Y Gronfa Cadernid Economaidd – Dysgwch a yw eich busnes yn gymwys i gael cymorth gan y trydydd cam

0
358

Gall busnesau ledled Cymru bellach gael gwybod a ydyn nhw’n gallu gwneud cais am drydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd.

Yr wythnos diweddaf cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, gyfnod newydd y gronfa, a fydd yn gweld £140 miliwn yn cael ei wneud ar gael i fusnesau.

Bydd y gwiriwr cymhwysedd yn galluogi busnesau i wirio a ydyn nhw’n gymwys i gael mynediad at y rhan hon o’r gronfa, gwerth £80 miliwn, a fydd yn cefnogi cwmnïau a chanddynt brosiectau a fydd yn eu helpu i fod yn rhan o economi’r dyfodol. Disgwylir i gwmnïau fuddsoddi eu harian eu hunain a meddu ar gynllun clir ynghylch y ffordd y byddan nhw’n addasu i’r economi yn dilyn COVID-19.

Bydd £20 miliwn o’r cyllid hwn yn cael ei glustnodi i gefnogi’r sector twristiaeth a lletygarwch, sy’n wynebu heriau penodol wrth i’r gaeaf nesáu.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar fanylion y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Lleol. Cyhoeddir rhagor o wybodaeth ynghylch sut i gael mynediad at y gronfa hwn ar wefan Busnes Cymru maes o law.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates: “Mae cymorth gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn hanfodol i fusnesau ledled Cymru wrth ymdrin ag effeithiau economaidd pandemig y coronafeirws.

“Mae ein Cronfa Cadernid Economaidd wedi bod yn allweddol i’r gwaith hwn, ac mae eisoes wedi helpu i ddiogelu mwy na 100,000 o swyddi.

“Rydyn ni’n agor y gwiriwr cymhwysedd ar gyfer £80 miliwn nesaf y gronfa fel y gall busnesau ddysgu a ydyn nhw’n debygol o elwa. Rydyn ni wedi clustnodi £20 miliwn o’r cyllid hwn yn enwedig ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch, i gydnabod y pwysau penodol maent yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod heriol hwn.

“Bydd y broses ymgeisio yn agor yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 26 Hydref. Byddaf hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut y gall busnesau yr effeithir arnyn nhw gan gyfyngiadau lleol gael mynediad ar y £60 miliwn rydyn ni wedi ei glustnodi at y diben hwn maes o law.”

Bydd y grantiau datblygu busnes gwerth £80 miliwn ar gael i ficrofusnesau, busnesau bach a chanolig a busnesau mawr.

  • Bydd microfusnesau (sy’n cyflogi rhwng 1 a 9 o bobl) yn gallu gwneud cais am hyd at £10k, ar yr amod eu bod yn buddsoddi o leiaf 10% o’r swm maen nhw’n ei dderbyn o’u harian eu hunain.
  • Bydd busnesau bach a chanolig (sy’n cyflogi rhwng 10 a 249 o bobl) yn gallu gwneud cais am hyd at £150k, ar y amod eu bod yn buddsoddi o leiaf 10% o’r swm hwn o’u harian eu hunain os ydyn nhw’n fusnes bach (1–49 aelod o staff ) ac o leiaf 20% os ydyn nhw’n fusnes canolig (50–249).
  • Bydd busnesau mawr (sy’n cyflogi dros 250 o bobl) yn gallu gwneud cais am hyd at £200k, ar yr amod eu bod yn buddsoddi o leiaf 50% o’r swm hwn o’u harian eu hunain.

Mae’r Gwiriwr Cymhwysedd ar gyfer y rhan hon o’r gronfa ar gael yma: https://fundchecker.businesswales.gov.wales/erfphase3/cy

Bydd y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Lleol, gwerth hyd at £60 miliwn, yn rhoi grantiau ar sail y system Ardrethi Annomestig i fusnesau sydd wedi dioddef effeithiau sylweddol o ganlyniad i gyfyngiadau lleol. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Busnes Cymru maes o law.

Gallai busnesau cymwys yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd mewn adeiladau â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000 gael grant gwerth £1,500.

Bydd grant gwerth £1,000 ar gael i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

Previous articleCarer Cards launched in Ceredigion
Next articleGuilty plea reached for animal welfare charges
Emyr Evans
Emyr likes running when fit,and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The West Wales Chronicle. All Emyr's thoughts are his own.