Garden reopens – Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Agored

0
643

The National Botanic Garden of Wales reopens

We are delighted to announce that the National Botanic Garden of Wales is open to the pubic again from Monday July 6th.

Huge thanks to all our members, visitors, staff, volunteers, friends and everyone for sticking with us through these strange and difficult times.

With 568 acres, we’re more than confident we can meet all the social-distancing guidelines but you will notice some changes which are designed to keep everyone safe.

For instance, we are asking that, when you park your car, you leave a whole space between you and the next car. We’ll be there to help you.

As we carefully control the flow of visitors, there may be some queuing so please look for the safety signs and follow the guidance – once again, we will be on hand to help if you have any questions.

The Garden is open from 10am-6pm, seven days a week.

For prices, please take a look at our website.

If you are a Member, don’t forget to dig out and dust off your membership card and bring it with you. It’s your ticket into the Botanic Garden.

The Broadwalk is looking beautiful right now, and watch out for the replanting and restoration work going on in the Bog Garden. At the top of the Broadwalk, the Boulder Garden is so full of colour as is the Wild Garden down behind the Great Glasshouse. Our unique, historic Double Walled Garden is a must-see, too.

Now is the perfect time to enjoy our beautiful, wide-open spaces. Explore the Arboretum, take a tranquil lakeside stroll or one of our countryside trails, visit the British Bird of Prey Centre, sneak a peak in Fairy Woods, marvel at the magnificent Ghost Forest, and venture out onto the wider estate to enjoy the wonders of our Waun Las National Nature Reserve.

We only have a limited catering offer at this time – takeaway ice creams, cold drinks etc – but there are socially-distanced picnic benches you can use if you want to bring your own. There are enhanced cleaning regimes in place, too, so please be patient with our facilities staff as they keep the Garden safe for you.

We now have floor markings to ensure that you remain at least two metres from the next person or household at all times.

We cannot open the Great Glasshouse right now but, when we do, you will find a new one-way system in there.  All we ask is that you follow the arrows and keep your distance.

To help keep us all safe, most of our other indoor spaces – the Gallery, Apothecary and Butterfly House – are closed and so is the Children’s Playground but the Gift Shop and Garden Centre are open, and there are tables and chairs in the Restaurant Courtyard if you need to take a breather. There is no visitor buggy service in operation but our mobility scooters will be available. These will need to be booked in advance by calling 01558 667149.

Use the sanitising stations at the entrance and exit to the Garden and outside the toilet facilities and pay heed to the signs around the Garden to ensure and safe and pleasant visit.

  • Be well – do not visit if you are showing signs of any of the symptoms of the virus
  • Keep safe – maintain your distance and stay at least two metres apart
  • Heed the guidance – stay home if you have serious or underlying health conditions or are caring for loved ones who do

For the very latest information and guidance, visit the Public Health Wales website

We look forward to welcoming you back to the Botanic Garden very soon.

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Agored

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn agored i’r cyhoedd eto o ddydd Llun 6 Gorffennaf ymlaen.

Diolch yn fawr iawn i’n holl aelodau, ymwelwyr, staff, gwirfoddolwyr, ffrindiau a phawb arall am fod yn driw i ni trwy’r cyfnod rhyfedd ac anodd hwn.

Gyda’n 568 erw, rydym yn fwy na hyderus y byddwn yn gallu bodloni’r holl ganllawiau o ran cadw pellter cymdeithasol, ond byddwch yn sylwi ar rai newidiadau sydd wedi’u cynllunio i gadw pawb yn ddiogel.

Er enghraifft, gofynnwn i chi adael bwlch cyfan rhyngoch chi a’r car nesaf pan fyddwch yn parcio eich car. Byddwn yno i roi help llaw i chi.

Wrth i ni reoli llif yr ymwelwyr yn ofalus, efallai y bydd yna ychydig o giwiau, felly edrychwch am yr arwyddion diogelwch a dilynwch y canllawiau – unwaith eto, byddwn wrth law i’ch helpu os bydd gennych unrhyw gwestiynau.

Bydd yr Ardd yn agored rhwng 10am a 6pm, saith niwrnod yr wythnos.

I weld y prisiau, edrychwch ar ein gwefan.

Os ydych yn Aelod, peidiwch ag anghofio dod â’ch cerdyn aelodaeth gyda chi. Dyma eich tocyn ar gyfer mynd i mewn i’r Ardd Fotaneg.

Mae’r Rhodfa’n edrych yn hyfryd ar hyn o bryd, a chadwch olwg ar y gwaith ailblannu ac adfer sy’n mynd rhagddo yn yr Ardd Gors. Ar ddiwedd y Rhodfa, mae’r Ardd Glogfeini yn orlawn o liwiau, yn yr un modd â’r Ardd Wyllt i lawr wrth y Tŷ Gwydr Mawr. Bydd yn rhaid i chi ymweld â’n Gardd Ddeufur hanesyddol, unigryw hefyd.

‘Nawr yw’r amser perffaith i fwynhau ein mannau agored, prydferth. Archwiliwch yr Ardd Goed, ewch am dro tawel ar hyd un o’n llwybrau cefn gwlad, ewch i Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain, cymerwch gipolwg ar Goedwig y Tylwyth Teg, synnwch at Goedwig y Bwganod, a mentrwch allan i’r ystad ehangach i fwynhau rhyfeddodau Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las.

Mae ein cynnig o ran arlwyo yn gyfyngedig ar hyn o bryd – hufen iâ, diodydd oer, ac ati – ond mae yna feinciau picnic ar bellter cymdeithasol y gallwch eu defnyddio os byddwch yn dod â’ch lluniaeth eich hun. Mae yna drefniadau glanhau manylach ar waith hefyd, felly byddwch yn amyneddgar â staff ein cyfleusterau wrth iddynt sicrhau bod yr Ardd yn ddiogel ar eich cyfer.

Erbyn hyn, mae gennym farciau ar y llawr i sicrhau eich bod yn cadw o leiaf ddau fetr oddi wrth y person neu’r teulu nesaf bob amser.

Ni allwn agor y Tŷ Gwydr Mawr ar hyn o bryd ond, pan fyddwn yn ei agor, byddwch yn gweld system unffordd newydd ynddo. Yr unig beth a ofynnwn yw eich bod yn dilyn y saethau ac yn cadw eich pellter.

I’n cadw ni i gyd yn saff, mae’r rhan fwyaf o’n hardaloedd dan do eraill – y Siop Rhoddion, yr Oriel, Neuadd yr Apothecari a’r Tŷ Gloÿnnod Byw – ynghau; mae Cae Chwarae’r Plant ynghau hefyd, ond mae’r toiledau yn y Bloc Stablau yn agored, ac mae yna fyrddau a chadeiriau yng Nghwrt y Bwyty os bydd angen i chi gymryd seibiant. Nid yw’r gwasanaeth bygis i ymwelwyr yn gweithredu, ond bydd ein sgwteri symudedd ar gael. Bydd angen archebu’r rhain ymlaen llaw trwy ffonio 01558 667149.

Defnyddiwch y gorsafoedd diheintio wrth fynedfa ac allanfa’r Ardd ac wrth gyfleusterau’r toiledau, a thalwch sylw i’r arwyddion o amgylch yr Ardd er mwyn sicrhau ymweliad diogel a phleserus.

  • Byddwch yn iach – peidiwch ag ymweld os oes gennych unrhyw rai o symptomau’r feirws.
  • Cadwch yn saff – cadwch eich pellter, gan sicrhau eich bod o leiaf ddau fetr ar wahân.
  • Rhowch sylw i’r canllawiau – arhoswch gartref os oes gennych gyflyrau iechyd difrifol neu sylfaenol, neu os ydych yn gofalu am anwyliaid sydd â chyflyrau o’r fath.

I gael yr wybodaeth a’r canllawiau diweddaraf, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Edrychwn ymlaen at eich croesawu’n ôl i’r Ardd Fotaneg yn fuan iawn.

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle