Cannoedd o fusnesau yn Abertawe yn gwneud cais am gyllid adfer

0
460

Mae dros 200 o fusnesau yn Abertawe wedi gwneud cais i gronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, cronfa gwerth £5.3 miliwn i helpu masnachwyr i ymateb i’r pandemig.

Ym mis Gorffennaf cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, y bydd cyllid cyfalaf o’r Rhaglen Trawsnewid Trefi, rhaglen sy’n werth £90 miliwn, yn cael ei ddefnyddio i ariannu addasiadau mewn canol trefi i hwyluso masnachu a sicrhau diogelwch y cyhoedd mewn ymateb i’r coronafeirws.

O seddi yn yr awyr agored, cysgodfeydd a gwres ar gyfer caffis a thafarnau, mannau aros yn yr awyr agored ar gyfer salonau ac arwyddion ac addasiadau i sicrhau y cedwir pellter cymdeithasol, i ddarparu pŵer ar gyfer marchnadoedd awyr agored. Mae galw am y gronfa ar ei uchaf erioed, gydag angen ar fusnesau i addasu i’r amgylchiadau presennol a ffyrdd newydd o weithredu i sicrhau diogelwch cwsmeriaid a staff ac i ddenu cwsmeriaid.

Un busnes yn Abertawe sydd wedi elwa ar y Gronfa yw Nomad Bar & Kitchen, busnes annibynnol sy’n gwerthu bwydydd a diodydd unigryw gan gynhyrchwyr bach, ansawdd uchel, na welir mohonynt ar y stryd fawr fel arfer. Dyfarnwyd cyllid i’r busnes i brynu cysgodlen bren, wyth mainc picnic pren a dau gasebo y gellir eu codi yn ôl yr angen i’w galluogi i barhau i fasnachu wrth gydymffurfio â’r rheoliadau newydd.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:

“Mae’n wych gweld cymaint o ddiddordeb yn y Gronfa £5.3 miliwn ar gyfer masnachwyr a busnesau y cyhoeddais i ym mis Gorffennaf i helpu canol trefi i ailagor mewn modd diogel, ac i alluogi busnesau i barhau i fasnachu mewn amgylchedd diogel er gwaethaf yr heriau hyn. Mae Awdurdod Lleol Abertawe ei hun wedi derbyn dros 200 o ddatganiadau o ddiddordeb, ac mae’n galonogol gweld yr adborth cadarnhaol gan fusnesau annibynnol lleol sydd wedi dweud faint o ryddhad y bu’r cymorth iddyn nhw.

Mae’r pandemig wedi atgyfnerthu ac wedi ailennyn ein hymrwymiad i ganol trefi yng Nghymru.  Er bod rhai o’r newidiadau rydyn ni wedi eu gweld wedi bod yn bositif, fel y symud i siopa’n lleol a’r cynnydd yn y niferoedd sy’n mynychu marchnadoedd awyr agored, mae busnesau wedi wynebu heriau newydd ers dechrau’r pandemig.

Byddwn ni’n parhau i ddatblygu ein hagenda Trawsnewid Trefi er mwyn adeiladu canol trefi cynaliadwy lle gall busnesau ffynnu.”

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

Mae’r coronafeirws wedi creu heriau a phwysau anhygoel i fusnesau ledled Cymru, yn enwedig y rhai ar y stryd fawr yng nghanol ein trefi llai. Fodd bynnag, un o effeithiau’r pandemig yw ein bod ni wedi gweld mwy o bobl yn gwario arian ar eu stryd fawr leol ac yn cefnogi ein busnesau annibynnol niferus sy’n eiddo i bobl leol.

“Rydyn ni’n gweithio’n galed i helpu canol trefi a’r stryd fawr drwy’r cyfnod cythryblus a heriol yma drwy amrywiaeth o gymorth busnes gan Lywodraeth Cymru ac rydw i’n falch bod ein cronfa Trawsnewid Trefi yn helpu cynifer o siopau, tafarndai, bwytai a busnesau lleol eraill yn Abertawe i addasu i heriau Covid-19 a sicrhau diogelwch a chyfforddusrwydd eu cwsmeriaid.

“Y busnesau yma yw asgwrn cefn ein cymunedau ni a byddwn yn parhau i weithio’n galed i’w cefnogi nhw a chanol ein trefi drwy’r cyfnod anodd yma er mwyn iddyn nhw allu codi eto yn gryfach nag erioed.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Nomad Bar & Kitchen:

“Mae’r grant wedi cynnig rhaff achub amhrisiadwy inni, ac mae’r gallu i fuddsoddi mewn mannau awyr agored wedi ein helpu i parhau i agor yn ystod y cyfnod hwn o fesurau llymach ar gyfer cadw pellter cymdeithasol. Heb y grant, fydden ni ddim wedi gallu masnachu ar y lefelau sydd eu hangen i gynnal ein busnes yn y tymor hir.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart:

“Rydyn ni wedi gweithio’n ddi-dor i ddosbarthu cyllid i fusnesau sy’n gymwys ar gyfer taliadau grant o’r fath.

Mae ymdrechion ein swyddogion a oedd yn gweinyddu’r cymorth hwn yn ein hardal wedi bod yn wych. Ac rydyn ni’n gwybod ei fod wedi cael effaith gadarnhaol ar yr economi leol.

Rydyn ni’n parhau i weithio ochr yn ochr â phartneriaid fel Llywodraeth Cymru a busnesau – a byddwn ni yma ar gyfer Abertawe drwy gydol y pandemig.”

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle