Mae Trafnidiaeth Cymru yn nodi’r Wythnos Gynhwysiant Genedlaethol, sef wythnos i ddathlu cynhwysiant o bob math.
Pawb i Gyrraedd Un yw’r thema eleni. Mae’n ymwneud â’r cyfle sydd gennym i gysylltu â rhywun arall, neu sefydliad arall, i ganolbwyntio ar ysbrydoli ein gilydd, gan ganolbwyntio ar sicrhau bod cynhwysiant yn cael ei wireddu bob dydd.
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC), y cwmni nid-er-elw sy’n hybu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru, wedi ymrwymo i’r egwyddorion a’r arferion sy’n gysylltiedig â chyfle cyfartal ac amrywiaeth, a hynny fel cyflogwr ac fel darparwr gwasanaethau.
Ym mis Gorffennaf 2020, fe wnaeth y cwmni sefydlu gweithgor ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a nod y gweithgor yw cydweithio i hybu cynhwysiant.
Mae’n cynnwys gwirfoddolwyr o bob rhan o’r cwmni, ac mae’n canolbwyntio ar feysydd penodol sy’n seiliedig ar y naw o nodweddion gwarchodedig sydd yn y Ddeddf Cydraddoldeb (2010).
Dywedodd Emma Eccles, Uwch Bartner Busnes Adnoddau Dynol a Chadeirydd gweithgor cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant TrC:
“Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr i’w ddewis, ac yn ganolog i hyn mae sicrhau bod ein pobl i gyd yn cael eu trin â pharch ac urddas bob amser.
“Dyna pam rwy’n falch o gadeirio ein gweithgor cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae gwirfoddolwyr y gweithgor wedi bod yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod pawb yn y cwmni a’n cadwyn gyflenwi yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi.
“Mae gweithlu amrywiol yn hanfodol i lwyddiant sefydliad pan fo safbwyntiau, meddyliau, credoau a syniadau yn dod ynghyd i helpu cyflogwyr gael barn wahanol am amryw o heriau a chyfleoedd busnes.
“Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i fod yn weithlu cynhwysol, lle mae gweithwyr o bob cefndir yn teimlo bod croeso iddynt a’u bod yn cael eu trin yn gyfartal. Bydd y gweithgor yn hanfodol yn ein hymrwymiad i ddatblygu diwylliant lle mae gweithwyr yn ganolog i’r cwmni a lle maent yn cael eu parchu a’u cynnwys am yr holl briodweddau sydd ganddynt.”
Fel rhan o ymrwymiad TrC i sefydlu’r arferion gorau, maent wedi partneru â Delsion i ddatblygu amcanion clir ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Dywedodd Julian John, Sefydlydd a Rheolwr-gyfarwyddwr Delsion:
“Mae’n bleser gan Delsion weithio ochr yn ochr â TrC. Mae pob sgwrs a gawsom a phob amcan a drafodwyd wedi crynhoi egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
“Yn y bôn, mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ymwneud â phobl a chaniatáu iddynt gyrraedd eu potensial o fewn sefydliad a chael gwared ar y rhwystrau sy’n gallu atal hynny.
“Mae’n caniatáu i bobl fod yn nhw eu hunain, i ddod i’r gwaith a chael eu trin a’u derbyn fel unigolion, yn ogystal â chreu’r ymdeimlad o berthyn i bawb mewn sefydliad.
“Mae gan TrC weledigaeth gref o’r modd y gall cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gael effaith gadarnhaol ar bob rhan o’r sefydliad a sut bydd hynny o fudd i unigolion, y sefydliad, cwsmeriaid a Chymru. Rydyn ni’n falch o gyfrannu at gefnogi’r weledigaeth honno.”
I gael mwy o wybodaeth am ein hymrwymiad i hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth, ewch i: https://trc.cymru/cy/cydraddoldeb
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle