Rhaglen Mentro Cyswllt Ffermio yn llwyddo unwaith eto

0
662

Gwell cydbwysedd bywyd a gwaith, mwy o stoc ond llai o bwysau a’r gobaith o gyfleoedd newydd cyffrous yn y blynyddoedd i ddod! Diolch i fenter newydd ar y cyd a gefnogwyd gan raglen Mentro Cyswllt Ffermio, mae’r dyfodol yn edrych yn llewyrchus i ddau deulu amaethyddol o Ddyffryn Conwy. Maent wedi cyfuno dau fusnes fferm i’w rhedeg fel un busnes llaeth modern iawn.   

Mae’r ffermwr ifanc Emyr Owen (30) o Bodrach, ger Pandy Tudur, sy’n ffermio mewn partneriaeth â’i rieni ar fferm 185 erw oedd yn magu gwartheg bîff a defaid yn y gorffennol a’i gymydog agosaf, Gwydion Jones (38), yr oedd ei deulu yn arfer ffermio 150 o wartheg godro ar fferm 95 erw, Ty’n Ffynnon, wedi ymuno mewn partneriaeth fusnes ar y cyd, sy’n cynnwys brawd hŷn Emyr, Dylan a gwraig Gwydion, Elen.  

Graddiodd Emyr a Gwydion mewn amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth ac maent yn entrepreneuraidd, yn barod i fentro ac yn ymroddedig. Roedd y ddau yr un mor benderfynol o ehangu eu busnes fferm teuluol gwreiddiol er mwyn gwneud y mwyaf o’r potensial i gynhyrchu llaeth oddi ar laswellt gan alluogi rhieni’r ddau i gamu yn ôl o’r pwysau dyddiol o ffermio yn yr ucheldir. 

Mae gan Emyr gytundeb i reoli fferm leol a sylweddolodd na allai ffermio’r ddau le heb gael cefnogaeth ei rieni oedd yn gobeithio camu yn ôl. 

Roedd Gwydion hefyd yn ymwneud â mentrau eraill ar y cyd oddi ar Ty’n Ffynnon ac roedd yn gwybod bod cynyddu ei fusnes llaeth teuluol yn gwneud synnwyr masnachol cadarn. 

“Er bod y ddwy fferm yn cael eu rhedeg yn effeithlon iawn, roedd y ddau deulu yn sylweddoli ein bod wedi mynd â nhw cyn belled ag y gallem gan gytuno ei bod yn hanfodol cynllunio ymlaen ar gyfer cynaliadwyedd tymor hir y ddwy,” medd Emyr.

Ar ddiwedd 2018, fe wnaethant gysylltu â’u swyddog Mentro lleol, Gwydion Owen, a fu’n helpu i gefnogi’r teuluoedd trwy gydol y broses menter ar y cyd. Trwy dderbyn cefnogaeth fusnes a chyfreithiol wedi ei hariannu trwy Mentro, llwyddodd y ddau fusnes i sefydlu cwmni cyfyngedig newydd, adain fasnachu, Llaeth Bod-Ffynnon Cyf.

Wedi eu harfogi â chynllun busnes a ddarparwyd gan yr ymgynghorydd Cyswllt Ffermio a gymeradwywyd, Geraint Jones o Kite Consulting, fe wnaeth y ddau deulu ymuno yn ffurfiol, ac yna mynd at y banc a chael y benthyciad yr oedd arnynt ei angen i greu eu isadeiledd godro a chynyddu nifer y stoc. Dilynwyd hyn yn fuan iawn gan gytundeb cyfreithiol wedi ei lunio gan Elin Owen o Agri Advisor Legal LLP.  

Gwerthodd teulu Emyr eu holl wartheg bîff a’u defaid er mwyn prynu heffrod llaeth a chanolbwyntio yn llwyr ar y fenter laeth newydd. I Gwydion a’i deulu, roedd hwn yn gyfle i gynyddu maint eu buches Seland Newydd wreiddiol oedd yn lloea yn y gwanwyn o 150 trwy brynu 300 o heffrod llaeth newydd sydd yn awr yn eiddo i’r ddau deulu yn gyfartal. 

Adeiladwyd parlwr godro cylchdro a llwybrau addas ar yr iard yn Bodrach oedd mewn lle canolog rhwng y ddwy fferm a gosodwyd cyflenwad dŵr newydd ar y ddwy fferm. Mae i’r isadeiledd godro newydd y gallu i odro 450 o fuchod ddwywaith y dydd, gan gynhyrchu hyd at 5,000L o laeth yn flynyddol, sy’n cael ei werthu ar gontract i Arla. 

Llwyddodd Gwydion i ddwyn aelodau ychwanegol o staff i mewn, gan ryddhau mwy o’i amser a gwella’r cydbwysedd bywyd a gwaith iddo. Dywed bod y gefnogaeth gan y rhaglen Mentro yn amhrisiadwy.

“Mae’r cyfuniad o gael cynllun busnes cadarn a chytundeb cyfreithiol gydag Emyr a minnau â gweledigaeth glir o’r hyn yr ydym am ei gyflawni, parch i’n gilydd a’r penderfyniad i ddiogelu dyfodol ein ffermydd teuluol, wedi rhoi sylfaen wych i ni wrth symud ymlaen.”

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle