COVID-19 yn annog digwyddiad Diwrnod Archaeoleg Arfordir Penfro i symud i fformat rhithiol

0
452

Bydd Diwrnod Archaeoleg Arfordir Penfro 2020 yn symud o’i leoliad arferol yng Ngholeg Sir Benfro i fformat ar-lein hygyrch fis Tachwedd eleni.

Bydd y 18fed Diwrnod Archaeoleg Blynyddol, sydd wedi’i drefnu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro mewn partneriaeth â PLANED, yn cael ei ddarlledu ar YouTube rhwng 10am a 4pm ddydd Sadwrn 7 Tachwedd.

Er gwaethaf y pandemig, roedd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn teimlo ei bod yn bwysig cynnal y digwyddiad hwn o hyd, er ei fod mewn fformat gwahanol i’r arfer.

Dywedodd Tomos Ll. Jones, Archaeolegydd Cymunedol y Parc Cenedlaethol: “Mae’n bleser bod y Diwrnod Archaeoleg yn dychwelyd am flwyddyn arall. Er bod y llwyfan yn wahanol, rydyn ni’n gobeithio y bydd y rheini sy’n ei fynychu yn dal i fwynhau clywed mwy am archaeoleg yn y Parc Cenedlaethol a’r ardal gyfagos, gan gynnwys prosiectau ac ymchwil.”

Bydd y rhaglen eleni’n cynnwys cymysgedd o fideos a chyflwyniadau a bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau. Mae’r siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau yn cynnwys yr Athro Mike Parker Pearson yn siarad am ei ymchwil i’r Preseli Neolithig a Dr Toby Driver a’r tîm yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiect CHERISH.

Bydd y digwyddiad yn rhad ac am ddim, er bod croeso i roddion tuag at Ymddiriedolaeth y Parc Cenedlaethol. Mae rhagor o wybodaeth am yr Ymddiriedolaeth ar gael ynwww.ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/.

Ceir rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Archaeoleg 2020 yn www.arfordirpenfro.cymru/event/archaeology-day-2020/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle