Mae Gyrfa Cymru wedi lansio cyfres o adnoddau i ysgolion cynradd oâr enw âDinas Gyrfaoeddâ, syân cynnwys cwisiau, taflenni ffeithiau a fideos byr am wahanol swyddi a sectorau diwydiant.
Â
Feâu crĂ«wyd i ddysgu disgyblion Cyfnod Allweddol 2 am yrfaoedd aâr byd gwaith, ac maeâr adnoddau bellach ar gael i athrawon eu lawrlwytho aâu defnyddio yn y gwersi.
Â
Cynlluniwyd yr adnoddauân benodol i gyd-fynd Ăąâr cwricwlwm newydd i Gymru 2022 syân cynnwys ystod o themĂąu a phynciau y gellir eu defnyddio mewn ffordd hwyliog, hawdd ac atyniadol.
Â
Maeâr pecyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth ac offer rhyngweithiol i athrawon eu defnyddio mewn gwersi gan gynnwys Mathemateg a Rhifedd, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Gwyddoniaeth a Thechnoleg aâr Celfyddydau Mynegiannol.
Â
Maeâr prif offeryn dysgu yn canolbwyntio ar y âMap Darganfodâ syân dangos adeiladau o fewn y âDdinas Gyrfaoeddâ syân cynrychioli prif sectorau diwydiant, megis siopau i gynrychioli swyddi manwerthu, canolfan ailgylchu i ddangos swyddi yn y maes ynni aâr amgylchedd a hyb arloesol i ddangos swyddi ym maes gwyddorau bywyd.
Â
Wrth iâr flwyddyn ysgol fynd heibio ac wrth iâr athrawon integreiddioâr adnoddau yn eu gwersi, y nod yw cael y dosbarth i ddysgu am yr holl swyddi a sectorau a welir yn y Ddinas Gyrfaoedd erbyn diwedd tymor yr haf.Â
Â
Gellir addasuâr map yn dibynnu ar gymuned leol yr ysgol aâr farchnad lafur leol a gall y disgyblion ei ddefnyddio i archwilioâr Ddinas Gyrfaoedd aâi swyddi drwy gydol y flwyddyn ysgol. Er enghraifft, gallaiâr ysgolion sydd mewn rhannau mwy gwledig o Gymru ganolbwyntio ar y sectorau twristiaeth a ffermio a gall ysgolion trefol gael mwy o swyddfeydd ar eu map.
Â
Cafodd yr adnoddau, a dreialwyd mewn ysgolion yng ngogledd Cymru i ddechrau, groeso mawr gan athrawon. Meddai un athro a gymerodd ran yn y cynllun peilot âyn sicr mae yna flwch mewn addysg gynradd a bydd y disgyblion yn elwa o gael gwybodaeth am swyddi a chyflogau iâw hysgogi a dod yn ddysgwyr mwy annibynnolâ.
Â
Meddai Prif Weithredwr Gyrfa Cymru, Nikki Lawrence: âBydd yr adnoddau newydd yn helpu disgyblion ysgolion cynradd i ddysgu mwy am yr ystod o swyddi a chyfleoedd sydd ar gael ar eu cyfer yn y dyfodol.
Â
âRydym wedi cynllunioâr adnoddau i fod yn rhan hyblyg o gwricwlwm yr ysgol a gall yr athrawon eu cynnwys yn eu cynlluniau gwersi presennol bob tymor. Yn anad dim, bydd ganddynt y rhyddid i ddewis i ba raddau yr hoffent gynnwys y wybodaeth a ddarperir yn y pecyn adnoddau er mwyn ychwanegu at gyd-destun dysguâr dosbarth.
Â
âMaeân bwysig dechrau codi dyheadau pobl ifanc drwy ehangu eu gorwelion pan fyddant yn ifanc aâu helpu i fynd iâr afael Ăą rhagdybiaethau a stereoteipiauân ymwneud Ăąâr byd gwaith.â
Â
Ychwanegodd athro arall a gymerodd ran yn y cynllun peilot: âcawsom ddwy wers unigol i ddechrau ac rydym wedi trefnuâr arddangosfa.Â
Â
âGallaf weld nawr sut y gallwn ddysgu am yrfaoedd newydd drwyâr pynciau aâu hychwanegu at yr arddangosfaâ.
Â
Maeâr adnoddau bellach ar gael iâw lawrlwytho drwy adran Hwb Gyrfa Cymru. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i adran gweithwyr gyrfaoedd proffesiynol gwefan Gyrfa Cymruhttps://gyrfacymru.llyw.cymru/gweithwyr-gyrfaoedd-proffesiynol
Â
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle