Wales TUC launches new guide on supporting older workers

0
619
Shavanah Taj, Wales TUC General Secretary

Wales TUC has launched a new ‘Supporting older workers’ guide on Thursday 18 August, raising awareness of how trade union members and reps can support workers over the age of 50.

Wales’ population is ageing rapidly. There are 265,000 more people over the age of 50 than 20 years ago. In 10 years’, the number of over-50’s living in Wales will have risen to 1.4 million – a remarkable 33% increase since 2000.

As the general population ages, then Wales’ workforce follows suit. There are more workers aged 50 and over in Wales than ever before. By 2025, 1 in 3 Welsh workers will be over-50.

Working lives are also lasting longer. Since the 1980’s, the average retirement age has been increasing after a period of sustained, post-war fall in favour of early retirement.

Wales TUC research has found that a third of over-50s expect to retire later than they envisioned when they were 40. A significant group of workers believe that they will continue working into their 70’s.

Wales TUC has identified financial insecurity, the removal of the mandatory retirement age and increased demand for the skills of many older workers as factors driving these increases.

The new toolkit provides ideas and resources to help trade union officers and representatives to:

  • push employers to enact more age-friendly workplace policies
  • tackle age-based discrimination in the workplace
  • create more inclusive, healthy and sustainable environments for all workers as they grow older

Wales TUC Equalities Policy Officer Rhianydd Williams explains why age is a trade union issue:

‘All workers deserve dignity, safety and security at work. But for far too many older people that is not the reality.

‘As trade unionists we believe in furthering the opportunities for older people to access good quality, decent jobs whilst defending the right to retirement and the rights of those too ill to continue working.

‘Skills shortages are a problem in sectors such as education, care, construction and customer service. Employers need to make better use of the skills and experiences of older workers and to develop more sustainable approaches for them.

‘Unions are key to promoting age-inclusive approaches to recruitment, career development and job and workplace design. Age-friendly workplaces are a key equality issue for unions, as well as a health and safety one.’

The guide also outlines several reasons why employers should value older workers, based on their experience, adaptability and value for money. An estimated 14.5 million vacancies have been created between 2012 and 2022 in the UK, but only 7 million workers are estimated to have entered the job market in that time.

———————————————————————————

TUC Cymru yn lansio canllaw newydd ar gefnogi gweithwyr hŷn

ae TUC Cymru wedi lansio canllaw newydd, ‘Cefnogi Gweithwyr Hŷn’ heddiw, ddydd Iau 18 Awst, sy’n codi ymwybyddiaeth o’r modd y gall aelodau a chynrychiolwyr undebau llafur gefnogi gweithwyr dros 50 oed.

Mae poblogaeth Cymru yn heneiddio’n gyflym. Mae 265,000 yn fwy o bobl dros 50 oed nag 20 mlynedd yn ôl. Ymhen 10 mlynedd bydd y nifer dros 50 oed sy’n byw yng Nghymru wedi codi i 1,400,000 – cynnydd rhyfeddol o 33% ers 2000.

Wrth i’r boblogaeth gyffredinol heneiddio, bydd gweithlu Cymru yn dilyn. Mae mwy o weithwyr rhwng 50 oed a throsodd yng Nghymru nag erioed o’r blaen. Erbyn 2025, bydd 1 o bob 3 gweithiwr Cymreig dros-50.

Mae bywydau gwaith hefyd yn para’n hirach. Ers y 1980au, mae’r oedran ymddeol cyfartalog wedi bod yn cynyddu ar ôl cyfnod o ostyngiad parhaus o blaid ymddeoliad cynnar ar ôl y rhyfel.

Mae ymchwil TUC Cymru wedi canfod bod traean o’r rhai dros 50 oed yn disgwyl ymddeol yn hwyrach nag a ragwelwyd ganddynt pan oeddent yn 40. Mae grŵp sylweddol o weithwyr yn credu y byddant yn parhau i weithio yn eu 70au.

Nododd TUC Cymru fod ansicrwydd ariannol, dileu’r oedran ymddeol gorfodol a galw cynyddol am sgiliau llawer o weithwyr hŷn yn ffactorau sy’n gyrru’r cynnydd hwn.

Mae’r pecyn cymorth newydd yn darparu syniadau ac adnoddau i helpu swyddogion a chynrychiolwyr undebau llafur  i:

  • gwthio cyflogwyr i gyflawni polisïau gweithle sy’n fwy oed-gyfeillgar
  • mynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran yn y gweithle
  • creu amgylcheddau mwy cynhwysol, iach a chynaliadwy i’r holl weithwyr wrth iddynt dyfu’n hŷn

Esbonia Swyddog Polisi Cydraddoldeb TUC Cymru, Rhianydd Williams , pam fod oedran yn fater i undebau llafur:

“Mae pob gweithiwr yn haeddu urddas, diogelwch a sicrwydd yn y gwaith. Ond i lawer gormod o bobl hŷn, nid dyna’r realiti.

“Fel undebwyr llafur rydym yn credu mewn hyrwyddo’r cyfleoedd i bobl hŷn gael swyddi da, o ansawdd uchel tra’n amddiffyn yr hawl i ymddeol a hawliau’r rhai sy’n rhy sâl i barhau i weithio.

“Mae prinder sgiliau yn broblem mewn sectorau fel addysg, gofal, adeiladu a gwasanaeth cwsmeriaid. Mae angen i gyflogwyr wneud gwell defnydd o sgiliau a phrofiadau gweithwyr hŷn a datblygu dulliau mwy cynaliadwy ar eu cyfer.

“Mae undebau yn allweddol i hyrwyddo dulliau o recriwtio, datblygu gyrfa a dylunio swyddi a gweithleoedd, sy’n gynhwysol o ran oedran. Mae gweithleoedd sy’n oed-gyfeillgar yn fater cydraddoldeb allweddol i undebau, yn ogystal ag un iechyd a diogelwch.”

Mae’r canllaw hefyd yn amlinellu sawl rheswm pam y dylai cyflogwyr werthfawrogi gweithwyr hŷn, yn seiliedig ar eu profiad, eu hyblygrwydd a’u gwerth am arian. Amcangyfrifir bod 14,500,000 o swyddi gwag wedi’u creu rhwng 2012 a 2022 yn y DU, ond dim ond 7,000,000 o weithwyr sydd wedi ymuno â’r farchnad swyddi yn y cyfnod hwnnw.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle