Senior doctors praise medical leadership approach / Uwch-feddygon yn canmol yr ymagwedd at arweinyddiaeth feddygol

0
670

 

Senior doctors at Hywel Dda University Health Board (UHB) have praised the approach to medical leadership within the organisation, highlighting its commitment to developing the leadership capability of medics across Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire.

The UHB’s approach is focused on engaging and enabling the workforce to improve the quality of its services. Using a whole system approach to quality improvement the collaborative programme features activities that give staff knowledge, skills and confidence to recognise and make changes which add value to the care received by patients, service users, their families and their carers.

Dr Phil Kloer said “We pride ourselves on the medical and multi-disciplinary leadership programmes we have created that promote, support and encourage continuous development and improvement.”

“The highest performing organisations in the world prioritise the development of clinical leaders and in Hywel Dda UHB we are aiming to deliver a healthcare system of the highest quality, with excellent outcomes for our patients and our population. We value our staff and the work that they do and want all staff, at all levels, in all roles, to feel competent and empowered to make the changes that they know will improve patients’ experience and outcomes of care.

“To do this, we are building a community of doctors and other leaders from across the organisation who can lead the development and delivery of excellent clinical services”.

The leadership and mentorship programmes include:

  • a new consultant one-year development programme;
  • peer mentoring and support for new consultants and GPs;
  • an Aspiring Medical Leaders Programme (AMLP), focusing on real time organisational learning and supporting the development of a healthcare system in line with ‘A Healthier Wales: Our Plan for Health and Social Care’;
  • a Medical Leadership Forum to develop leadership capacity and capability and address professional development and service issues affecting the whole system;
  • a multi-professional System Level Leadership Improvement Programme (SLLIP) to enable leaders to make sustained improvements throughout our services and systems; and
  • the multi-disciplinary Enabling Quality Improvement in Practice (EQIiP) programme

The health board has strengthened its investment into medical leadership having recently appointed Mr Mark Henwood as Deputy Medical Director for Acute Hospital Services – currently a Consultant Surgeon and Clinical Director for Scheduled Care who also leads on developments in UGI cancer services within the Health Board and nationally; Dr Sion James as Deputy Medical Director for Primary Care & Community Services – currently a General Practitioner with an interest in new technologies and innovative models of care; and Dr Subhamay Ghosh as Associate Medical Director for Quality & Safety – currently a consultant anaesthetist whose background is in teaching, training, research and development.

They have, together with Dr Meinir Jones, Associate Medical Director for Transformation and Value Based Health Care, taken part in a short promotional video talking about the importance of investing in our doctors and the activities being undertaken within Hywel Dda to improve patient care through empowering and strengthening clinical leadership.

The health board’s efforts to recruit staff has successfully resulted in a number of medical appointments over recent months, including GP roles, consultants, specialty doctors and clinical fellows.

Dr Phil Kloer, Medical Director said: “We’re always delighted to welcome all of our new medical staff, and the knowledge, skills and experience they bring with them. We look forward to working with them in their different roles, helping with their professional development and becoming part of a community of doctors from across the organisation that can lead the development and delivery of excellent clinical services and a fulfilling career.

A wider comprehensive recruitment campaign continues across a range of specialities within the Hywel Dda area, including nurses and therapists –http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/page/75205. All vacancies are advertised on the national NHS Jobs website: www.jobs.nhs.uk.

For up-to-date information regarding recruitment, campaigns or events, follow the health board on social media – LinkedIn /Twitter: @SwyddiHDdJobs / Facebook: Swyddi Hywel Dda Jobs.

Mae uwch-feddygon ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi canmol yr ymagwedd at arweinyddiaeth feddygol yn y sefydliad, gan dynnu sylw at ei ymrwymiad i ddatblygu gallu arweinyddol meddygon ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae ymagwedd y BIP yn canolbwyntio ar ymgysylltu a galluogi’r gweithlu i wella ansawdd ei wasanaethau. Gan ddefnyddio dull system gyfan i wella ansawdd, mae’r rhaglen gydweithredol yn cynnwys gweithgareddau sy’n rhoi gwybodaeth, sgiliau a hyder i staff i adnabod a gwneud newidiadau sy’n ychwanegu gwerth at y gofal y mae cleifion, defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a’u gofalwyr yn ei gael.

Meddai Dr Phil Kloer “Rydym yn ymfalchïo yn y rhaglenni arweinyddiaeth feddygol ac amlddisgyblaethol yr ydym wedi’u creu, sy’n hyrwyddo, yn cefnogi ac yn annog datblygiad a gwelliant parhaus.”

“Mae’r sefydliadau sy’n perfformio orau yn y byd yn blaenoriaethu datblygiad arweinwyr clinigol, ac yn BIP Hywel Dda rydym yn anelu at ddarparu system gofal iechyd o’r ansawdd gorau, gyda chanlyniadau rhagorol i’n cleifion a’n poblogaeth. Rydym yn gwerthfawrogi ein staff a’r gwaith y maent yn ei wneud, ac rydym am i’r holl staff, ar bob lefel, ym mhob swydd, i deimlo’n gymwys ac wedi’u grymuso i wneud y newidiadau y maent yn gwybod fydd yn gwella profiad y claf a chanlyniadau.

“I wneud hyn, rydym yn adeiladu cymuned o feddygon ac arweninwyr eraill o bob rhan o’r sefydliad a all arwain y gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau clinigol rhagorol”.

Mae rhaglenni arweinyddiaeth a mentoriaeth yn cynnwys y canlynol:

  • Rhaglen newydd un blwyddyn i ddatblygu ymgynghorwyr;
  • Mentoriaeth a chefnogaeth cymheiriaid ar gyfer ymgynghorwyr a meddygon teulu newydd;
  • Rhaglen Darpar Arweinwyr Meddygol, yn canolbwyntio ar ddysgu sefydliadol amser go-iawn a chefnogi datblygiad system gofal iechyd yn unol â ‘Cymru Iachach: Ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol’;
  • Fforwm Arweinyddiaeth Feddygol i ddatblygu capasiti a gallu arweinyddiaeth a mynd i’r afael â materion datblygiad proffesiynol a gwasanaeth sy’n effeithio’r system gyfan;
  • Rhaglen Gwella Arweinyddiaeth Lefel System Aml-broffesiynol i alluogi arweinwyr i wneud gwelliannau parhaus ar draws ein gwasanaethau a’n systemau; a
  • y rhaglen aml-ddisgyblaethol Galluogi Gwella Ansawdd mewn Ymarfer (EQIiP)

Mae’r bwrdd iechyd wedi cryfhau ei fuddsoddiad mewn arweinyddiaeth feddygol yn dilyn penodiadau diweddar: Mr Mark Henwood fel Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol ar gyfer Gwasanaethau Acíwt Ysbyty – sydd ar hyn o bryd yn Lawfeddyg Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Clinigol ar gyfer Gofal wedi’i Drefnu sydd hefyd yn arwain ar ddatblygiadau mewn gwasanaethau canser gastro-berfeddol uwch yn y Bwrdd Iechyd ac yn genedlaethol; Dr Sion James fel Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol ar gyfer Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol – sydd ar hyn o bryd yn Feddyg Teulu â diddordeb mewn technolegau newydd a modelau gofal arloesol; a Dr Subhamay Ghosh fel Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ar Ansawdd a Diogelwch – sydd ar hyn o bryd yn anesthetydd ymgynghorol â chefndir mewn addysgu, hyfforddi, ymchwilio a datblygu.

Maent, ynghyd â Dr Meinir Jones, Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ar gyfer Trawsnewid a Gofal Iechyd seiliedig ar Werth, wedi cymryd rhan mewn fideo hyrwyddo byr yn siarad am bwysigrwydd buddsoddi yn ein meddygon ac am y gweithgareddau sy’n cael eu cynnal yn Hywel Dda i wella gofal cleifion trwy rymuso a chryfhau arweinyddiaeth glinigol.

Fideo: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/tudalen/100221

Mae ymdrechion y bwrdd iechyd i recriwtio staff wedi arwain yn llwyddiannus at nifer o benodiadau meddygol dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys swyddi meddygon teulu, ymgynghorwyr, meddygon arbenigol a chymrodyr clinigol.

Meddai Dr Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol: “Rydym bob amser wrth ein bodd yn croesawu staff meddygol newydd, a’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad a ddaw gyda nhw. Edrychwn ymlaen at gyd-weithio â phob un ohonynt yn eu gwahanol swyddi, eu helpu yn eu datblygiad proffesiynol a’u helpu i ddod yn rhan o gymuned o feddygon ar draws y sefydliad a all arwain y gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau clinigol rhagorol yn ogystal â gyrfa foddhaus.

Mae ymgyrch recriwtio gynhwysfawr ehangach yn parhau ar draws ystod o arbenigeddau yn ardal Hywel Dda, yn cynnwys nyrsys a therapyddion – http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/tudalen/87093. Mae pob swydd wag yn cael ei hysbysebu ar wefan genedlaethol swyddi’r GIG www.jobs.nhs.uk.

Am y wybodaeth ddiweddaraf ar recriwtio, ymgyrchoedd neu ddigwyddiadau, dilynwch y bwrdd iechyd ar y cyfryngau cymdeithasol – LinkedIn / Twitter: @SwyddiHDdJobs / Facebook: Swyddi Hywel Dda Jobs.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle