“We’re here to help” says local alcohol support service / “Rydyn ni yma i helpu” meddai’r gwasanaeth cymorth alcohol lleol

0
418

It’s important that we look after our own wellbeing at any time, but more so now during the current COVID-19 pandemic.

In times of stress, some of us may find ourselves, or family and friends around us, drinking more alcohol than usual. A recent survey by Alcohol Change UK found that, since the lockdown was introduced, 21% of people reported drinking more frequently and 15% drinking larger amounts.

Alcohol can affect our mood, quality of sleep, relationship and general wellbeing. If you feel you or someone close to you needs help and support, you can access free telephone support by contacting Dyfed Drug & Alcohol Service (DDAS) on 03303 639 997 or by emailing: confidential@d-das.co.uk

Ros Jervis, Director of Public Health at Hywel Dda University Health Board said: “Managing how much alcohol we drink is one of the most important things we can do to look after our mental and physical wellbeing. It’s especially important during the Covid -19 pandemic when stress or anxiety levels may already be high, so I encourage anyone who feels they need support to get in touch with the service.”

Sian Roberts, Service Manager of DDAS added: “DDAS are still open for business and we look forward to supporting you. You can contact us for free and confidential advice and guidance. We are also running a #TimeToBrew campaign which is all about building resilience and ensuring wellbeing particularly during lockdown and as we move into the next phase – you can find lots of resources and follow our campaign at https://barod.cymru/time-to-brew-campaign-2020/

For the latest news and updates from Hywel Dda University Health Board visit www.hduhb.wales.nhs.uk

“Rydyn ni yma i helpu” meddai’r gwasanaeth cymorth alcohol lleol

Mae’n bwysig ein bod ni’n gofalu am ein llesiant ein hunain ar unrhyw adeg, ond yn fwy felly nawr yn ystod y pandemig cyfredol COVID-19.

Ar adegau o straen, efallai y bydd rhai ohonom, neu deulu a ffrindiau o’n cwmpas, yn yfed mwy o alcohol na’r arfer. Canfu arolwg diweddar gan Alcohol Change UK, ers cyflwyno’r cloi fod 21% o bobl wedi nodi eu bod yn yfed yn amlach a 15% yn yfed symiau mwy.

Gall alcohol effeithio ar ein hwyliau, ansawdd cwsg, perthynas a llesiant cyffredinol. Os ydych chi’n teimlo bod angen help a chefnogaeth arnoch chi neu rywun sy’n agos atoch chi, gallwch gael cymorth ffôn am ddim trwy gysylltu â Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed (DDAS) ar 03303 639 997 neu drwy e-bostio: confidential@d-das.co.uk.

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae rheoli faint o alcohol rydyn ni’n ei yfed yn un o’r pethau pwysicaf y gallwn ni ei wneud i ofalu am ein llesiant meddyliol a chorfforol. Mae’n arbennig o bwysig yn ystod pandemig Covid -19 pan all lefelau straen neu bryder fod yn uchel eisoes, felly rwy’n annog unrhyw un sy’n teimlo bod angen cefnogaeth arnynt i gysylltu â’r gwasanaeth. ”

Ychwanegodd Sian Roberts, Rheolwr Gwasanaeth DDAS: “Mae DDAS yn dal ar agor i fusnes ac edrychwn ymlaen at eich cefnogi. Gallwch gysylltu â ni i gael cyngor ac arweiniad cyfrinachol am ddim. Rydym hefyd yn cynnal ymgyrch #TimeToBrew sy’n ymwneud ag adeiladu gwytnwch a sicrhau llesiant yn enwedig yn ystod y cyfnod cloi ac wrth inni symud i’r cam nesaf – gallwch ddod o hyd i lawer o adnoddau a dilyn ein hymgyrch yn https://barod.cymru/time-to-brew-campaign-2020/.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle