Penrhyn Tyddewi yn ysbrydoli artist o Sir Gaerfyrddin

0
491

Ym mis Hydref eleni, bydd Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn cychwyn ar brosiect newydd cyffrous gyda’r Artist Preswyl, Allison Rudd-Mumford.

Yn wreiddiol, trefnwyd bod Allison yn arwain teithiau tywys o amgylch Llwybr yr Arfordir, gan gasglu samplau o blanhigion, gwymon a chregyn i weithio gyda nhw yn ôl yn y stiwdio. Fodd bynnag, o ganlyniad i’r sefyllfa bresennol o ran y coronafeirws (Covid-19), mae’r cynlluniau hyn bellach wedi cael eu canslo.

Er mai dim ond yn ddiweddarach yn ei bywyd y llwyddodd i ymroi i’w chelfyddyd, aeth Allison yn ei blaen i ennill BA(Anrh.) o Ysgol Gelf Caerfyrddin yn 2009, ac ers hynny, mae wedi bod yn rhan o grwpiau artistig ledled Gorllewin Cymru. 

Peintio yw hoff gyfrwng Allison, gyda phaent acrylig yn bennaf, ac yn aml bydd yn cynnwys printio neu gollage yn ei lluniau. Caiff ei gwaith ei gadw mewn casgliadau yn y DU, Ffrainc ac Awstria, a chyn belled â Seland Newydd.

Dywedodd Claire Bates, Rheolwr Ymwelwyr a Gwasanaethau yn Oriel y Parc: “Mae’n bleser gennym groesawu Allison fel ein Hartist Preswyl ar gyfer mis Hydref.

“Mae arfordir dramatig Penrhyn Tyddewi wedi ysbrydoli llawer o bobl drwy gydol hanes, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld canlyniadau’r bartneriaeth fywiog hon rhwng yr artist a’r dirwedd.

“Bydd detholiad o waith Allison, fydd ar gael i’w brynu, yn cael ei arddangos yn Oriel y Tŵr drwy gydol y cyfnod hwn.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa hon ac arddangosfeydd eraill, ewch i www.orielyparc.com

Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gael ynwww.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle