Bydd y llyfr The Harmony Debates yn cael ei lansio ar 22 Hydref. Wedi’i gyhoeddi gan Sophia Centre Press, mae’r llyfr yn casglu ynghyd 45 o draethodau gan 47 o gyfranwyr o bob rhan o’r meysydd academia, masnach, addysg a chrefydd. Mae pob traethawd yn amlinellu pwysigrwydd egwyddorion Cytgord, gan dynnu sylw at ddamcaniaethau a goblygiadau ymarferol byd lle mae popeth yn gydgysylltiedig. Mae’n amlinellu dadleuon o blaid y dull hwn, ei bwysigrwydd cynyddol a pham, yn oes COVID-19, mae mabwysiadu egwyddorion Cytgord yn hanfodol ac yn ymarferol, gan gyflwyno cynllun cadarnhaol am fyd gwell.
Yn y llyfr fe geir 45 o draethodau gan gyfranwyr allweddol, gan gynnwys cefnogwyr adnabyddus a hirsefydlog o Gytgord fel Patrick Holden, Helen Browning, John Eliot Gardiner, Tony Juniper a’r Fonesig Ellen MacArthur yn archwilio Cytgord mewn cysylltiad â bwyd a ffermio, busnes a’r economi, adnewyddu cymunedau, a cherddoriaeth.
Mae’r llyfr hefyd yn cyflwyno nifer o leisiau newydd i’r ddadl, gan gynnwys ymchwilwyr doethurol ifanc fel Sneha Roy, M.A. Rashed ac Ilaria Cristofaro, sy’n archwilio Cytgord mewn cysylltiad â datrys anghydfodau, Islam, a delweddau o’r haul mewn natur.
Bydd lansiad dros Zoom am 6pm ar 22 Hydref. I gofrestru eich diddordeb, ewch i www.harmonyinitiative.net/event-harmony-debates-22-oct-2020.php.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://sophiacentrepress.com/portfolio/the-harmony-debates/.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle