‘Amser Gweithredu ar Dai Haf’ meddai Plaid Cymru wrth iddynt gyhoeddi adroddiad llawn syniadau i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi cyn dadl yn y Senedd ddydd Mercher

0
558
Delyth Jewell AM

Mae’r amser wedi dod i Lywodraeth Cymru weithredu’n gadarn i warchod cymunedau a prynwyr tro cyntaf yn erbyn yr annhegwch economaidd sy’n deillio o orweithiant ail dai, yn ôl Plaid Cymru.

 Heddiw (dydd Mercher) mae Plaid Cymru yn cyhoeddi adroddiad 16-tudalen sydd yn cynnwys pum prif argymhelliad cyn dadl yn y Senedd fydd yn digwydd yn y prynhawn.

 Mae’r mesurau fydd yn cael eu cynnig yn cynnwys:

 1)            Newidiadau i’r maes cynllunio fyddai’n galluogi cynghorau i osod cap ar ail gartrefi ym mhob cymuned, gwrthod ceisiadau i newid defnydd eiddo o fod yn eiddo cynradd i ail eiddo ac atal tai newydd rhag cael eu pryni fel ail dai mewn ardaloedd lle mae ail dai yn cynrychioli dros 20% o’r farchnad.

 2)            Caniatáu i gynghorau codi’r dreth cyngor y gellid ei godi ar ail gartrefi i o leiaf 200% chael Llywodraeth Cymru i dreblu cyfradd uwch y Dreth Trafodiadau Tir (LTT) ar bryniant ail dai.

 3)            Cau’r bylchau a diweddaru’r gyfraith sy’n golygu bod modd optio allan o drethi domestig ac o’r premiwm treth cyngor o ganlyniad.

 4)            Rheoli’r gallu i osod tŷ annedd ar sail tymor byr drwy gwmnïau fel AirBnB am rannau helaeth o’r flwyddyn, drwy sicrhau rhagor o drosolwg o’r arfer – o bosib drwy system o drwyddedu.

 5)            Dod â thai o fewn cyrraedd lleol – gan gynnwys y posibilrwydd o sefydlu cronfa i alluogi awdurdodau lleol i ddatblygu tai gydag amod lleol arnynt ond ar sail ‘nid er elw’. [gan edrych o’r newydd ar ddiffiniad ‘tŷ fforddiadwy sydd ar hyn o bryd yn cynnwys eiddo gwerth dros £250,000]

 Yn siarad am gyhoeddiad yr adroddiad o flaen y ddadl yn y Senedd, dywedodd gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros dai Delyth Jewell AS,

 “Mae pobl ar draws Cymru wedi clywed y cri o boen o’r gogledd orllewin dros y misoedd diwethaf, wrth i’r argyfwng tai haf ddwysau yn sgil yr argyfwng Covid-19.

 “Prif bwrpas datganoli oedd ymbweru Cymru i ni allu datrys ein problemau ein hunain, ond mae hon yn sefyllfa sydd wedi parhau i gael ei hesgeuluso wrth i drigolion lleol weld prisiau tai yn cynyddu tu hwnt i bobl rheswm gan brisio pobl allan o’r cymunedau a gwanhau seiliau’r iaith yn y cadarnleoedd.

 “Cafodd traean o dai yng Ngwynedd a Môn eu prynu fel ail dai yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ac mae 12% o stoc tai Gwynedd bellach yn ail dai dan berchnogaeth pobl tu allan i’r sir, sydd ymysg yr uchaf yn Ewrop.

 “Mae’r cyfres o fesurau mae Plaid Cymru yn eu cyhoeddi heddiw wedi eu dylunio er mwyn dod â’r sefyllfa dan reolaeth a grymuso cymunedau gydag ymyraethau penodol a chytbwys, ac rwy’n gobeithio bydd Llywodraeth Cymru yn eu hystyried o ddifri.”

 Ychwanegodd Ms Jewell:

 “Mae gwledydd ledled y byd wedi gweithredu yn wyneb amgylchiadau tebyg, er enghraifft mae Seland Newydd a Denmarc wedi gwahardd gwerthu tai i bobl sydd ddim yn ddinasyddion, ac mae rhanbarth Bolzano yn yr Eidal wedi cyfyngu ar werthiant tai haf i bobl o’r tu allan i’r rhanbarth.

 “Allwn ni ddim parhau fel hyn, dyw e ddim yn deg fod pobl sydd eisoes yn byw mewn ardaloedd sydd dan anfantais oherwydd diffyg cyfleon gwaith a chyflogau teg hefyd yn gorfod gweld eu cymunedau’n cael eu trawsnewid wrth i bobl leol orfod gadael er mwyn prynu tŷ.

 “Rwy’n poeni’n enwedig am yr effaith ar yr iaith – bydd yn staen ar gydwybod y genedl os yw’r iaith yn cael ei cholli yn y cadarnleoedd oherwydd fod Llywodraeth Cymru rhy wan i weithredu.

 “Ond mae’r broblem ail dai yn effeithio ar Gymru gyfan – byddai’r mesurau o ran tai fforddiadwy, graddau LTT a’r cymal lleol o fodd i brynwyr tro cyntaf ledled Cymru.”

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle