Three pharmacies in Carmarthenshire have opened their doors to the public on a Sunday as part of a trial in the region.
Gravells in Llanelli and Nigel Williams in Llandeilo and Cross Hands will be open for members of the public who need to see a healthcare professional for treatment for common ailments and minor injuries.
This trial is to support the GP out of hours service by encouraging patients to access the pharmacy as the first point of call.
The well-established Triage and Treat provision is already available in the pharmacies through the week and on Saturdays.
The types of low level injuries that can be treated under Triage and Treat service are minor abrasions, superficial cuts and wounds, eye complaints such as sand in the eye, removal of items from the skin such as a splinter or shell and minor burns including sunburn. If the injury is too serious to be treated in the pharmacy, patients will be given advice about where to go.
Depending on which pharmacist is covering they are also offering Sore Throat Test and Treat; this is a new scheme which allows patients to call into their local pharmacy and be tested by a trained pharmacist using a quick and pain free test.
Following a consultation and assessment by the pharmacist, medication may be supplied for those patients where an antibiotic is required.
In many cases, a sore throat is the result of a viral rather than bacterial infection which means antibiotics will not work, and self-care and rest are the best course of action.
The pharmacies will also be able to help with providing emergency contraception and emergency supplies of medication as well as offering advice and treatment for common ailments.
The participating pharmacies are:
- Gravells Pharmacy, Off Thomas Street, Llanelli – open 10am – 1pm
- Nigel Williams Pharmacy, 109 Rhosmaen Street, Llandeilo – open 12pm -2pm
- Nigel Williams Pharmacy, Isfryn, Carmarthen Road, Cross Hands – open 3pm – 5pm
Pharmacist James Thorne of Gravells Pharmacy said: “We’re pleased to be able to open on a Sunday morning to offer a range of services to patients who otherwise may have travelled to a hospital for treatment.”
Jill Paterson, Director of Primary Care, Community and Long-term Care for Hywel Dda University Health Board said: “The Health Board is delighted that we continue to expand the range of Services we are able to offer patients locally.
“Our Community Pharmacies are providing an increasing number of enhanced Services which enable patients and the public to seek assistance without having to attend a hospital or GP practice.
“We believe that providing these Services on a Sunday on a trial basis, will increase the local advice and support available to patients during the weekend period.”
Fferyllfeydd cymunedol yn agor ar Ddydd Sul
Mae tair fferyllfa yn Sir Gaerfyrddin wedi agor eu drysau i’r cyhoedd ar ddydd Sul fel rhan o arbrawf yn y rhanbarth.
Bydd Gravells yn Llanelli a Nigel Williams yn Llandeilio a Cross Hands ar agor i aelodau’r cyhoedd sydd angen gweld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael triniaeth ar gyfer anhwylderau cyffredin a mân anafiadau.
Pwrpas yr arbrawf hwn yw cefnogi’r gwasanaeth meddyg teulu tu allan i oriau trwy annog cleifion i gael mynediad i’r fferyllfa fel y pwynt cyswllt cyntaf.
Mae’r ddarpariaeth Brysbennu a Thrin sydd wedi’i hen sefydlu eisoes ar gael yn y fferyllfeydd trwy’r wythnos ac ar ddydd Sadwrn.
Y mathau o anafiadau lefel isel y gellir eu trin o dan wasanaeth Brysbennu a Thrin yw mân grafiadau, toriadau arwynebol a chlwyfau, cwynion llygaid fel tywod yn y llygad, tynnu eitemau o’r croen fel splinter neu gragen a mân losgiadau gan gynnwys llosg haul. Os yw’r anaf yn rhy ddifrifol i gael ei drin yn y fferyllfa, rhoddir cyngor i gleifion ynghylch ble i fynd.
Yn dibynnu ar ba fferyllydd sy’n gweithio, maen nhw hefyd yn cynnig gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf; cynllun newydd yw hwn sy’n caniatáu i gleifion alw i mewn i’w fferyllfa leol a chael eu profi gan fferyllydd hyfforddedig gan ddefnyddio prawf cyflym a di-boen.
Yn dilyn ymgynghoriad ac asesiad gan y fferyllydd, gellir darparu meddyginiaeth ar gyfer y cleifion hynny lle mae angen gwrthfiotig.
Mewn llawer o achosion, mae dolur gwddf yn ganlyniad i haint firaol yn hytrach na bacteriol sy’n golygu na fydd gwrthfiotigau’n gweithio, a hunanofal a gorffwys yw’r ffordd orau o weithredu.
Bydd y fferyllfeydd hefyd yn gallu helpu i ddarparu dulliau atal cenhedlu brys a chyflenwadau brys o feddyginiaeth ynghyd â chynnig cyngor a thriniaeth ar gyfer anhwylderau cyffredin.
Y fferyllfeydd sy’n cymryd rhan yw:
- Fferyllfa Gravells, ger Thomas Street, Llanelli – ar agor 10am – 1pm
- Fferyllfa Nigel Williams, 109 Rhosmaen Street, Llandeilo – ar agor 12pm -2pm
- Fferyllfa Nigel Williams, Isfryn, Carmarthen Road, Cross Hands – ar agor 3pm – 5pm
Dywedodd y fferyllydd James Thorne o Fferyllfa Gravells: “Rydym yn falch o allu agor ar fore Sul i gynnig ystod o wasanaethau i gleifion a fyddai fel arall efallai wedi teithio i ysbyty i gael triniaeth.”
Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gofal Cymunedol a Hirdymor ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r Bwrdd Iechyd yn falch iawn ein bod yn parhau i ehangu’r ystod o Wasanaethau y gallwn eu cynnig i gleifion yn lleol.
“Mae ein Fferyllfeydd Cymunedol yn darparu nifer cynyddol o Wasanaethau gwell sy’n galluogi cleifion a’r cyhoedd i ofyn am gymorth heb orfod mynychu ysbyty neu feddyg teulu.
“Credwn y bydd darparu’r Gwasanaeth hwn ar ddydd Sul ar sail prawf, yn cynyddu’r cyngor a’r gefnogaeth leol sydd ar gael i gleifion dros y penwythnos.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle