- TUC Dying to Work Charter protects rights at work for those facing a terminal illness
- Campaign began in 2016following Derbyshire sales manager losing her job after cancer diagnosis
- Over 1 million workers in the UK now covered by the Charter.
Hywel Dda University Health Board has today (14th February) become the latest employer to sign up to the TUC’s Charter aimed at helping employees who become terminally ill at work.
The Dying to Work campaign is seeking greater security for terminally ill workers and offers them additional employment protections when they need them the most. The campaign was taken forward by the TUC following the case of Jacci Woodcook, an area sales manager from Derbyshire who was forced out of her job after being diagnosed with terminal breast cancer.
The TUC is asking employers to sign up to its charter to stop cases like Jacci’s happening in the future.
The Dying to Work Charter now covers over a million workers across the private and public sector including well know employers such as Rolls Royce, the Royal Mail and a number of Welsh local authorities.
Hywel Dda University Health Board’s Deputy CEO, Dr Phil Kloer, said: “This is a very positive step forward in supporting our staff when they need it most. We are proud to sign up to this Charter today which will strengthen our values as an organisation and as an employer.”
Wales TUC’s Dying to Work Lead Gareth Hathway said:
“Your job should be the least of your worries when you get a terminal diagnosis.
“It’s fantastic to see trade unions and employers working in partnership to protect the 10,000 employees at Hywel Dda University Health Board. The charter will be a great comfort to those who need it and their families”
Sandra Watson, RCN Wales Representative said: “The Royal College of Nursing is proud to be a part of this charter. Our participation demonstrates our total dedication to all our staff and their life circumstances. It is imperative that people feel valued and supported in their workplace. We are extremely pleased that Hywel Dda University Health Board has signed up to the charter and we would encourage all employers to join us.”
Nadia Probert, UNISON branch secretary said: “I am very pleased the health board is working with the trade unions and is backing Wales TUC’s campaign to better support the rights of workers following a terminal diagnosis.
“Employers have a duty of care to their workforce and we hope others will follow Hywel Dda’s example and sign up to the charter too.”
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn llofnodi Siarter Iechyd Marwol TUC
- Mae Siarter Iechyd Marwol TUC yn amddiffyn hawliau yn y gwaith i’r rhai sy’n wynebu salwch terfynol
- Dechreuodd yr ymgyrch yn 2016 yn dilyn i reolwr gwerthu o Swydd Derby golli ei swydd ar ôl cael diagnosis o ganser
- Mae dros filiwn o weithwyr yn y DU bellach wedi’u cynnwys yn y Siarter
Heddiw (14eg o Chwefror) mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dod yn gyflogwr diweddaraf i ymuno â Siarter y TUC gyda’r nod o helpu gweithwyr sy’n dod yn derfynol wael yn y gwaith.
Mae’r ymgyrch Iechyd Marwol yn ceisio mwy o ddiogelwch i weithwyr sy’n derfynol wael ac yn cynnig amddiffyniadau cyflogaeth ychwanegol iddynt pan fydd eu hangen arnynt fwyaf. Aethpwyd â’r ymgyrch ymlaen gan y TUC yn dilyn achos Jacci Woodcook, rheolwr gwerthu o ardal Swydd Derby a orfodwyd allan o’i swydd ar ôl cael diagnosis o ganser terfynol y fron.
Mae’r TUC yn gofyn i gyflogwyr arwyddo i’w siarter i atal achosion fel Jacci rhag digwydd yn y dyfodol.
Mae’r Siarter Iechyd Marwol bellach yn cynnwys dros filiwn o weithwyr ar draws y sector breifat a chyhoeddus gan gynnwys cyflogwyr adnabyddus fel Rolls Royce, y Post Brenhinol a nifer o awdurdodau lleol Cymru.
Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Dr Phil Kloer: “Mae hwn yn gam cadarnhaol iawn ymlaen wrth gefnogi ein staff pan fydd ei angen arnynt fwyaf. Rydym yn falch o ymuno â’r Siarter hon heddiw a fydd yn cryfhau ein gwerthoedd fel sefydliad ac fel cyflogwr.”
Dywedodd Arweinydd Iechyd Marwol TUC Cymru, Gareth Hathway: “Dylai eich swydd fod y lleiaf o’ch pryderon pan fyddwch chi’n cael diagnosis terfynol.
“Mae’n wych gweld undebau llafur a chyflogwyr yn gweithio mewn partneriaeth i amddiffyn y 10,000 o weithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Bydd y siarter yn gysur mawr i’r rhai sydd ei angen a’u teuluoedd. ”
Dywedodd Cynrychiolydd RCN Cymru, Sandra Watson: “Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn falch o fod yn rhan o’r siarter hon. Mae ein cyfranogiad yn dangos ein hymroddiad llwyr i’n holl staff a’u hamgylchiadau personol.
“Mae’n hanfodol bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi yn eu gweithle. Rydym yn hynod falch bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymuno â’r siarter a byddem yn annog pob cyflogwr i ymuno â ni.”
Dywedodd Nadia Probert, Ysgrifennydd cangen UNSAIN: “Rwy’n falch iawn bod y bwrdd iechyd yn gweithio gyda’r undebau llafur ac yn cefnogi ymgyrch TUC Cymru i gefnogi hawliau gweithwyr yn well yn dilyn diagnosis terfynol.
“Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gofal i’w gweithlu a gobeithiwn y bydd eraill yn dilyn esiampl Hywel Dda ac yn arwyddo’r siarter hefyd.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle