Mae cwpl o Lyncorrwg yn ‘blês’ gyda’r ffaith bod eu system gwres canolog am ddim wedi’i gosod mewn pryd ar gyfer tywydd y gaeaf.
Gosodwyd boeler cyfunol nwy newydd am ddim yn ddiweddar yng nghartref Mr a Mrs Phillip yn lle eu hen foeler glo.
Ariannwyd y boeler newydd drwy Gronfa Cartrefi Cynnes Cyngor Castell-nedd Port Talbot, cynllun sy’n helpu i leihau biliau ynni preswylwyr cymwys drwy osod system gwres canolog nwy am y tro cyntaf (boeler, rheiddiaduron, pibellau) a mesurau arbed ynni (inswleiddio’r llofft, diogelu rhag drafft, bylbiau golau ynni isel etc.).
Meddai Mrs Phillips, “Y dewis oedd newid i wres canolog olew neu nwy. Gwnaethon ni gais ac anfonwyd ffurflenni atom i’w llenwi ac roedden ni’n bodloni’r meini prawf angenrheidiol. Cawsom help gan y staff dan sylw gyda phopeth yr oedd angen ei wneud ar y camau gwahanol. Ni allai hyn fod wedi dod ar amser gwell i ni oherwydd problemau iechyd fy ngŵr. Rydym mor hapus yn awr gan fod y cyfan wedi cael ei orffen i ni cyn y gaeaf.”
I fod yn gymwys ar gyfer Cronfa Cartrefi Cynnes, mae’n rhaid i’r perchnogion cartrefi:
Yn byw yng Nghastell-nedd Port Talbot ac:
Yn cael eich ystyried yn aelwyd incwm isel
Neu’n treulio mwy na 10% o incwm eich aelwyd ar ynni
Neu’n byw mewn ardal incwm isel (gwiriwch gyda’r tîm i weld a ydych yn byw mewn ardal incwm isel)
Neu’n derbyn rhai budd-daliadau penodol
Nid oes system gwres canolog olew/nwy neu LPG (a boeler a rheiddiaduron) yn eich cartref ar hyn o bryd
Yn berchen ar eich eiddo eich hun neu eiddo a rentir yn breifat (bydd yn rhaid i landlordiaid preifat dalu cyfraniad o 25% tuag at gost y gwaith)
Meddai’r Cynghorydd Peter Richards, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac Iechyd,
“Rydym yn credu bod pawb yn haeddu cael byw mewn cartref cynnes ac rwyf wrth fy modd ein bod ni wedi gallu helpu preswyliwr arall drwy’r gronfa.
“Mae’n bwysig ein bod yn gweithio i fynd i’r afael â’r her o wres fforddiadwy mewn cartrefi. Rydym yn ymroddedig i helpu pobl i fforddio’r ynni y mae ei angen arnynt ac i leihau’r effeithiau negyddol ar iechyd yn sgîl byw mewn cartref nad yw wedi’i wresogi’n gywir.
“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n credu y gall fod yn gymwys i gael cymorth i gysylltu â ni.”
Ariennir y cynllun drwy Gronfa Cartrefi Cynnes gwerth £150m a sefydlwyd gan y Grid Cenedlaethol ac fe’i gweinyddir gan y cwmni budd cymunedol, Affordable Warmth Solutions, i gynorthwyo awdurdodau lleol i fynd i’r afael â rhai o’r materion sy’n effeithio ar aelwydydd sy’n dlawd o ran tanwydd.
Meddai Jeremy Nesbitt, Rheolwr-gyfarwyddwr Affordable Warmth Solutions,
“Rydym yn gyffrous am y buddsoddiad hwn gan y Grid Cenedlaethol ac rydym yn falch iawn o gefnogi Cronfa Cartrefi Cynnes Cyngor Castell-nedd Port Talbot i ariannu’r cynllun er mwyn mynd i’r afael â thlodi tanwydd. Mae datrys problemau sy’n gysylltiedig â thlodi tanwydd yn parhau i herio llawer o’n rhanddeiliaid ac mae’r adborth rydym eisoes wedi’i dderbyn yn dystiolaeth o sut bydd y Gronfa Cartrefi Cynnes yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i filoedd o gartrefi ledled Prydain Fawr.
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i: www.npt.gov.uk/cronfacartreficynnes . Os ydych chi’n ansicr a ydych chi’n cwrdd â’r meini prawf perthnasol, cysylltwch â’r Tîm Adnewyddu Tai ar 01639 686504 neu e-bostiwch renewalarea@npt.gov.uk.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle