Rhaid i’r Llywodraeth weithredu nawr i achub swyddi, meddai TUC Cymru

0
465

Wrth sôn am y ffigurau cyflogaeth ddiweddaraf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol heddiw (dydd Mawrth), dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru Shavanah Taj:

“Mae’r rhain yn ffigurau sy’n peri pryder. Gyda chefnogaeth y wladwriaeth yn dod i ben, mae bygythiad diweithdra torfol yn real iawn. Unwaith eto, gweithwyr ifanc, ymadawr ysgol a choleg sy’n ceisio ymuno â’r farchnad Lafur am y tro cyntaf a menywod, yn bennaf yn y sector manwerthu a lletygarwch, sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth weithredu’n awr i ddiogelu a chreu swyddi.

“Mae hynny’n golygu adeiladu ar y cynllun cadw swyddi drwy sefydlu cytundebau cadw swyddi ac uwchsgilio newydd, er mwyn cadw pobl yn gyflogedig mewn cwmnïau sydd â dyfodol hyfyw. Heddiw rydym wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd at Drysorlys y DU gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn galw am sefydlu cynllun o’r fath yn gyflym.

“Ac mae’n golygu creu swyddi da, newydd hefyd. Mae dadansoddiad diweddar gan y TUC yn dangos y gallai’r llywodraeth greu 59,000 o swyddi mewn dwy flynedd drwy gyflymu buddsoddiad mewn seilwaith gwyrdd.

“Pan ddechreuodd yr argyfwng, dywedodd y Canghellor y byddai’n gwneud ‘beth bynnag y mae’n ei gymryd’. Rhaid iddo gadw’r addewid hwnnw.”

Drobwynt

Wrth sôn am ddadansoddiad diweddar gan y TUC sy’n dangos y gofynnwyd i weithwyr BME ‘ysgwyddo mwy o risg’ yn ystod y pandemig, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru Shavanah Taj: “Mae Coronavirus wedi amlygu’r anghydraddoldebau enfawr y mae menywod a dynion BME yn eu hwynebu yn y gwaith – gyda llawer yn gorfod ysgwyddo mwy o risg yn ystod yr argyfwng hwn.

“Mae gweithwyr BME yn cael eu gorgynrychioli’n aruthrol mewn swyddi cyflog isel sydd ddim yn cael eu gwerthfawrogi, a swyddi achlysurol, dim oriau gyda lle mae gan weithwyr llai o hawliau a dim tâl salwch. Yn ystod y pandemig mae llawer o bobl BME wedi talu am yr amodau gwaith gwael hyn gyda’u bywydau.

“Mae’n rhaid i’r argyfwng hwn fod yn drobwynt. Rhaid i’r Llywodraeth herio’r hiliaeth systemig a’r anghydraddoldeb sy’n dal pobl BME yn ôl yn y gwaith, a thu hwnt.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle