Barnardo’s yn lansio gwasanaethau cwnsela a llesiant i’r teuluoedd mae pandemig Covid-19 wedi’u taro waethaf yng Nghymru

0
547

Mae Barnardo’s, yr elusen i blant, yn lansio dau wasanaeth newydd i gefnogi teuluoedd agored i niwed sy’n ei chael yn anodd delio ag effaith pandemig Covid-19.

 Bydd un yn gweithio gyda theuluoedd ledled Cymru – yn cynnig cymorth ymarferol a therapiwtig, gan gynnwys cwnsela, saith diwrnod yr wythnos. Llinell gymorth ledled y DU fydd y llall – y cyntaf o’i math sy’n benodol ar gyfer plant o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill sydd ymysg y rheini sydd wedi cael eu taro waethaf.

 Mae’r ddau wasanaeth a lansiwyd yr wythnos hon yn cael eu hariannu drwy’r Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol (NET), a sefydlwyd gan y Comisiwn Elusennol i ymateb i argyfyngau domestig. Bydd y cyllid sy’n cefnogi llinellau cymorth Barnardo’s yn dod o’r £20 miliwn a gafodd ei neilltuo ar gyfer Apêl Coronafeirws NET gan Gronfa Gymorth Covid-19, a sefydlwyd gan y diwydiant yswiriant a chynilion tymor hir.

 Bydd y llinell gymorth ar gyfer y DU gyfan yn cael £900,000 a bydd £600,000 yn cael ei neilltuo i ddarparu gwasanaethau Gweld, Clywed, Ymateb ar gyfer teuluoedd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon tan ddiwedd mis Mai’r flwyddyn nesaf. 

 Mae hyn yn dilyn llwyddiant y cynllun Gweld, Clywed, Ymateb yn Lloegr, a lansiwyd yn ystod yr haf a’i ariannu gan yr Adran Addysg.

 Mae dros 7,300 o blant a phobl ifanc eisoes wedi cael help yn Lloegr, lle mae Barnardo’s wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau eraill. Ymysg y prif bryderon mae iechyd meddwl plant, dychwelyd i’r ysgol, a theimlo’n unig ac ynysig. Mae pobl sydd eisiau mynediad at gyngor wedi ymweld â hyb digidol Gweld, Clywed, Ymateb dros 127,000 o weithiau.

 Bydd y llinell gymorth genedlaethol ar gyfer plant Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn mynd i’r afael â’r materion cymhleth sy’n wynebu’r cymunedau hynny, lle mae pobl bedair gwaith yn fwy tebygol o farw o Covid-19 na phobl mewn cymunedau gwyn. Bydd cymorth therapiwtig hefyd yn cael ei gynnig pan fo angen.

 Dywedodd Gerald Oppenheim, Dirprwy Gadeirydd yr Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol: “Mae’r pandemig hwn wedi effeithio’n ddifrifol ar fywydau teuluoedd – o brofedigaeth i heriau ariannol. Mae llinellau cymorth yn adnodd gwerthfawr iawn i blant a phobl ifanc nad ydynt yn gallu cael gafael ar gymorth drwy lwybrau eraill, felly rydyn ni’n falch iawn o allu cefnogi gwasanaethau hanfodol Barnardo’s yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

 Nododd Sarah Crawley, Cyfarwyddwr Barnardo’s Cymru, y byddai’r gwasanaethau yn adnabod plant, pobl ifanc a theuluoedd “cudd” nad ydynt yn cael yr help sydd ei angen arnynt ar hyn o bryd.

 Dywedodd: “Mae ein cymunedau mwyaf agored i niwed yn wynebu heriau difrifol o ran eu hiechyd a’u llesiant meddyliol, yn ogystal â’u hiechyd corfforol. Mae’r heriau hynny’n cynnwys gorbryder, teimlo’n ynysig, teuluoedd yn torri i lawr, a phryderon ariannol wrth i fwy o deuluoedd wynebu tlodi.

 “Er ein bod yn clywed llawer yn y newyddion am nifer yr achosion o’r feirws ac am gyfyngiadau symud lleol, mae ochr arall i’r pandemig hwn – ochr gudd lle mae teuluoedd yn wynebu trafferthion a allai achosi niwed parhaol os na fyddan nhw’n cael help.

 “Bydd y gwasanaethau newydd hyn yn darparu’r help sydd ei angen arnyn nhw i oresgyn yr heriau ac i atal problemau rhag cynyddu i lefel argyfyngus. Byddwn yn darparu cymysgedd o wasanaethau cymorth, cyngor atgyfeirio, ochr yn ochr â chymorth therapiwtig ar-lein neu dros y ffôn, gan gynnwys cwnsela.

 Y nod yw gwella cydnerthedd a llesiant emosiynol a meddyliol teuluoedd, cryfhau eu perthnasoedd a’u helpu i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i’w ffordd o fyw.

 Bydd teuluoedd yn cael eu hatgyfeirio at wasanaethau arbenigol neu statudol os oes pryderon arwyddocaol ynghylch iechyd meddwl neu ddiogelwch.

 Byddan nhw’n gallu hunanatgyfeirio ar-lein neu drwy linell gymorth dros y ffôn rhwng hanner dydd a 7pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, neu gael eu hatgyfeirio gan weithwyr proffesiynol. Bydd Barnardo’s yn gweithio’n agos gydag ysgolion a cholegau, awdurdodau lleol, arbenigwyr gofal iechyd neu wasanaethau hanfodol eraill sy’n ymwneud ag amddiffyn plant, er mwyn adnabod teuluoedd y mae angen cymorth arnynt.

 Bydd microwefan (barnardos.org.uk/see-hear-respond-net) yn cynnwys ffurflen ymholi ac yn cynnig llawer o wybodaeth am hunangymorth a dolenni i wasanaethau lleol sy’n helpu teuluoedd gyda phroblemau sy’n ymwneud â llesiant emosiynol, profedigaeth, cam-drin domestig a phryderon ariannol.

 Mae Barnardo’s yn credu bod y problemau mae teuluoedd yn eu hwynebu yn cynnwys gorbryder ynghylch byw dan gyfyngiadau symud a chyfyngiadau eraill, dychwelyd i’r ysgol, perthnasoedd, teimlo’n ynysig, problemau ariannol a helpu plant sydd ag anableddau neu’n agored i niwed fel arall.

 Dywedodd Yvonne Braun, Arweinydd Gweithredol ABI, Cronfa Gymorth Covid-19: “Uchelgais y diwydiant yswiriant a chynilion tymor hir wrth sefydlu Cronfa Gymorth Covid-19 oedd sicrhau cymorth i’r bobl mae ei angen fwyaf arnynt, yn enwedig plant a theuluoedd sy’n byw mewn tlodi. Mae gwaith Barnardo’s yn hollbwysig yn y maes hwn ac mae’n wych gweld bod ein cyfraniad i’r Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi hyn.”

 Bydd y gwasanaeth yn ymateb i bob atgyfeiriad felly ni fydd yr un plentyn yn cael ei adael ar ôl. 

 Mae tair prif agwedd ar y ddarpariaeth:

  • Atgyfeirio plant, pobl ifanc a theuluoedd at wasanaethau statudol a chymorth arbenigol ar unwaith lle bo pryderon sylweddol ynghylch iechyd meddwl neu ddiogelwch.
  • Darparu cyngor ac arweiniad i rieni, gofalwyr neu aelodau o’r teulu sy’n poeni am eu plant neu sydd â’u pryderon eu hunain. Bydd y gwasanaeth yn darparu gwybodaeth am wasanaethau lleol neu genedlaethol ac yn atgyfeirio pobl atynt er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at gymorth perthnasol.
  • Ymyrraeth therapiwtig uniongyrchol sy’n seiliedig ar drawma; bydd sesiynau’n cael eu cynnig i blant, pobl ifanc neu deuluoedd mor aml ag y mae hynny’n addas iddyn nhw. Sesiynau rhithiol gyda gweithiwr therapiwtig fydd y rhain, gydag oedolyn allweddol ym mywyd y plentyn/person ifanc i’w gefnogi.

 Gall teuluoedd yng Nghymru gysylltu â Gweld, Clywed, Ymateb nawr ar 0800 157 7015 neu drwy fynd i

https://www.barnardos.org.uk/see-hear-respond-net

Y rhif ffôn ar gyfer y llinell gymorth i blant o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig eraill yw 0800 151 2605, neu ewch i https://www.barnardos.org.uk/see-hear-respond-net

 Mae Barnardo’s yn ymuno â phartneriaid cenedlaethol newydd eraill NET: Age UK, cynghrair Heads Together, a Shelter (sydd hefyd yn cael eu cefnogi gan gyllid gan Gronfa Gymorth COVID-19) yn ogystal â’r Consortiwm LDHT+, y rhwydwaith cymorth anabledd, Cynghrair DPO COVID-19, Refuge, y consortiwm cymorth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches a arweinir gan y Cyngor Ffoaduriaid, a Cruse Bereavement Care.

 Ers mis Mawrth, mae Apêl Coronafeirws NET wedi codi £100miliwn, wedi dyrannu £84miliwn ac wedi darparu dros 9,000 o grantiau i elusennau a grwpiau ar lawr gwlad ledled y DU sy’n mynd i’r afael ag anghenion brys. 

 Ers 1 Medi ymlaen, mae’r Apêl wedi rhoi’r gorau i fynd ati’n weithredol i godi cyllid newydd, ond gall y cyhoedd barhau i gyfrannu drwy’r wefan: www.nationalemergenciestrust.org.uk.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle