‘Coliadaur a Cwpanaid’ (Bytes and Bites) – Prosiect dysgu traws oed Arweinir gan Fforwm 50+ Sir Gar

0
664

Derbyniodd y Fforwm addewid ariannol gan Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru i rhedeg prosiect traws oedran ar draws lleoliadau yn Sir Gaerfyrddin.  Pwrpas y cynllun yw cysylltu pobl sydd yn 50+ gyda phobl ifanc i rhannu dysgu a sgiliau, gyda’r nod o gyfoethogi bywydau drwy datblygu cylchoedd cefnogaeth i ddylanwadu ar iechyd a lles gan leihau unigrwydd cymdeithasol a methu cyfathrebu’n ddigidol.

Y moddi wneud hyn yw drwy cynnal sesiynau anffurfiol sy’n rhyngweithio, gymdeithasol ac yn hwyl, tra ar yr un pryd darparu sgiliau newydd a gwybodaeth perthnasol i’r rhai yno.  Byddwn yn adeiladu y syniad o gymuned wrth i’r 50+ gymysgu gyda’n pob ifanc mewn safleoedd fel neuaddau cymunedol a chlybiau ieuenctid ag ati.  Bydd hwn yn gyfnewid 2 ffordd, wrth i’r ifanc ddysgu’r hen am technoleg a chyfrifaduron; a’r hen yn dysgu’r ifanc sut i ddatblygu sgiliau, fel garddio, paratoi a choginio bwyd, crefftau ac unrhyw beth arall.

Rydym eisoes wedi arbrofi hwn gyda ein partneriaid yn nhref Caerfyrddin sef Prosiect Dr Mz, Cymunedau Digido Cymru a Chyngor Tref Caerfyrddin.  Daeth tua 20 o hen bobl i’w hyfforddi gan 10 aelod ifanc i ddysgu sut i gael y gorau allan o’u ffonau symudo tra’n manteisio ar yr un pryd ar de prynhawn.  Profodd yn lwyddiant ysgubol ac mae sawl ymholiad wedi dod yn ei sgi.  Yn ogystal a hyn mae’r cyfle i eistedd a rhannu paned wedi creu mwy o barch traws oed, gan alluogi pob i rhannu eu hofnau a sialensau mewn modd cefnogol.

Fodd bynnag yn anffodus mae Pla COVID 19 yn ein hatal rhag cychwyn y prosiect ar yr adeg y bwriadwyd, ond nawr rydym yn medru gweld modd o ddechrau symud  ymlaen ym mis Medi – er y bydd yn debygol o fod yn wahanol mewn rhai ffyrdd oherwydd rheolau ymbellhau cymdeithasol.

Yn y dyfodol agos byddwn yn cyflogi cydlynydd i rhyngweithio gydag ysgolion, clybiau ieuenctid a Chynghorau Cymuned ar draws y sir i gynnal sesiynau mewn canolfannau ar draws i sir.  Bu Cymunedau Digido Cymru yn hyfforddi yr ifanc tuag at y sesiwn gyntaf ac yn parhau i wneud hyn gan greu Pencampwyr Digidol lle byddwn yn ymweld.

Am fwy o wybodaeth a fyddech cystal a chysylltu a Fforwm 50+ Sir Gar carmarthenshire50@gmail.com  neu Wyn Llewellyn, Arweinydd Cydlynu a’r Gymuned, i Fforwm 50+ ar  07702249644 neu wynmill@btinternet.com


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle