“BETH SYDD EI ANGEN AR GYMRU YW SWYDDI”

0
1777
Plaid Cymru's Helen Mary Jones

Byddai Plaid Cymru yn gwarantu gwaith i bob person 18-24 oed

 

Heddiw, bydd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Helen Mary Jones AS, yn amlinellu polisïau economaidd allweddol y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn eu cyflawni, gan gynnwys Gwarant Swyddi Ieuenctid.

 

Dywed Ms Jones fod yr her sy’n wynebu pobl sy’n ymuno â’r farchnad swyddi am y tro cyntaf yng Nghymru yn “ddigalon iawn“. Bydd Ms Jones yn amlinellu cynlluniau Plaid Cymru mewn araith yng nghynhadledd y blaid heno.     

 

Mae’r ffigurau diweithdra diweddaraf yn dangos mai pobl ifanc sydd wedi cael eu taro galetaf gan y pandemig, a bod niferoedd cynyddol o bobl yn mynd yn ddi-waith yng Nghymru. 

 

Gyda’r Cynllun Cadw Swyddi’n dod i ben ar 31 Hydref, ac ansicrwydd ynghylch pa fusnesau fydd yn gallu parhau i weithredu o dan y Cynllun Cymorth Swyddi newydd, gall y ffigurau diweithdra hyn gynyddu. 

 

Dywedodd Ms Jones y gellid sefydlu cynllun drwy greu Cronfa Cymru’r Dyfodol a fyddai’n cynnig swydd i bob person ifanc 18-24 oed di-waith yng Nghymru, gyda’r meini prawf canlynol ar gyfer y gyflogaeth:

 

  • leiaf 25 awr yr wythnos;
  • Talu’r isafswm cyflog o leiaf;
  • Yn ychwanegol – ni fyddai’r swydd fel arall yn cael ei llenwi gan y cyflogwr fel rhan o’i f/busnes craidd, ac na fyddai’n bodoli heb gyllid Gronfa Cymru’r Dyfodol;
  • Rhaid para am o leiaf chwe mis;
  • Bod o fudd i gymunedau lleol;
  • Rheidrwydd ar y darparwyr i roi cyflogaeth i’r gweithwyr iddynt allu symud i waith tymor-hir estynedig.

 

Meddai Helen Mary Jones AS, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi a Thaclo Tlodi,

 

“Mae’r argyfwng Coronafeirws wedi tynnu sylw at anghydraddoldebau cymdeithasol a pa mor fregus yw bywyd bob ddydd i lawer o bobl yng Nghymru – ac mae pobl ifanc yn cael eu taro caletaf mewn sawl ffordd.

 

“Pobl ifanc sy’n gweithio’n bennaf yn rhai o’r sectorau sy’n cael eu taro caletaf, fel lletygarwch, ac maent yn colli eu swyddi. Mae perygl gwirioneddol y bydd y rhai sy’n gadael yr ysgol a graddedigion Prifysgol yn wynebu diweithdra pan fyddant yn ymuno â’r farchnad swyddi ôl-COVID. Bydd hyn yn achosi niwed hirdymor i’w rhagolygon swyddi oni ddarperir cymorth newydd cynhwysfawr.

 

“Byddai’r Gwarant Cyflogaeth sydd wedi’i chostio’n llawn, a gynhigiwyd gan Blaid Cymru, yn rhoi cyfle am swydd i bob person 18-24 oed cyn gynted â phosibl, gan fynd y tu hwnt i Warant Ieuenctid yr UE hyd yn oed.

 

“Rhaid ei bod yn ddigalon iawn gadael addysg yng nghanol ansicrwydd o’r fath. Yr hyn y mae ar Gymru ei angen yn awr yw cyfleoedd am swyddi i’r rhai sy’n gadael addysg amser llawn ac i bobl ifanc sydd wedi colli eu swyddi. Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud hyn yn flaenoriaeth.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle