Statement on Welsh Government’s updated guidance on hospital visiting / Datganiad – Llywodraeth Cymru wedi diweddaru canllawiau ar ymweld ag ysbytai

0
770
Mandy Rayani - Director of Nursing Quality & Patient Experience

Mandy Rayani, Director of Nursing Quality & Patient Experience said: “The Welsh Government has updated its guidance about hospital visiting across NHS Wales during the ongoing Coronavirus pandemic, which includes people accompanying patients to appointments such as scans.

“Before we can lift our current visiting restrictions, we must ensure that we can maintain social distancing to keep everyone as safe as possible. We are already working hard to put in place the new arrangements outlined in the guidance appropriately and safely, however, these will not be fully in place by Monday 20 July as each department across the health board has to undertake individual risk assessments.

“We wish to reassure people that we are working on this as a matter of urgency and will introduce these changes in a phased way over the coming weeks. In the meantime, we are asking women to continue to attend their scheduled appointments alone as unfortunately we cannot yet allow partners or nominated others to attend with them. Women with specific needs are advised to contact the antenatal clinic via the hospital switchboard.

“We appreciate that it is a difficult time for everyone and we will continue to support the well-being of our patients/service users and their families and loved ones in the best way we can. Thank you for your ongoing patience, understanding and co-operation during this time.”

For the latest news and updates from Hywel Dda University Health Board visit www.hduhb.wales.nhs.uk
———————————————————————————————
Datganiad – Llywodraeth Cymru wedi diweddaru canllawiau ar ymweld ag ysbytai

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Ansawdd Nyrsio a Phrofiad Cleifion: “Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru eu canllawiau ar ymweld ag ysbytai ledled GIG Cymru yn ystod y pandemig Coronafirws parhaus, sy’n cynnwys pobl sy’n mynd gyda chleifion i apwyntiadau fel sganiau.

“Cyn y gallwn godi ein cyfyngiadau ymweld cyfredol, rhaid inni sicrhau y gallwn gynnal pellter cymdeithasol i gadw pawb mor ddiogel â phosibl. Rydym eisoes yn gweithio’n galed i roi’r trefniadau newydd a amlinellir yn y canllawiau ar waith yn briodol ac yn ddiogel, fodd bynnag, ni fydd y rhain ar waith yn llawn erbyn dydd Llun 20 Gorffennaf gan fod yn rhaid i bob adran ar draws y bwrdd iechyd gynnal asesiadau risg unigol.

“Rydym am sicrhau pobl ein bod yn gweithio ar hyn ar frys a byddwn yn cyflwyno’r newidiadau hyn fesul cam dros yr wythnosau nesaf. Yn y cyfamser, rydym yn gofyn i fenywod barhau i fynychu eu hapwyntiadau a drefnwyd ar ein pennau ein hunain oherwydd yn anffodus ni allwn ganiatáu i bartneriaid nac eraill a enwebwyd ddod gyda nhw. Cynghorir menywod ag anghenion penodol i gysylltu â’r clinig cynenedigol trwy switsfwrdd yr ysbyty.

“Rydym yn gwerthfawrogi ei fod yn gyfnod anodd i bawb a byddwn yn parhau i gefnogi llesiant ein cleifion / defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd a’u hanwyliaid yn y ffordd orau y gallwn. Diolch i chi am eich amynedd, eich dealltwriaeth a’ch cydweithrediad parhaus yn ystod yr amser hwn.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle