Sesiynau Canu a Gwenu YouTube Goldies

0
491

Mae sesiynau Canu a Gwenu yn ystod y dydd ar gyfer Elusen Golden-Oldies yn boblogaidd iawn gyda channoedd o bobl hŷn sy’n byw yn ardal Abertawe a Sir Gaerfyrddin. Ar ôl gorfod cau pob sesiwn ym mis Mawrth, cyflwynodd yr elusen sesiynau AR-LEIN ddwywaith yr wythnos ar ddyddiau Mawrth a dyddiau Iau dan arweiniad Rachel Parry a Cheryl Davies – dwy o arweinwyr sesiynau poblogaidd Goldies.

 Yn seiliedig ar batrwm llwyddiannus Goldies, mae’r sesiynau ar-lein yn cynnwys y caneuon mwyaf poblogaidd o’r 60au ac ymlaen gyda geiriau ar y sgrin a’r gallu i fwynhau adref drwy recordiadau YouTube sydd ar gael yn rhad ac am ddim.

Ddydd Mawrth 6 Hydref bydd y sesiwn, dan arweiniad Rachel, yn cynnwys ‘ymddangosiad’ gan Bill Savage. Mae Bill yn un o arweinwyr poblogaidd sesiynau Goldies ar draws Abertawe a Sir Gaerfyrddin a bydd yn anfon neges bersonol at bawb oedd yn mwynhau ac yn cymryd rhan yn ei sesiynau cyn y cyfnod clo.

 Dywedodd Bill:

 “Rydym i gyd yn edrych ymlaen at i’n sesiynau yn ystod y dydd ar draws yr ardal ddechrau eto, ac yn gobeithio y bydd hynny cyn hir, a gwn o lwyth o negeseuon personol fod nifer fawr o bobl yn colli Canu a Gwenu.

 “Rydym yn ceisio llenwi’r bwlch drwy gynnal sesiynau ar-lein ddwywaith yr wythnos ac rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at gyfrannu at sesiwn ‘canu soffa’ hwyliog Rachel ar ddydd Mawrth 6 Hydref.”

 Ffocws y sesiwn fydd Doris Day a’i cherddoriaeth. Bydd hefyd ffilm arbennig gan Rachel ar gyfer Michael Ball a Karen Burris.

Bydd sesiwn y prynhawn ddydd Iau 8 Hydref, dan arweiniad Cheryl, yn arbennig ar ganeuon ABBA gyda theyrnged i Anna a Mary Tamburello. Ysgrifennodd Mary atom i ddweud:

 “Diolch i chi Rachel a Cheryl am eich sesiynau gwych. Rwy’n edrych gyda fy chwaer yng nghyfraith sydd â syndrom Down a dementia. Mae’n 57 oed. Cerddoriaeth yw fy ffordd i ennyn ei diddordeb. Cyn y cyfnod clo roeddem yn mynd i Upbeat a Goldies yn Rhydypennau, Caerdydd. Mae’ch sesiynau yn ysgogi Anna, er fod ei chyflwr yn gwaethygu. Ei hoff gân yw Quando Quando gan Englebert ac arferai ganu hyn yn Upbeat bob wythnos cyn y cyfnod clo. Oes yna unrhyw siawns y gallwch gynnwys y gân yma? Rydym yn chwarae caneuon Mamma Mia ac ABBA bob dydd ac mae hefyd yn hoffi Tom Jones. Diolch am bopeth. Rwy’n chwarae’r sesiynau iddo bob nos cyn iddi fynd ir gwely.”

 Edrychwch ar www.goldieslive.com a chlicio ar y ddolen i’n sianel YouTube Goldies.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle