Cyhoeddiad penodi: Sustrans Cymru yn dangos ymrwymiad cryf i gynhwysiant wrth benodi Cyfarwyddwr newydd

0
443

Mae’n bleser gan Sustrans gyhoeddi penodiad Christine Boston fel eu Cyfarwyddwr newydd ar gyfer y sefydliad yngNghymru o 12 Hydref 2020.

Fel Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, bydd Christine yn arwainy tîm sy’n gweithio ar draws ystod o brosiectau.

Mae Christine yn ymuno â ni ar ôl nifer o flynyddoedd gyda’rGymdeithas Cludiant Cymunedol lle mae hi wedi arwain arstrategaeth a gweithrediadau yng Nghymru. 

Yn ystod ei hamser gyda GCC, mae Christine wedi darparuarweinyddiaeth ar gyfer y sector trafnidiaeth gymunedol ac wedi sicrhau cyfleoedd sylweddol i’r sector yng Nghymru.

Gan weithio gyda Sustrans Cymru, mae Christine wedicadeirio clymblaid Transform Cymru ers 2019, gan gydlynuystod o sefydliadau ar draws trafnidiaeth, cydraddoldebau ac iechyd i ddylanwadu ar bolisi ar drafnidiaeth gynaliadwy a chynhwysol i Gymru.

 

Dywedodd Steve Brooks, Cyfarwyddwr GweithredolMaterion Allanol Sustrans am ei benodiad:

Rwy’n gyffrous i groesawu Christine Boston i’n tîm fel einCyfarwyddwr newydd Sustrans Cymru.

“Mae Christine yn dod â chyfoeth o brofiad ac arbenigeddgyda hi a fydd yn amhrisiadwy i gefnogi ein tîm a’npartneriaid ledled Cymru.

“Mae ganddi wybodaeth ddofn am gysylltu cymunedau yngNghymru ac angerdd i wneud teithio egnïol yn hygyrch ibawb.

Bydd Christine yn chwarae rhan allweddol wrth i ni barhauâ’n gwaith hanfodol i’w gwneud hi’n haws i bobl gerdded a beicio yn ddiogel a chreu Cymru lanach, gwyrddach ac iachach.”

 

Dywedodd Christine am ei phenodiad:

Rwy’n falch iawn o ymuno â’r tîm arbenigol yn Sustrans ac edrychaf ymlaen at barhau i hyrwyddo teithio egnïol yngNghymru.

“Mae pandemig COVID-19 wedi caniatáu inni weld sut y gallwn fyw ein bywydau yn wahanol, gan wneud siwrneiaumwy lleol o’r cartref ar droed neu ar feic. Mae awdurdodauledled y byd wedi cyflymu cynnydd ar gyfleusterau teithioegnïol er mwyn caniatáu i bawb wneud siwrneiau diogel ac iach.

Mae’n bwysig i mi ein bod yn defnyddio’r cyfle hwn igefnogi mwy o bobl i fwynhau buddion cerdded a beicio, gangael gwared ar y rhwystrau sydd hyd yma wedi gwaharddpobl.”

 

Bydd yr apwyntiad hwn yn caniatáu Sustrans i wthio einhagenda cynhwysiant ymlaen er mwyn sicrhau y gall mwy o bobl ledled Cymru ddewis teithio egnïol fel yr opsiwn mwyafdiogel a mwyaf cyfleus.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle