Y myfyriwr Matt yn dweud fod Covid-19 wedi dysgu iddo beth yw gwir ystyr bod yn nyrs

0
597

Pan gafodd Matt Townsend, myfyriwr nyrsio o Brifysgol Abertawe, gyfle i ymuno â rheng flaen y GIG ar anterth argyfwng y coronafeirws, roedd yn gwybod yn syth beth oedd yn rhaid iddo ei wneud.

Arweiniodd difrifoldeb y pandemig at apêl i fyfyrwyr nyrsio fel Matt ddewis cymryd lleoliadau gwaith clinigol a fyddai’n helpu i gryfhau’r gweithlu gofal iechyd.

Dywedodd Matt, sydd ar ei ail flwyddyn ar gwrs Nyrsio Oedolion yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, nad oedd unrhyw beth ganddo i’w ystyried ond cymryd rhan.

Er hynny, nid oedd yn benderfyniad hawdd – yn enwedig ar ôl i Covid hawlio bywyd un o ddarlithwyr Matt, Brian Mfula, ym mis Ebrill.

“I lawer ohonom, daeth marwolaeth Brian â difrifoldeb y sefyllfa adref ynghyd â breuder bywyd. Fe wnaeth marwolaeth Brian fy nifetha. Ddim bythefnos ynghynt, roedd wedi ein dysgu fesul Zoom.

“Dysgais lawer iawn ganddo, a chadarnhaodd ei farwolaeth un peth – nid oedd coronafeirws yn arbed neb. Ychydig ddyddiau yn hwyrach, eisteddais wrth fy nesg gan ysgrifennu llythyrau hwyl fawr, rhag ofn.”

Er gwaethaf ofnau ei deulu a’i ffrindiau, yn enwedig ei ŵr Pete, roedd Matt yn un o 700 o fyfyrwyr nyrsio Abertawe a wnaeth fynd ar leoliad estynedig mewn ymarfer clinigol.

“Wrth wraidd fy modolaeth, rydw i eisiau bod yn nyrs ac rwyf am gynorthwyo lle y gallaf. Rwy’n cofio meddwl i mi fy hun, ‘Rwy’n nyrs y dyfodol. Mae gen i gyfrifoldeb proffesiynol a dyletswydd gofal tuag at fy nghleifion.”

Yn ystod yr argyfwng, cyn ac yn ystod ei amser ar y wardiau yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, cadwodd Matt gyfnodolyn, gan ddogfennu ei brofiadau a’i feddyliau.

Gydag anogaeth gan y Pennaeth Nyrsio, yr Athro Jayne Cutter, mae Matt bellach wedi paratoi papur yn seiliedig ar ei gyfnodolyn sydd newydd ei gyhoeddi yn The British Journal of Nursing.

Roedd Matt hefyd yn cadw flog, a gofnodwyd yn aml ar ddiwedd shift blinderog, sy’n rhoi cipolwg ar sut brofiad yr oedd i fyfyrwyr a gafodd eu plymio i rôl amser llawn mor gynnar yn eu gyrfaoedd.

“Nos ar ôl nos, byddwn yn dychwelyd adref o’r lleoliad ac yn ysgrifennu. Rhai nosweithiau byddwn yn ysgrifennu am oriau mewn ymgais bron yn anobeithiol i wneud synnwyr o’r hyn yr oeddwn wedi’i weld, neu’r hyn yr oeddwn wedi’i ddysgu. Ar lawer ystyr, daeth fy nghyfnodolyn yn therapydd, fy confidante, y seinfwrdd anfeirniadol o sut roeddwn yn ymdopi.”

Mae’n sicr bod y profiad, er ei fod yn drallodus yn aml, wedi bod yn un gwerthfawr i’w holl gyd-fyfyrwyr: “Mae hyn wedi ein gwneud ni’n ymarferwyr cryfach a mwy medrus. Yn ystod y lleoliad, datblygais yn bersonol, yn broffesiynol ac yn emosiynol.”

Ar wahân i gefnogaeth gan y Brifysgol, dywedodd Matt ei fod wedi elwa o fod yn rhan o dîm, nid yn unig ar ei ward ond yn y GIG yn ei gyfanrwydd.

“Roeddwn i’n teimlo ein bod ni oll yn hyn gyda’n gilydd ac roedd yr ymdeimlad hwnnw o undod yn help mawr i mi, fe wnaeth i ni deimlo ein bod ni’n gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd.”

Talodd deyrnged hefyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac i’r modd y gwnaeth yr ysbyty i fyfyrwyr sy’n nyrsio teimlo’n ddiogel a chael cefnogaeth.

Dengys ei flogiau sut y dechreuodd yr oriau hir ynghyd â sesiynau dysgu ar-lein wythnosol gadael eu hôl. Wrth gofnodi yn ei gar yn dilyn un shifft, dywedodd: “Rwy’n teimlo’n flinedig ac ychydig yn sigledig felly rydw i’n mynd i wirio gyda fy mentor academaidd i weld sut y gallwn i wneud pethau ychydig yn wahanol efallai. “

Ond dywedodd fod rhai pethau cadarnhaol: “O leiaf does dim problem cael mannau parcio yn yr ysbyty!”

Yn ystod un pwynt a gofnodwyd gartref yn ystod pedwar diwrnod i ffwrdd o’r ward, anogodd Matt gydweithwyr i wneud y gorau o unrhyw amser i ffwrdd.

“Rhowch amser i’ch hun wella – mae gennym lawer yn digwydd. I mi, mae’n ymwneud â mwynhau amser gyda Pete, mwynhau yn yr awyr agored a bod yn garedig â mi fy hun.

Mae’r amserau’n galed ar y ward, rydyn ni’n mynd drwyddo ond peidiwch byth ag anghofio’r gwaith da rydych chi’n ei wneud. ”

Gydag ymweliadau ysbyty’n dod i stop, roedd myfyrwyr nyrsio fel Matt yn gweithredu fel cysylltiadau hanfodol rhwng cleifion a’u hanwyliaid.

“Roedd yn gromlin ddysg i ni i gyd – nyrsys a chleifion, yn ei chanol hi gyda’n gilydd.”

Nawr bod y lleoliadau gwaith wedi dod i ben, dywed Matt ei fod yn falch ei fod wedi cael cyfle i fod yn rhan. Dywedodd: “Roedd dychwelyd i ymarfer clinigol fel myfyriwr nyrsio yn adferiad i’w groesawu o undonedd y cyfnod clo. Fe wnaeth rhoi’r cyfle i mi deimlo’n ddefnyddiol eto. Fe roddodd bwrpas i mi.

“Er i mi ddysgu llawer iawn yn glinigol ac, heb amheuaeth, wedi datblygu’n broffesiynol fel nyrs, mae fy nhaith Covid-19 wedi bod yn un hynod bersonol. Mae’r siwrnai hon nid yn unig wedi effeithio a gwella fy natblygiad clinigol a phroffesiynol, ond rhodd hefyd y cyfle i mi dyfu’n emosiynol.”

Ond dywed y bydd bob amser yn ddiolchgar iawn i’r cleifion a’r teuluoedd yr oedd yn gofalu amdanynt.

“Diolch i chi am ymddiried yn eich gofal ac am ddysgu cymaint i mi am yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn nyrs ond hefyd yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn fi fy hun.”

Dywedodd yr Athro Cutter fod myfyrdodau Matt wedi darparu mewnwelediad gwerthfawr i’r hyn yr oedd yn rhaid i’r proffesiwn nyrsio ddelio ag ef a sut yr oedd yn addasu i weithio trwy’r pandemig.

Meddai: “Rwy’n ddiolchgar iawn i Matt am gadw’r cofnod hwn. Trwy rannu ei brofiadau, mae wedi gallu cynnig mewnwelediad go iawn i’r anawsterau sy’n wynebu myfyrwyr sy’n nyrsio yn ystod y coronafeirws a sut y gwnaethon nhw ymdopi.

“Rydym yn falch iawn o’r cyfraniad y llwyddodd ein myfyrwyr ei wneud mewn amgylchiadau mor rhyfeddol i ofal iechyd. Mae wedi bod yn gyfnod anodd nid yn unig iddyn nhw ond hefyd i’r cydweithwyr cymwys a’u tywysodd trwy ymarfer clinigol a’u mentoriaid yma yn y Brifysgol.
Mae gwybod eu bod wedi gallu ymateb i’r her yn rhoi pleser mawr i ni i gyd ac yn eu gosod mewn sefyllfa wych ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Townsend, M. (2020). Learning to nurse during the pandemic: a student’s reflections. British Journal of Nursing, 29(16), 2-3.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle