Mae ymrwymiad Prifysgol Abertawe i gynaliadwyedd wedi arwain at ddau gyflawniad.
Yn ogystal ag ennill ardystiad Safon Gwastraff yr Ymddiriedolaeth Garbon am ei gwaith i leihau gwastraff o gwmpas ei champysau, mae hefyd wedi mwynhau llwyddiant dan y Fframwaith Asesu Effeithlonrwydd Labordai (LEAF), sy’n annog prifysgolion sy’n cymryd rhan i fod yn fwy effeithlon yn eu defnydd o adnoddau wrth ymchwilio ac addysgu.
Dywedodd Dr Heidi Smith, Pennaeth Cynaliadwyedd, fod y gydnabyddiaeth yn arbennig o arwyddocaol wrth i’r Brifysgol nodi Wythnos Ailgylchu 2020.
Meddai: “Rydym wedi bod yn gwneud newidiadau sylweddol o ran y defnydd o adnoddau, sydd mor bwysig wrth i ni wynebu effaith Covid-19 a’r argyfwng hinsawdd.
“Yn y Brifysgol, mae myfyrwyr, staff academaidd a staff y gwasanaethau proffesiynol yn gweithio gyda’r gymuned a busnesau er mwyn sicrhau bod yr ymagwedd gadarnhaol hon at ein hamgylchedd yn cyrraedd pob rhan o’r sefydliad ac ymhell y tu hwnt iddo.”
Ychwanegodd Hugh Jones, o’r Ymddiriedolaeth Garbon: “Rydym yn falch ein bod wedi gweithio gyda Phrifysgol Abertawe i hyrwyddo ei hagenda o ran cynaliadwyedd drwy ardystio ei llwyddiant i leihau gwastraff i Safon Gwastraff yr Ymddiriedolaeth Garbon.”
Drwy gymorth y darparwr rheoli gwastraff Veolia, gwnaeth y Brifysgol leihau ei hôl troed gwastraff 15 y cant rhwng mis Gorffennaf 2017 a mis Awst 2020.
Gwnaeth hyn helpu’r Brifysgol i gyflawni Safon Gwastraff yr Ymddiriedolaeth Garbon, ynghyd â sicrhau sgôr ardderchog o 75 y cant yn yr asesiad ansoddol. Perfformiodd Prifysgol Abertawe’n arbennig o dda o ran arferion mesur a rheoli gwastraff.
Mae asesiad yr Ymddiriedolaeth Garbon yn rhoi cydnabyddiaeth annibynnol o gymwysterau lleihau a rheoli gwastraff y Brifysgol ac yn cydnabod y cynnydd y mae Abertawe’n ei wneud wrth roi prosesau llywodraethu, mesur a rheoli gwastraff effeithiol ar waith. Mae cyfnod yr ardystiad yn para o 2020 i 2022.
Yn y cyfamser, mae academyddion wedi bod yn cwmpasu cynaliadwyedd yn eu gwaith. Fel prifysgol sy’n rhoi pwyslais ar ymchwil, mae gan Abertawe nifer sylweddol o labordai a gweithdai arbenigol iawn sy’n dibynnu ar ynni, deunyddiau a chyfarpar ac yn cynhyrchu amrywiaeth eang o wastraff.
Er mwyn lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd, ymunodd mwy na 150 o aelodau staff sy’n gweithio mewn labordai yn y Coleg Peirianneg, y Coleg Gwyddoniaeth a’r Ysgol Feddygaeth ym menter LEAF ochr yn ochr â sefydliadau blaenllaw eraill megis Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Caergrawnt a Sefydliad Francis Crick.
Ar ôl eu hail flwyddyn yn defnyddio’r adnodd, enillodd 17 o labordai Abertawe safon efydd ac enillodd un ohonynt safon arian ar ôl gwneud cyfres o newidiadau i’r ffordd roedd staff yn gweithio.
Mae’r adnodd yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr arloesi, datblygu a gweithredu eu hymagwedd eu hunain cyn rhannu canfyddiadau ac arferion gorau. Er enghraifft, mae cau’r lwfrau mwg yn fwy yn y labordai cemeg wedi arwain at leihau costau a C02 yn sylweddol.
Meddai’r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Mae’n wych gweld cynnydd ein Prifysgol mewn maes mor bwysig, diolch i ymdrechion cynifer o aelodau staff yn ein sefydliad. Dyma gyflawniadau y gall ein staff a’n myfyrwyr ymfalchïo ynddynt.”
Ar hyn o bryd, mae’r Brifysgol yn y nawfed safle yn y DU yng Nghynghrair Prifysgolion People & Planet a gyhoeddir gan The Guardian. Dywedodd yr Athro Boyle fod y Brifysgol yn awyddus i wneud mwy er mwyn defnyddio adnoddau mewn modd mwy cynaliadwy ac effeithlon.
Meddai: “Rydym yn adeiladu ar y gwaith ardderchog hwn drwy ddatblygu Strategaeth Cynaliadwyedd a fydd yn llywio’r Brifysgol am y pum mlynedd nesaf ac yn ein helpu i symud tuag at ein nod sylfaenol o fod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2040.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle