GP Practices providing essential services for their patients / Meddygfeydd Teulu yn darparu gwasanaethau hanfodol i’w cleifion

0
545
Avenue Villa Surgery

GP Practices are working hard to ensure that essential services continue to run for the communities they serve.

During this pandemic, there will be temporary changes to the way that patients can access essential care and services in the community to protect these services while under pressure.

Practices are making some alternative arrangements for their patients such as:

  • Using telephone triage (detailed assessment by a GP or nurse)
  • Online and video consultations with patients where appropriate
  • Suspending some non-essential services and moving to telephone reviews where appropriate
  • Issuing multiple prescriptions at a time where safe to do so
  • Temporary closure by the GPs of some branch surgeries to consolidate services

Patients with complex needs will continue to receive the care they need as assessed by their GP.

Some practices, listed in the table below, will be open for a limited time over the forthcoming Easter weekend. They will be offering essential services to patients who require an urgent consultation. Patients will be assessed over the telephone by a GP or nurse and will be offered face-to-face consultations if clinically appropriate. Patients are asked to contact their surgery as normal if it is necessary.

Practice Good Friday 10th April Easter Saturday 11th April Easter Sunday 12th April Easter Monday 13th April
  08:00-18.30 08:00-13.15 08:00-13.15 08:00-18.30
Carmarthenshire
Taf, Whitland OPEN CLOSED CLOSED OPEN
Morfa Lane OPEN CLOSED CLOSED OPEN
Coach & Horses OPEN CLOSED CLOSED OPEN
Furnace House OPEN CLOSED CLOSED OPEN
Minafon OPEN OPEN OPEN OPEN
Penygroes OPEN CLOSED CLOSED OPEN
Tumble OPEN OPEN OPEN OPEN
Brynteg OPEN OPEN OPEN OPEN
Amman Tawe OPEN OPEN OPEN OPEN
Avenue Villa OPEN OPEN OPEN OPEN
Fairfield OPEN CLOSED CLOSED OPEN
Ty Elli OPEN CLOSED CLOSED OPEN
Ashgrove OPEN OPEN OPEN OPEN
Llwynhendy OPEN CLOSED CLOSED OPEN
Tywyn Bach OPEN CLOSED CLOSED OPEN
Ceredigion
Church Surgery OPEN OPEN OPEN OPEN
Padarn OPEN CLOSED CLOSED OPEN
Tregaron OPEN OPEN OPEN OPEN
Bro Pedr OPEN CLOSED CLOSED OPEN
Llynyfran OPEN CLOSED CLOSED OPEN
Emlyn OPEN CLOSED CLOSED OPEN
Pembrokeshire
Barlow House OPEN CLOSED CLOSED OPEN
Newport / Crymych OPEN CLOSED CLOSED OPEN
St Thomas OPEN CLOSED CLOSED OPEN
Robert Street OPEN CLOSED CLOSED OPEN
Winch Lane OPEN CLOSED CLOSED OPEN
Narberth OPEN CLOSED CLOSED OPEN
Saundersfoot OPEN CLOSED CLOSED OPEN
Tenby OPEN OPEN OPEN OPEN

Many practices are ensuring that repeat prescriptions are available for direct collection from the nearest community pharmacy, avoiding the need for patients to go into the surgery. Patients can confirm this with their own practice.

Most practices have, or are in the process, of using eConsult via their website. This secure online service enables GPs to offer online consultations to their patients. This allows patients to submit details of their symptoms or requests electronically to their practice for a response, and offers around the clock NHS self-help information, signposting to services, and a symptom checker. Patients can access this service by visiting their practice website and following the link.

Jill Paterson, Director of Primary Care, Community and Long-term Care for Hywel Dda University Health Board said: “We are working with GP Practices on proactive and prudent measures which they are implementing to ensure that they can continue to provide safe and essential services for patients.

“This is period of significant challenge for the NHS in Wales and all parts of the system are having to respond quickly and decisively to protect services for patients and the most vulnerable in particular.

“We fully support our GMS partners in taking these measures during this pandemic.”

Patients who need to attend essential appointments must contact their surgery before attending if they experience symptoms of a new cough or a temperature. Thank you for your co-operation.

Meddygfeydd Teulu yn darparu gwasanaethau hanfodol i’w cleifion

Mae Meddygfeydd Teulu yn gweithio’n galed i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i redeg ar gyfer y cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.

Yn ystod y pandemig hwn, bydd newidiadau dros dro i’r ffordd y gall cleifion gael mynediad at ofal a gwasanaethau hanfodol yn y gymuned i amddiffyn y gwasanaethau hyn tra’u bod dan bwysau.

Mae meddygfeydd yn gwneud rhai trefniadau amgen ar gyfer eu cleifion fel:

  • Defnyddio brysbennu ffôn (asesiad manwl gan feddyg teulu neu nyrs)
  • Ymgynghoriadau ar-lein a fideo gyda chleifion lle bo hynny’n briodol
  • Atal rhai gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol a symud i adolygiadau ffôn lle bo hynny’n briodol
  • Cyhoeddi sawl presgripsiwn yr un pryd lle mae’n ddiogel i wneud hynny
  • Cau’r rhai meddygfeydd cangen i gydgrynhoi gwasanaethau

Bydd cleifion ag anghenion cymhleth yn parhau i dderbyn y gofal sydd ei angen arnynt fel yr aseswyd gan eu meddyg teulu.

Bydd rhai Meddygfeydd, a restrir yn y tabl isod, ar agor am gyfnod cyfyngedig dros benwythnos y Pasg. Byddant yn cynnig gwasanaethau hanfodol i gleifion y mae angen ymgynghoriad arnynt ar frys. Caiff cleifion eu hasesu dros y ffôn gan feddyg teulu neu nyrs a byddant yn cael cynnig ymgynghoriadau wyneb yn wyneb os yw hynny’n briodol yn glinigol. Gofynnir i gleifion gysylltu â’u meddygfa fel arfer os oes angen.

Meddygfa Dydd Gwener y Grogllith
10fed o Ebrill
Dydd Sadwrn y Pasg
11eg o Ebrill
Sul y Pasg
12fedEbrill
Dydd Llun y
Pasg 13eg Ebrill
  08:00-18.30 08:00-13.15 08:00-13.15 08:00-18.30

Sir Gar

Taf, Whitland AR AGOR AR GAU AR GAU AR AGOR
Morfa Lane AR AGOR AR GAU AR GAU AR AGOR
Coach & Horses AR AGOR AR GAU AR GAU AR AGOR
Furnace House AR AGOR AR GAU AR GAU AR AGOR
Minafon AR AGOR AR AGOR AR AGOR AR AGOR
Penygroes AR AGOR AR GAU AR GAU AR AGOR
Tymbl AR AGOR AR AGOR AR AGOR AR AGOR
Brynteg AR AGOR AR AGOR AR AGOR AR AGOR
Amman Tawe AR AGOR AR AGOR AR AGOR AR AGOR
Avenue Villa AR AGOR AR AGOR AR AGOR AR AGOR
Fairfield AR AGOR AR GAU AR GAU AR AGOR
Ty Elli AR AGOR AR GAU AR GAU AR AGOR
Ashgrove AR AGOR AR AGOR AR AGOR AR AGOR
Llwynhendy AR AGOR AR GAU AR GAU AR AGOR
Tywyn Bach AR AGOR AR GAU AR GAU AR AGOR
Llangennech AR GAU AR GAU AR GAU AR GAU

 

Ceredigion

Meddygfa’r Llan AR AGOR AR AGOR AR AGOR AR AGOR
Padarn AR AGOR AR GAU AR GAU AR AGOR
Tregaron AR AGOR AR AGOR AR AGOR AR AGOR
Bro Pedr AR AGOR AR GAU AR GAU AR AGOR
Llynyfran AR AGOR AR GAU AR GAU AR AGOR
Emlyn AR AGOR AR GAU AR GAU AR AGOR

 

Sir Benfro

Barlow House AR AGOR AR GAU AR GAU AR AGOR
Trefdraeth / Crymych AR AGOR AR GAU AR GAU AR AGOR
St Thomas AR AGOR AR GAU AR GAU AR AGOR
Robert Street AR AGOR AR GAU AR GAU AR AGOR
Winch Lane AR AGOR AR GAU AR GAU AR AGOR
Arberth AR AGOR AR GAU AR GAU AR AGOR
Llanusyllt AR AGOR AR GAU AR GAU AR AGOR
Dinbych y Pysgod AR AGOR AR AGOR AR AGOR AR AGOR

Mae llawer o Feddygfeydd yn sicrhau bod ail-bresgripsiynau ar gael i’w casglu’n uniongyrchol o’r Fferyllfa Gymunedol agosaf, gan osgoi’r angen i gleifion fynd i’r Feddygfa. Gall cleifion gadarnhau hyn gyda’u Meddygfa eu hunain.

Mae’r rhan fwyaf o Feddygfeydd wedi, neu wrthi’n defnyddio eConsult trwy eu gwefan. Mae’r gwasanaeth diogel ar-lein hwn yn galluogi meddygon teulu i gynnig ymgynghoriadau ar-lein i’w cleifion. Mae hyn yn caniatáu i gleifion gyflwyno manylion eu symptomau neu geisiadau yn electronig i’w Meddygfa i gael ymateb, ac mae’n cynnig gwybodaeth hunangymorth y GIG o amgylch y cloc, cyfeirio at wasanaethau, a gwiriwr symptomau. Gall cleifion gael mynediad i’r gwasanaeth hwn trwy ymweld â gwefan eu Meddyfga a dilyn y ddolen.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gofal Cymunedol a Hirdymor ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

“Rydym yn gweithio gyda Meddygfeydd Teulu ar fesurau rhagweithiol a darbodus y maent yn eu rhoi ar waith i sicrhau y gallant barhau i ddarparu gwasanaethau diogel a hanfodol i gleifion.

“Mae hwn yn gyfnod o her sylweddol i’r GIG yng Nghymru ac mae pob rhan o’r system yn gorfod ymateb yn gyflym ac yn bendant i amddiffyn gwasanaethau i gleifion a’r rhai mwyaf agored i niwed yn benodol.

“Rydym yn llwyr gefnogi ein partneriaid GMS am gymryd y mesurau hyn yn ystod y pandemig hwn.”

Rhaid i gleifion sydd angen mynychu apwyntiadau hanfodol gysylltu â’u Meddygfa cyn mynychu os ydyn nhw’n profi symptomau peswch newydd neu dymheredd. Diolch am eich cydweithrediad


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle