Protecting our essential services this bank holiday /Amddiffyn ein gwasanaethau hanfodol dros benwythnos gŵyl y banc

0
587

Healthcare professionals are urging people to plan ahead before the bank holiday weekend and to use self-care and community based services wherever possible.

Local NHS staff are working hard to ensure that emergency services continue to run for the communities they serve and to accommodate the extra number of people in the region.

A guide for accessing urgent healthcare services has been produced for those visiting the three counties and has been distributed to accommodation providers and tourism outlets. Anyone wishing to download and display these materials can do so by visiting: https://hduhb.nhs.wales/healthcare/tourist-and-visitor-information/

Not all hospitals have a full range of paediatric services and people are reminded that if their child becomes ill, to please dial 999 if it is an emergency. If it is not urgent but you need support, contact 111 who will know where your local services are.

Jill Paterson, Director of Primary, Community and Long Term Care for Hywel Dda University Health Board said: “We’re asking our communities to use self-care and NHS community based services when appropriate so that our emergency services are available for when they are needed.

“The NHS is still here for you and we encourage those who have an urgent concern, such as new symptoms or a lump, to not delay and talk to their GP.

“Looking after ourselves is more important than ever and we can do this by trying to exercise as much as possible, eating healthily, cutting down on alcohol and giving up smoking.

“Everyone can take simple steps to stay well by washing your hands regularly, using hot water and soap or hand sanitiser, and adhering to good social distancing.

“We are grateful for the co-operation of visitors to the area, and ask that people familiarise themselves with the information on how to access urgent care while on holiday.”

You could check your medicine cabinet in advance to ensure you have a good supply of over the counter medicines which are useful to manage conditions at home. Here are some items you should keep in a child safe cupboard:

• Painkillers e.g. paracetamol

• Rehydration mixture

• Indigestion remedy

• Plasters

• Thermometer

A number of community pharmacies will be open for a few hours on Monday August 31 to provide services such as the dispensing prescriptions, treatment for common ailments, emergency supply of medication and emergency contraception. To find your nearest open pharmacy, please visit: https://hduhb.nhs.wales/healthcare/services-and-teams/primary-care/

If you have a dental emergency, please contact your usual practice. If you do not have a regular practice, please contact 111.

If you are worried about the way you are feeling or behaving, or you are struggling to manage on your own, don’t be afraid to ask for help. Speak to your GP or ring the C.A.L.L. Mental Health Helpline on 0800 132 737, text ‘help’ to 81066 or visit www.callhelpline.org.uk

In an emergency, life-threatening situation, always call 999 and ask for an ambulance. If you need treatment that cannot wait but is not an emergency and you don’t know where to go, contact NHS Direct Wales on 111.

For a full range of FAQs, and for contact details of local healthcare services, please visithttps://hduhb.nhs.wales/healthcare/services-and-teams/primary-care/

——————————————————————————————–

Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn annog pobl i gynllunio ymlaen llaw cyn penwythnos gŵyl y banc ac i ddefnyddio gwasanaethau hunanofal a chymunedol lle bynnag y bo modd.

Mae staff lleol y GIG yn gweithio’n galed i sicrhau bod gwasanaethau brys yn parhau i redeg yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu ac i ddarparu ar gyfer y nifer ychwanegol o bobl yn y rhanbarth ar hyn o bryd.

Mae canllaw ar gyfer cyrchu gwasanaethau gofal iechyd brys, yn ogystal â chyngor pe byddech chi’n datblygu symptomau COVID-19, wedi’i gynhyrchu ar gyfer y rhai sy’n ymweld â’r tair sir ac wedi’i ddosbarthu i ddarparwyr llety a chyrchfannau twristiaeth. Gall unrhyw un sy’n dymuno lawrlwytho ac arddangos y deunyddiau hyn wneud hynny trwy ymweld â: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwybodaeth-i-twristiaid-ac-ymwelwyr/

Nid oes gan bob ysbyty yn yr ardal ystod lawn o wasanaethau pediatreg ac atgoffir pobl, os bydd eu plentyn yn mynd yn sâl, i ddeialu 999 os yw’n argyfwng. Os nad yw’n fater brys ond mae angen cefnogaeth arnoch chi, cysylltwch â 111 i gael cyngor ar ble mae’ch gwasanaethau lleol.

Meddai Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn gofyn i’n cymunedau ddefnyddio gwasanaethau hunanofal a chymunedol y GIG pan fo’n briodol fel bod ein gwasanaethau brys ar gael pan fydd eu hangen.

“Mae’r GIG yn dal i fod yma i chi ac rydym yn annog y rhai sydd â phryder brys, fel symptomau newydd neu lwmp, i beidio ag oedi a siarad â’u meddyg teulu.

“Mae gofalu am ein hunain yn bwysicach nag erioed a gallwn wneud hyn trwy geisio ymarfer cymaint â phosibl, bwyta’n iach, torri lawr ar alcohol a rhoi’r gorau i ysmygu.

“Gall pawb gymryd camau syml i aros yn iach trwy olchi eich dwylo yn rheolaidd, defnyddio dŵr poeth a sebon neu lanweithydd dwylo, a chadw at bellter cymdeithasol da.

“Rydym yn ddiolchgar am gydweithrediad ymwelwyr â’r ardal, ac yn gofyn i bobl ymgyfarwyddo â’r wybodaeth ar sut i gael gafael ar ofal brys tra ar wyliau.”

Gallwch wirio’ch cwpwrdd meddyginiaeth ymlaen llaw i sicrhau bod gennych gyflenwad da o feddyginiaethau dros y cownter sy’n ddefnyddiol i reoli cyflyrau gartref. Dyma rai eitemau y dylech eu cadw yn ddiogel mewn cwpwrdd:

• Poenladdwyr e.e. paracetamol

• Cymysgedd ailhydradu

• Datrysiad camdreuliad

• Plasteri

• Thermomedr

Bydd nifer o fferyllfeydd cymunedol ar agor am ychydig oriau ddydd Llun Awst 31 i ddarparu gwasanaethau fel dosbarthu presgripsiynau, triniaeth ar gyfer anhwylderau cyffredin, cyflenwi meddyginiaeth mewn argyfwng ac atal cenhedlu brys. I ddod o hyd i’ch fferyllfa agored agosaf, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/gofal-sylfaenol/

Os oes gennych argyfwng deintyddol, cysylltwch â’ch practis arferol. Os nad oes gennych bractis rheolaidd, cysylltwch â 111.

Os ydych chi’n poeni am y ffordd rydych chi’n teimlo neu’n ymddwyn, neu os ydych chi’n cael trafferth ymdopi ar eich pen eich hun, peidiwch â bod ofn gofyn am help. Siaradwch â’ch meddyg teulu neu ffoniwch C.A.L.L. y Linell Gymorth Iechyd Meddwl ar 0800 132 737, tecstiwch ‘help’ i 81066 neu ewch i www.callhelpline.org.uk

Mewn argyfwng, sy’n peryglu bywyd, ffoniwch 999 bob amser a gofynnwch am ambiwlans. Os oes angen triniaeth arnoch na all aros ond nad yw’n argyfwng ac nad ydych yn gwybod ble i fynd, cysylltwch â Galw Iechyd Cymru GIG ar 111.

I gael ystod lawn o Gwestiynau Cyffredin, ac i gael manylion cyswllt gwasanaethau gofal iechyd lleol, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/gofal-sylfaenol/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle