GALWADAU O’R NEWYDD AM DDEDDF AWYR LÂN I GYMRU I WELLA IECHYD Y GENEDL

0
1142
Plaid Cymru's Helen Mary Jones

Cyflwynwyd datganiad o farn yn galw am Ddeddf Awyr Lân i Gymru gan yr Aelodau o’r Senedd Helen Mary Jones a Llyr Gruffydd i gyd-fynd â Diwrnod Awyr Lân (8 Hydref).

Meddai Joseph Carter, Cadeirydd Awyr Iach Cymru: ‘Rydym yn annog ASau ar draws y sbectrwm gwleidyddol i lofnodi’r Datganiad o Farn hwn i gefnogi Diwrnod Awyr Lân. Mae llygredd aer yn fygythiad cyhoeddus ac amgylcheddol o bwys ac y mae’n costio rhyw £1 biliwn i Gymru. Mae Cynllun Awyr Lân diweddar Llywodraeth Cymru yn gam cyntaf o bwys i fynd i’r afael â’r heriau a wynebwn, ond mae arnom angen Deddf Awyr Lân i osod targedau llygredd newydd ac amddiffyn bywydau.’

Dywedodd AS Plaid Cymru dros y Canolbarth a’r Gorllewin Helen Mary Jones, Gweinidog cysgodol dros yr Economi, Trafnidiaeth a Thaclo Tlodi: “Rydym oll wedi sylwi ar y gwelliant yn ansawdd yr aer diolch i’r cloi oherwydd Coronafeirws. Mae arnom angen gwneud yn siŵr, wrth i ni ail-adeiladu ein heconomi, nad ydym yn anghofio pwysigrwydd awyr lân a’n hamgylchedd.”

Ychwanegodd AS Gogledd Cymru Llyr Gruffydd, Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:

“Mae llygredd aer yn achosi 1,400 o farwolaethau yn ychwanegol gyda phob blwyddyn a aiff heibio, ac fel gyda’r argyfwng hinsawdd, allwn ni ddim aros yn hwy, mae arnom angen gweithredu ar frys i lanhau ein hawyr fudr. Byddai Llywodraeth Cymru dan Blaid Cymru yn sicrhau fod gan unrhyw gynllun at y dyfodol rym deddfwriaethol; mae angen rhoi’r gorau i fod yn chwit-chwat a newid Cymru am byth.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle