SENEDD TO DEBATE EQUALITY MEASURES TO CREATE A FAIRER ECONOMY

0
521

SENEDD TO DEBATE EQUALITY MEASURES TO CREATE A FAIRER ECONOMY

 

 

A bill by Mid and West AM Helen Mary Jones has been selected for debate later this month (Wednesday 11 March).

Plaid Cymru AM Helen Mary Jones put forward the bill for debate in the Senedd that is intended to create a fairer economy by introducing measures to improve equality in the private sector.

The proposal is for a bill to provide an equal opportunities audit of firms in receipt of Welsh Government grants.

Shadow Minister for Economy, Tackling Poverty, and Transport, Helen Mary Jones said:

“The bill, if passed, would improve equality in the workplace. It would ensure that firms in receipt of Welsh Government grants would have to provide an equal opportunities audit of their company.

“The Welsh Government invests a great deal and spends even more of Welsh taxpayers money in the private sector.

“In addition to ensuring good value for money of that spend, we should be ensuring the Welsh public purse supports those companies that can demonstrate best practice in the promotion of equal opportunities for their staff.

“We should be able to be sure that our money is not being used to support or subsidise bad practice.

“My proposed legislation would ensure that, in future, Welsh Ministers would incorporate an equality audit with their other due diligence practice when letting contracts or making investments.

“It would build on the strong legislative foundations we have for equalities here in Wales. We all realise, however, that there is still inequality that impacts on women’s lives across our nation.

“Women are forced into mainly low-paid, part-time work and they continue to take on the majority of unpaid care. Violence and harassment continue to blight our society and in some cases, particularly online, appears to be getting worse.

“Discrimination is rife for many women, and some remain at a greater risk of poverty and isolation.

“Why do I think the Welsh Government should take this issue seriously? The cost of inequality is not just felt by women, but also by the Welsh economy.

“Research by equality organisation Chwarae Teg found that £13.6 billion could be added to the economy of Wales by 2028 if we achieved gender equality.

“My legislation, if passed, would be a step in the right direction for a fairer economy and to improve equality measures for all.”

The purpose of the bill would be to improve and encourage equal opportunities in the private sector in Wales; and build on the findings of the Fair Work Commission.

 

 

 

 

 

 

 

I’W RYDDHAU AR UNWAITH– 05 MAWRTH 2020

 

Y SENEDD I DRAFOD MESURAU CYDRADDOLDEB I GREU ECONOMI DECACH

 

Mae bil gan AC y Canolbarth a’r Gorllewin Helen Mary Jones wedi ei dewis i gyflwyno dadl yn nes ymlaen y mis yma (Mercher 11 Mawrth).

Cynigiodd AC Plaid Cymru Helen Mary Jones fil i’w drafod yn y Senedd a fwriedir i greu economi decach trwy gyflwyno mesurau i wella cydraddoldeb yn y sector preifat.

Mae’r cynnig am fil i ddarparu archwiliad cyfle cyfartal i gwmnïau sy’n derbyn grantiau Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Gweinidog cysgodol dros yr Economi, Taclo Tlodi, a Thrafnidiaeth, Helen Mary Jones:

“Petai’r bil yn cael ei basio, byddai’n gwella cydraddoldeb yn y gweithle. Byddai’n gwneud yn siŵr y byddai’n rhaid i gwmnïau sy’n derbyn grantiau Llywodraeth Cymru ddarparu archwiliad cyfle cyfartal o’u cwmni.

“Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi llawer iawn ac yn gwario mwy, hyd yn oed, o arian trethdalwyr Cymru yn y sector preifat.

“Yn ychwanegol at sicrhau gwerth da am yr arian a werir, dylem fod yn sicrhau fod pwrs cyhoeddus Cymru yn cefnogi’r cwmnïau hynny all ddangos yr arferion gorau o ran hybu cyfleoedd cyfartal i’w staff.

“Dylem allu gwneud yn siŵr nad yw ein harian yn defnyddio i gefnogi neu sybsideiddio arferion drwg.

“Byddai fy neddfwriaeth arfaethedig yn sicrhau, yn y dyfodol, y byddai Gweinidogion Cymru yn ymgorffori archwiliad cydraddoldeb gyda’u harferion diwydrwydd dyladwy wrth osod contractau neu fuddsoddi.

“Byddai’n adeiladu ar y sylfeini deddfwriaethol cryfion sydd gennym ar gyfer cydraddoldeb yma yng Nghymru. Fodd bynnag, yr ydym oll yn sylweddoli bod anghydraddoldeb yn parhau a’i fod yn cael effaith ar fywydau menywod ar hyd a lled ein cenedl.

“Mae menywod yn cael eu gorfodi i waith sy’n bennaf yn rhan-amser ac yn talu cyflogau isel, ac y maent yn parhau i ysgwyddo baich gofal di-dâl. Mae trais ac aflonyddu yn parhau i fod yn bla ar ein cymdeithas, ac mewn rhai achosion, yn enwedig ar-lein, yn edrych fel petai’n gwaethygu.

“Mae camwahaniaethu yn digwydd yn aml i fenywod, ac y mae rhai yn dal mewn mwy o berygl o dlodi ac unigrwydd.

“Pam fy mod yn meddwl y dylai Llywodraeth Cymru gymryd y mater hwn o ddifrif? Mae cost anghydraddoldeb yn cael ei deimlo nid yn unig gan fenywod, ond hefyd gan economi Cymru.

“Canfu ymchwil gan y mudiad cydraddoldeb Chwarae Teg y byddai modd ychwanegu £13.6 biliwn at economi Cymru erbyn 2028 petaem yn cyrraedd cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

“Petai fy neddfwriaeth yn cael ei basio, byddai’n gam i’r cyfeiriad iawn tuag at economi tecach a gwella mesurau cydraddoldeb i bawb.”

Pwrpas y bil fyddai gwella ac annog cyfleoedd cyfartal yn y sector preifat yng Nghymru, ac adeiladu ar ganfyddiadau’r Comisiwn Gwaith Teg.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle