Council to introduce Guaranteed Interview Scheme for Armed Forces Veterans

0
603

A new scheme is set to give veterans of the armed forces a guaranteed interview when they apply for a job with Neath Port Talbot Council.

The Guaranteed Interview Scheme will ensure veterans are given an interview, provided that they meet the relevant criteria for the post, and are within 12 weeks of their discharge date or have the armed forces as their last long term employer.

The purpose of the scheme is to help veterans overcome the barriers they face when accessing employment once they have left the military. Veterans can often find making the transition to civilian life extremely challenging, particularly in finding and securing long-term employment.

Army veteran Adam Al-fahdala, a Senior Structures Technician with the South Wales Trunk Road Agency said:

“In 2012 I left the Army and was looking for a job in Civvy Street, I applied for a Civil Engineering Apprenticeship with the council, but only having limited computer time during my Army career, who also taught me to be a bit of a perfectionist, I spent a lot of time on the application and found it difficult.  Luckily, someone recognised that a person who had left the forces could have something special to offer, and I was invited for interview.

“The interviewers put me at ease and wanted to know about my experience within the army, from which they extracted the important skills I had gained, that would be useful in the role.  At the time I had never thought of the skills and experience I had gained in the Army, such as team work and working under pressure, in that way. I have now been a council employee for 8 years and moved up the ladder into an exciting role where I am both site and office based.”

Councillor Chris James, Armed Forces Champion, added:

“As the Armed Forces Champion for the council, I have seen first-hand the challenges that many of our service personnel face when leaving the armed forces, whichever of the services and whatever their rank.

“Being a veteran of the Navy myself, I know how daunting it can be to apply the vast range of skills you learn in the services, such as attention to detail, presentation, timeliness, health and safety, to name a few, and try to imagine how these can be demonstrated to a new employer in the civilian world.

“The opportunity that the council is now offering to our service leavers will help to even the playing field for those leaving the services after a long and distinguished career, and who may feel a little uneasy in a competitive jobs market. Especially as many would have never completed a CV or undergone for a formal job interview.”

The council’s Recruitment and Selection Policy will be amended to reflect the scheme, giving veterans an opportunity indicate that they are eligible for a guaranteed interview on the application form.

The implementation of the scheme is in response to a cross-party recommendation from the National Assembly for Wales. It is also in line with the council’s Armed Forces Covenant, which aims to encourage a greater public understanding and awareness of the issues affecting veterans.

Members of the council’s Personnel Committee approved the scheme on Monday 24th February 2020.

Y cyngor i gyflwyno Cynllun Gwarantu Cyfweliadau ar gyfer Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog

 Bydd cynllun newydd yn gwarantu cyfweliad i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog pan fyddant yn gwneud cais am swydd gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot.

Bydd y Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn sicrhau bod cyn-filwyr yn cael cyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf perthnasol ar gyfer y swydd, a’u bod o fewn 12 wythnos o’u dyddiad rhyddhau neu mai’r lluoedd arfog yw eu cyflogwr tymor hir diwethaf.

Diben y cynllun yw helpu cyn-filwyr i oresgyn y rhwystrau maent yn eu hwynebu wrth geisio dod o hyd i waith ar Ă´l iddynt adael y fyddin. Yn aml, mae cyn-filwyr yn ei chael hi’n anodd trosglwyddo i fywyd pob dydd, yn enwedig wrth geisio sicrhau cyflogaeth tymor hir.

Meddai cyn-filwr y fyddin, Adam Al-fahdala, Uwch-dechnegydd Adeileddol gydag Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru,

“Yn 2012, gadawais i’r fyddin ac roeddwn yn chwilio am waith yn y byd y tu allan i’r fyddin. Gwnes i gais am Brentisiaeth Peirianneg Sifil gyda’r cyngor, ond gan nad oeddwn wedi treulio llawer o amser yn defnyddio cyfrifiaduron yn ystod fy amser yn y fyddin, lle roeddwn i’n dipyn o berffeithiwr, treuliais lawer o amser yn cwblhau’r cais ac roedd yn anodd iawn i mi.  Yn ffodus, roedd rhywun wedi cydnabod y gallai rhywun sydd wedi gadael y lluoedd arfog fod â rhywbeth arbennig i’w gynnig, ac felly cefais fy ngwahodd am gyfweliad.

“Roeddwn i’n teimlo’n gyfforddus yng nghwmni’r cyfwelwyr ac roeddent am wybod am fy mhrofiad yn y fyddin ac am glywed am y sgiliau pwysig roeddwn i wedi’u hennill a fyddai’n ddefnyddiol yn y rĂ´l. Ar y pryd, doeddwn i ddim wedi ystyried y sgiliau a’r profiad a oedd gennyf o’r fyddin, megis gwaith tĂŽm a gweithio dan bwysau, yn y ffordd hynny. Erbyn hyn, dwi wedi bod yn gweithio i’r cyngor am 8 mlynedd a dwi wedi datblygu a chyrraedd rĂ´l gyffrous lle rwyf yn gweithio ar y safle ac yn y swyddfa.”

 Ychwanegodd y Cynghorydd Chris James, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog,

 “Fel Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar gyfer y cyngor, rwyf wedi gweld yr heriau y mae llawer o’n personĂŠl y Lluoedd Arfog yn eu hwynebu wrth adael y lluoedd arfog, o bob gwasanaeth a rheng.

“Rwy’n gyn-filwr o’r Llynges Frenhinol, ac felly rwy’n gwybod pa mor anodd yw rhoi’r sgiliau helaeth a ddysgoch yn y gwasanaeth ar waith, megis manylder, cyflwyno’ch hun, prydlondeb, iechyd a diogelwch, a cheisio dychmygu sut y gellir eu defnyddio mewn swydd newydd mewn bywyd bob dydd.

“Bydd y cyfle mae’r cyngor yn ei gynnig yn awr i gyn-filwyr yn helpu i roi cyfle cyfartal i’r rheini sy’n gadael y lluoedd arfog yn dilyn gyrfa hir a nodedig, ac, sydd o bosib yn teimlo’n nerfus mewn marchnad swyddi gystadleuol. Yn enwedig am na fyddai llawer erioed wedi cwblhau CV nac wedi cael cyfweliad ffurfiol.”

Bydd polisi Recriwtio a Dethol y cyngor yn cael ei diwygio i adlewyrchu’r cynllun, gan roi cyfle i gyn-filwyr nodi eu bod yn gymwys am gyfweliad gwarantedig ar y ffurflen gais.

Mae rhoi’r cynllun ar waith yn ymateb i argymhelliad trawsbleidiol o Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae hefyd yn unol â Chyfamod Lluoedd Arfog y cyngor, sy’n ceisio annog gwell dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o’r materion sy’n effeithio ar gyn-filwyr.

Cymeradwywyd y cynllun gan aelodau Pwyllgor PersonĂŠl y cyngor ddydd Llun 24 Chwefror 2020.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle