodd darparu gwasanaeth cadarn Tu Allan i Oriau ym mhob un o’n tair sir oherwydd anawsterau wrth lenwi rotas.

“Lle nad oedd modd o gwbl llenwi rotas clinigol, rydym wedi gorfod cau canolfannau dros dro ac ailgyfeirio cleifion i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys, sy’n rhoi pwysau pellach ar ein gwasanaethau brys, gan nad dyma’r lle mwyaf priodol i’r cleifion hynny bob amser.

“Trwy gyflawni’r newidiadau dros dro hyn ein gobaith yw gallu darparu mwy o ymgynghoriadau dros y ffôn; mwy o apwyntiadau wyneb yn wyneb, a mwy o bresenoldeb Meddyg Teulu yn Llanelli a Chaerfyrddin dros nos.

“Rydym yn cydnabod bod hyn yn golygu y bydd angen i rai cleifion yn Llandysul a’r ardal gyfagos deithio i Glangwili os byddant yn cael apwyntiad wyneb yn wyneb ar ôl hanner nos,a hoffwn ymddiheuro am unrhyw rwystredigaethau neu anghyfleustra y gallai hyn eu hachosi. Rydym yn gwybod ein bod ni yn profi llawer llai o weithgaredd y Tu Allan i Oriau yn Llandysul yn ystod y cyfnod dros nos nag mewn mannau eraill ac rydym yn disgwyl mai bychan iawn y bydd effaith y newidiadau hyn.

“Hoffwn dalu teyrnged arbennig a chynnig fy niolch diffuant i bob un o’n Meddygon Teulu a chlinigwyr sy’n parhau i weithio’n ddi-flino i helpu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n cleifion mewn amgylchedd heriol iawn.”

Ychwanegodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae rhoi cleifion yn gyntaf wrth wraidd popeth yr ydym yn ymdrechu i’w wneud ac mae hyn wedi bod yn allweddol i’n hawydd i ddatblygu’r gwasanaeth Tu Allan i Oriau, yn y tymor byr a’r hir-dymor.

“Mae’n deg dweud bod y gwasanaeth hwn wedi profi pwysau sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf a dymunwn ddiolch i’r cyhoedd am eu dealltwriaeth wrth inni barhau i ddatblygu’r model. Ein gobaith, trwy gyflwyno’r mesurau dros dro hyn, yw gallu dychwelyd i ddarparu mwy o wytnwch yn y gwasanaeth ac, ar yr un pryd, edrych ar yr hyn y mae angen i ni ei wneud wrth symud ymlaen er mwyn darparu’r gofal y mae ein cleifion yn ei haeddu.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle