Joining forces to protect our communities / Uno i amddiffyn ein cymunedau

0
747

Public bodies in west Wales are working together to test anyone with symptoms of Coronavirus in a continued effort to protect our communities.

Local arrangements have been set up by Hywel Dda University Health Board to allow symptomatic critical workers and unpaid carers to get quick access to a free test, allowing them to return to work as soon as they feel better, if their result is negative.

Critical workers, such as those in health and social care, local authorities, police, fire, education, food, retail, transport, public services, are encouraged to get a test if they have symptoms. Preferably, they can do this by speaking to their employer. Alternatively, they can contact the local Covid Enquiries team direct on 0300 303 8322 or by emailing CovidEnquiries.hdd@wales.nhs.uk (please note this is for critical workers only and details on how symptomatic members of the public can access testing is below).

For the full list of critical workers eligible for a test visit: https://gov.wales/coronavirus-critical-key-workers-test-eligibility

Symptomatic members of the public can apply for a test by visiting the Welsh Government website: www.gov.wales/apply-coronavirus-test and choosing either a mass drive-through testing centre or ordering a home testing kit. Those without digital access can apply for a test by calling the free number 119 (between 7am-11pm) and people with hearing or speech difficulties can call 18001 119.

Alongside the testing arrangements, the NHS Wales Test Trace Protect service is now well underway across Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire to track the virus and will give extra protection to our communities. Hywel Dda University Health Board and all three local authorities are working extremely hard together to help our local communities continue to live and work alongside the virus whilst containing its spread.

Anyone who has been in contact with someone with confirmed COVID-19 may be contacted as part of this and asked to self-isolate for up to 14 days, and to request a test if they show any symptoms of the virus. A contact advisor will get in touch with the individual to provide advice and support.

Chair of Hywel Dda University Health Board Maria Battle, Leader of Carmarthenshire County Council Emlyn Dole, Leader of Ceredigion County Council Ellen ap Gwynn and Leader of Pembrokeshire County Council David Simpson said in a joint statement: “Thank you to all our communities who are working so hard to protect and support each other.

“As we continue to rise to the challenge that Covid19 presents us all, we are urging everyone to remain vigilant and not to relax the measures already in place, such as maintaining social distancing and hand hygiene, to help us live and work alongside the virus whilst containing its spread.

“Each of us has an important role to play in making sure we continue to protect our local communities and keep Hywel Dda safe.”

Paul Callard, Economic Crime Manager for Dyfed-Powys Police, said: “Criminals will try to exploit the COVID-19 pandemic for financial gain, so it’s important people are aware of how contract tracing will work, and how to spot a potential scammer.”

You can report suspicious calls and emails via 101, online at https://www.dyfed-powys.police.uk/en/contact-us/report-an-incident/ or by emailing contactcentre@dyfed-powys.pnn.police.uk.

Contact tracers will NEVER:
• Ask you to dial a premium rate number to speak to them (for example, those starting with 09 or 087)
• Ask you to make any form of payment
• Ask you for any details about your bank account
• Ask for your social media identities or login details, or those of your contacts
• Ask you for any passwords or PINs, or ask you to set up any over the phone
• Ask you to purchase a product
• Ask you to visit any website that does not belong to the Government or NHS
• Ask you to download any software to your device or ask you to hand over control of your PC, smartphone or tablet.

The agencies continue to meet regularly in their joint response to this situation and also working through the formal Dyfed Powys Local Resilience Forum. The LRF is a multi-agency partnerships made up of representatives from public services including police, other emergency services, local authorities, the NHS, Natural Resources Wales and others.

Members of the public are reminded that official information and advice about coronavirus is available from https://phw.nhs.wales/coronavirus

To protect yourself and other people:

  • wash your hands with soap and water often – do this for at least 20 seconds
  • always wash your hands when you get home or into work
  • use hand sanitiser gel if soap and water are not available
  • cover your mouth and nose with a tissue or your sleeve (not your hands) when you cough or sneeze
  • put used tissues in the bin straight away and wash your hands afterwards
  • try to avoid close contact with people who are unwell
  • do not touch your eyes, nose or mouth if your hands are not clean

If you feel you cannot cope with your symptoms at home or if your condition gets worse, or your symptoms do not get better after seven days, use the 111 online coronavirus service. If you do not have internet access, call 111. In a medical emergency, dial 999.

Uno i amddiffyn ein cymunedau

Mae cyrff cyhoeddus yng ngorllewin Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i brofi unrhyw un sydd â symptomau coronafeirws mewn ymdrech barhaus i amddiffyn ein cymunedau.

Mae trefniadau lleol wedi cael eu sefydlu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ganiatáu i weithwyr hanfodol a gofalwyr di-dâl sydd â symptomau gael mynediad cyflym i brawf am ddim, gan ganiatáu iddynt ddychwelyd i’r gwaith cyn gynted ag y teimlant yn well, os yw eu canlyniad yn negyddol.

Anogir gweithwyr hanfodol, megis y rhai mewn iechyd a gofal cymdeithasol, awdurdodau lleol, yr heddlu, tân, addysg, bwyd, manwerthu, trafnidiaeth, gwasanaethau cyhoeddus, i gael prawf os oes ganddynt symptomau. Yn ddelfrydol, gallant wneud hyn drwy siarad â’u cyflogwr. Fel arall, gallant gysylltu â’r tîm ymholiadau Covid lleol yn uniongyrchol ar 0300 303 8322 neu drwy anfon e-bost at CovidEnquiries.hdd@wales.nhs.uk (Sylwch mai mater i weithwyr allweddol yn unig yw hwn ac mae manylion am sut y gall aelodau’r cyhoedd gael mynediad i brofion isod).

I gael y rhestr lawn o weithwyr allweddol sy’n gymwys i gael prawf ewch i: https://gov.wales/coronavirus-critical-key-workers-test-eligibility

Gall Aelodau’r cyhoedd wneud cais am brawf drwy ymweld â gwefan Llywodraeth Cymru: www.gov.wales/apply-coronavirus-test a dewis naill ai canolfan galw heibio neu archebu pecyn profi cartref. Gall y rhai sydd heb fynediad digidol wneud cais am brawf drwy ffonio’r Rhadffôn 119 (rhwng 7am-11pm) a gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd ffonio 18001 119.

Ochr yn ochr â’r trefniadau profi, mae’r gwasanaeth profi, olrhain a diogelu GIG Cymru bellach yn mynd rhagddo ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i olrhain y firws a bydd yn diogelu ein cymunedau ymhellach. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a phob un o’r tri awdurdod lleol yn gweithio’n eithriadol o galed gyda’i gilydd i helpu ein cymunedau lleol i barhau i fyw a gweithio gyda’r firws tra’n gwarchod ei ledaeniad.

Byddent yn cysylltu ag unrhyw un sydd wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd â COVID-19 a gofyn iddynt hunan ynysu am hyd at 14 diwrnod, a gofyn am brawf os byddant yn dangos unrhyw symptomau o’r firws. Bydd cynghorydd cyswllt yn cysylltu â’r unigolyn i roi cyngor a chymorth.

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Maria Battle, arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin Emlyn Dole, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion Ellen ap Gwynn ac arweinydd Cyngor Sir Penfro David Simpson mewn datganiad ar y cyd: “Diolch i bob un o’n cymunedau sy’n gweithio mor galed i amddiffyn a chefnogi ei gilydd.

“Wrth i ni barhau i ymateb i’r her y mae Covid19 yn ei chyflwyno i ni i gyd, rydym yn annog pawb i fod yn wyliadwrus a pheidio â llacio’r mesurau sydd eisoes ar waith, fel cynnal a chadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo, er mwyn ein helpu i fyw a gweithio ochr yn ochr â’r firws tra’n rheoli ei ledaeniad.

“Mae gan bob un ohonom ran bwysig i’w chwarae o ran sicrhau ein bod yn parhau i amddiffyn ein cymunedau lleol a chadw Hywel Dda yn ddiogel.”

Dywedodd Paul Callard, Rheolwr Trosedd Economaidd Heddlu Dyfed-Powys: “Bydd troseddwyr yn ceisio manteisio ar y pandemig COVID-19 er budd ariannol, felly mae’n bwysig bod pobl yn ymwybodol o sut y bydd yr olrhain yn gweithio, a sut i adnabod sgamiwr posib.”

Gallwch adrodd galwadau a negeseuon e-bost amheus trwy 101, ar-lein yn https://www.dyfed-powys.police.uk/cy/cysylltwch-a-ni/riportiwch-ar-lein/ neu drwy e-bostio contactcentre@dyfed-powys.pnn.police.uk.

Ni fydd swyddogion olrhain cyswllt byth yn:

  • Gofyn i chi ddeialu rhif cyfradd premiwm i siarad â nhw (er enghraifft, y rhai sy’n dechrau gyda 09 neu 087)
  • Gofyn i chi wneud unrhyw fath o daliad
  • Gofyn i chi am unrhyw fanylion am eich cyfrif banc
  • Gofyn am eich manylion cyfryngau cymdeithasol neu fanylion mewngofnodi, neu am eich enwau cyswllt
  • Gofyn i chi am unrhyw gyfrineiriau neu binnau, neu ofyn i chi osod unrhyw un dros y ffôn
  • Gofyn i chi brynu cynnyrch
  • Gofyn i chi ymweld ag unrhyw wefan nad yw’n perthyn i’r Llywodraeth na’r GIG
  • Gofyn i chi lawrlwytho unrhyw feddalwedd ar eich dyfais neu ofyn i chi drosglwyddo rheolaeth dros eich cyfrifiadur, ffôn clyfar neu dabled.

Mae’r asiantaethau yn parhau i gwrdd yn rheolaidd yn eu hymateb ar y cyd i’r sefyllfa hon a hefyd drwy Fforwm Cydnerth Lleol Dyfed Powys. Mae’r fforymau lleol yn bartneriaethau aml-asiantaeth sy’n cynnwys cynrychiolwyr o wasanaethau cyhoeddus gan gynnwys yr heddlu, gwasanaethau brys eraill, awdurdodau lleol, y GIG, Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill.

Atgoffir aelodau o’r cyhoedd bod gwybodaeth a chyngor swyddogol am coronafeirws ar gael o https://phw.nhs.wales/coronavirus

I amddiffyn eich hun a phobl eraill:

  • Golchwch eich dwylo gyda sebon a dŵr yn aml – Gwnewch hyn am o leiaf 20 eiliad
  • Golchwch eich dwylo bob amser pan fyddwch yn mynd adref neu gyrraedd y gwaith
  • Defnyddiwch gel diheintio dwylo os nad oes sebon a dŵr ar gael
  • Gorchuddiwch eich ceg a’ch trwyn â hances neu eich llawes (nid eich dwylo) pan fyddwch yn peswch neu’n tisian
  • Rhowch hancesi papur wedi’u defnyddio yn y bin ar unwaith a golchwch eich dwylo wedyn
  • Ceisiwch osgoi cysylltiad agos â phobl sy’n sâl
  • Peidiwch â chyffwrdd â’ch llygaid, eich trwyn na’ch ceg os nad yw eich dwylo’n lân

Os ydych chi’n teimlo nad ydych chi’n gallu ymdopi â’ch symptomau gartref neu os yw eich cyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw eich symptomau’n gwella ar ôl saith diwrnod, defnyddiwch wasanaeth coronafeirws 111 ar-lein. Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, ffoniwch 111. Mewn argyfwng meddygol, deialwch 999.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle