Mae Cynllun Cefnogi Swyddi’r Canghelloryn gam sylweddol ymlaen medd TUC Cymru

0
402

Wrth ymateb i ddatganiad y Canghellor heddiw (dydd Iau) yn cyhoeddi cynllun diogelu gweithwyr a’r economi ar gyfer y gaeaf, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj:

“Mae undebau wedi bod yn pwyso’n galed am gymorth swyddi parhaus i bobl sy’n gweithio. Yr ydym yn falch bod y Canghellor wedi gwrando a gwneud y peth iawn.

“Bydd y cynllun hwn yn gymorth mawr i lawer o gwmnïau sydd â dyfodol hyfyw y tu hwnt i’r pandemig.

“Ond mae busnes anorffenedig o hyd. Ni ddylid gwastraffu’r oriau lle nad ydy gweithiwr yn gweithio. Rhaid i’n llywodraethau weithio gyda busnesau ac undebau i gynnig ailhyfforddi o ansawdd uchel i baratoi gweithwyr ar gyfer economi’r dyfodol. Byddwn yn siarad â Llywodraeth Cymru hefyd am sut y gallant fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i weithwyr ar y cynllun.

“A byddwn yn edrych yn fanwl ar y manylion i sicrhau bod llinynnau ynghlwm.

“Dylai Llywodraeth y DU dargedu cymorth at ddiwydiannau sy’n wynebu gaeaf caled, a darparu cymorth wedi’i dargedu’n well i’r teuluoedd sydd fwyaf tebygol o brofi caledi a dyled.”

O ran y camau pellach sydd eu hangen yn awr, dywedodd Shavanah Taj:

“Rhaid i ni ddefnyddio’r cyfnod gwarchodedig hwn i wneud yr economi’n fwy gwydn a tecach, ac i gynllunio adferiad gwyrdd cryf. Gydag achosion Covid ar gynnydd eto, rhaid i Lywodraeth y DU roi i gyrff gorfodi’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i sicrhau bod pob gweithle yn ddiogel ac rydym yn gweithio gyda Fforwm Iechyd a Diogelwch newydd Llywodraeth Cymru fel bod pob cam posibl yn cael ei gymryd yma i gefnogi gweithgarwch gorfodi.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru hefyd chwarae ei rhan i sicrhau bod eu cynllun adfer economaidd yn seiliedig ar sicrhau bod cymorth i fusnesau ynghlwm wrth arferion gwaith teg drwy Gontract Economaidd cryfach a chadarn gyda chyflogwyr.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle