Mae ymchwil yn datgelu sut mae pandemig wedi effeithio ar gefnogaeth hanfodol o fwydo ar y fron

0
379

Mae cydweithrediad ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe wedi tynnu sylw at ddiffyg cefnogaeth bwydo ar y fron o ansawdd uchel i rai teuluoedd yn ystod pandemig Covid-19.

Canfu fod newidiadau i ddarparu gwasanaethau a mesurau pellhau cymdeithasol yn golygu bod rhai menywod yn cael anhawster dod o hyd i’r gefnogaeth yr oedd ei hangen arnynt, gan eu gadael yn teimlo’n ynysig ac wedi eu siomi. Er bod rhai mamau wedi dweud bod yr ychydig fisoedd diwethaf wedi cael effaith gadarnhaol ar eu profiad bwydo ar y fron, i nifer nid dyma oedd yr achos – gyda mwy nag 80 y cant o’r mamau hyn yn rhoi’r gorau i fwydo ar y fron yn ystod yr wythnosau cynnar yn dilyn genedigaeth.

Arweiniwyd yr astudiaeth gan yr Athro Amy Brown, Cyfarwyddwr canolfan Llaethiad, Bwydo Babanod ac  Ymchwil Trawsfudol yn y Brifysgol, mewn cydweithrediad â Dr Natalie Shenker, cymrawd Arweinwyr y Dyfodol UKRI Imperial College Llundain a chyd-sylfaenydd y Human Milk Foundation a’r Hearts Milk Bank, ac fe archwiliodd brofiadau mwy na 1,200 o famau a fu’n bwydo ar y fron yn ystod y pandemig.

Datgelodd y canfyddiadau ddarlun cymysg iawn. Dywedodd tua 40 y cant o’r mamau a arolygwyd fod y cyfnod clo wedi cael effaith gadarnhaol ar eu profiad, tyfodd eu hyder fel eu bod yn bwydo ar y fron am fwy o amser. Roeddent yn gwerthfawrogi preifatrwydd y cyfnod clo ynghyd â chael partner cefnogol gartref a mwy o amser i ganolbwyntio ar eu babi.

Er hynny, dywedodd tua 30 y cant o famau eu bod wedi teimlo’n ynysig, wedi’u gadael a’u gorlethu ar ddwyster bod ar eu pen eu hunain gyda’u babi. Er bod rhai wedi llwyddo i barhau i fwydo ar y fron, stopiodd tua 82 y cant o’r rhai â phrofiadau negyddol yn ystod y broses clo, yn aml cyn eu bod yn barod, gan roi’r bai ar ddiffyg cefnogaeth wyneb yn wyneb.

Fe wnaeth yr ymchwilwyr ddarganfod fod y cyfnod clo wedi effeitiho’r lleiaf breintiedig caletaf. Y mamau sy’n byw mewn fflatiau uchel, heb fynediad i ardal y tu allan na wi-fi, oedd yn ei chael hi’n anodd fwyaf. Nododd mamau o boblogaethau BAME nid yn unig eu bod yn derbyn cefnogaeth is o gymharu â mamau o gefndiroedd Gwyn ond eu bod hefyd yn fwy tebygol o roi’r gorau i fwydo ar y fron.

Ymddangosodd bod y rheiny â’r babanod mwyaf agored i niwed wedi cael profiadau bwydo ar y fron fwyaf heriol – roedd 20 y cant o famau â phlentyn mewn gofal dwys wedi’u cyfyngu rhag bod gyda’u babanod; peidiodd 80 y cant o’r rhain â bwydo ar y fron yn ystod y chwe wythnos gyntaf o gymharu â 10 y cant o famau a oedd wedi ymweld heb gyfyngiadau.

Roedd negeseuon anghywir ac ofnau diogelwch anghywir yn ymwneud â Covid-19 a bwydo ar y fron hefyd yn chwarae rôl. Ni wnaeth traean o’r mamau a oedd angen cysylltu â gweithiwr iechyd proffesiynol am anawsterau bwydo ar y fron hynny oherwydd eu bod yn poeni am ddiogelwch neu’n pryderu am y GIG sydd wedi’i orlwytho. Roedd eraill yn poeni nad oedd bwydo ar y fron yn ddiogel oherwydd y feirws, wedi’i waethygu gan erthyglau cyfryngau cymdeithasol camarweiniol a chyngor iechyd.

Dywedodd yr Athro Brown: “Mae’r canfyddiadau’n tynnu sylw at fwlch critigol yn y gefnogaeth i rai mamau sy’n bwydo ar y fron yn ystod y pandemig. Mae’n hanfodol ein bod yn gweithio i sicrhau bod cymorth bwydo babanod o ansawdd uchel yn parhau i gael ei ddarparu.

“Rydym yn gwybod bod bwydo ar y fron ar lefel poblogaeth yn amddiffyn iechyd babanod a mamau ac yn lleihau costau’r GIG ond ni ddylid tanamcangyfrif ei effaith emosiynol ar deuluoedd. Pan fydd yn rhaid i fenywod roi’r gorau i fwydo ar y fron cyn eu bod yn barod, gall hyn gael effaith negyddol hirhoedlog ar eu hiechyd meddwl. ”

Ychwanegodd Dr Natalie Shenker “Mae bwydo ar y fron nid yn unig yn ddiogel ond yn cael ei argymell yn ystod Covid-19, hyd yn oed os oes gan fam symptomau. Nid oes tystiolaeth glir o drosglwyddo’r feirws trwy laeth y fron, ond y dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yw bod mamau sy’n agored i’r feirws yn debygol o gynhyrchu gwrthgyrff amddiffynnol yn eu llaeth. ”

Meddai’r Athro Brown: “Pryderwn fod y pandemig yn ehangu’r bwlch rhwng y rhai sydd eisoes â ffactorau cefnogol sy’n ffafriol i annog bwydo ar y fron a’r rhai sy’n wynebu rhwystrau. Mae’r canfyddiadau ynglŷn â’n babanod mwyaf agored i niwed mewn gofal newyddenedigol yn arbennig o frawychus. Mae llaeth dynol yn bwysig i bob babi, ond yn enwedig y rhai sydd â’r dechrau mwyaf heriol mewn bywyd.”

Dywedodd Dr Shenker nad oedd digon o adnoddau yn y cyfnod ôl-enedigol cyn y pandemig a dangosodd yr ymchwil fod pethau wedi gwaethygu i’r mwyafrif o famau newydd, yn enwedig y rhai difreintiedig.

Meddai: “Mae’n bryd cael sgwrs genedlaethol er mwyn osgoi ailadrodd hyn wrth i ni fynd i mewn i ail don.”

Mae’r ymchwil nawr wedi ei gyhoeddi yn y Journal of Maternal and Child Nutrition

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle